Os mai un oedolyn yn unig sy'n byw yn yr annedd, caniateir gostyngiad o 25%. Fe ddylai'r anedd fod yr unig lle neu y brif lle ble mae'r odeolyn sydd dros yr oedran o 18 yn byw.

Gall rhai oedolion sy'n byw yn yr annedd gael eu 'diystyru' at ddibenion y gostyngiad. Mewn geiriau eraill, ni chânt eu cyfri'n aelodau o'r cartref at ddibenion hawlio gostyngiad yn Nhreth y Cyngor.

Dyma'r grwpiau o oedolion a gaiff eu diystyru:

  • Myfyrwyr llawn amser, nyrsys sy'n fyfyrwyr; prentisiaid a phobl ifanc sydd ar gyrsiau Hyfforddiant Ieuenctid
  • Cleifion preswyl mewn ysbyty
  • Pobl sy'n derbyn gofal mewn cartrefi gofal
  • Pobl sy'n dioddef o salwch meddwl difrifol
  • Pobl sy'n aros mewn rhai hosteli neu lochesi nos arbennig
  • Pobl ifanc 18 a 19 oed sydd yn neu newydd adael yr ysgol
  • Gweithwyr gofal sy'n gweithio am gyflog isel (i elusennau fel rheol)
  • Pobl sy'n gofalu am rywun sydd ag anabledd ac nad yw'n ŵr, yn wraig, yn bartner nac yn blentyn dan 18 oed
  • Aelodau o luoedd sydd ar ymweliad a rhai sefydliadau rhyngwladol
  • Aelodau o gymunedau crefyddol (mynaich a lleianod)
  • Carcharorion (ac eithrio'r rhai a garcharwyd am beidio â thalu Treth y Cyngor neu ddirwy)

Gellir cael gostyngiad o dan yr amgylchiadau isod:

  • Lle bo pawb ond un oedolyn sy'n byw yn yr annedd yn cael eu diystyru, neu
  • Lle bo pob oedolyn sy'n byw yn yr annedd yn cael eu diystyru.

Os yw eich bil yn dangos bod gostyngiad wedi'i ganiatáu rhaid i chi ddweud wrth yr awdurdod sy'n eich bilio os bydd unrhyw newid yn eich amgylchiadau a fydd yn effeithio ar eich hawliau.Os na wnewch hynny, gallwch gael eich cosbi.

Cyflwynodd Deddf Llywodreath Leol 2003 bwerau dewisol newydd ar gyfer y Cyngor mewn cyswllt a disgownt treth y cyngor. Mae'r Ddeddf yn rhoi rhagor o ryddid i gynghorau i benderfynu neu amrywio disgownt ac eithriadau mewn cyswllt a threth y cyngor er mwyn rhoi ystyriaeth i broblemau lleol megis gorlifo a thrychinebau naturiol eraill.

Os ydych yn credu efallai fod gennych hawl i ddisgownt yna mae'r ffurflenni cais priodol ynghyd a manylion llawn ar gael gan y Pennaeth y Gwasanaethau Ariannol neu ar y wefan hwn.