Skip to main content

Ceredigion County Council website

Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Ceredigion yn dilyn trywydd 60 milltir rhwng aberoedd y Teifi a'r Dyfi. Mae'r llwybr troed yn cysylltu trefi a phentrefi'r arfordir ar hyd golygfeydd ysblennydd Bae Ceredigion.

Llwybr Arfordir Castell Bach

Bydd cerddwyr yn gweld blodau gwyllt, adar y môr a chyfoeth o fywyd gwyllt. Mae hanes cyfoethog yr ardal yn amlwg, o gaerau'r oes haearn i borthladdoedd y 19eg ganrif.

Mae'r Cyngor Sir hefyd wedi cyhoeddi llyfryn swyddogol ynglyn â Llwybr yr Arfordir. Mae'r llyfryn ar gael yn y Canolfannau Croeso a mannau eraill a thrwy wefan Darganfod Ceredigion.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ynglyn â cherdded arfordir Ceredigion drwy fynd at wefan Llwybr Arfordir Cymru.