Mae'n bosib y byddwch yn gymwys i gael gostyngiad yn Nhreth y Cyngor os oes rhywun sy'n anabl yn eich cartref ac os oes yna rai nodweddion yn y cartref sy'n ofynnol i ateb anghenion y sawl sy'n anabl.

Gallai'r nodweddion arbennig gynnwys ystafell arbennig, ystafell wely ychwanegol neu gegin neu le digonol ar gyfer cadair olwyn. Rhaid i'r nodweddion fod yn hanfodol ac o bwys i les y sawl sy'n anabl.

DAETH NEWID I'R RHEOLIADAU I RYM AR 1 EBRILL 2000. O'R DYDDIAD HWN FE ALLECH FOD A HAWL I OSTYNGIAD OS OES RHYWUN YN BYW MEWN ANNEDD SYDD YM MAND PRISIO A.