Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Cynllun Teithio Llesol Pont Plascrug

Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyhoeddus

Cafwyd ymateb sylweddol gan y cyhoedd a rhanddeiliaid allweddol gyda 1,978 arolwg wedi'u cwblhau (1,510 ar-lein, ynghyd â 468 arolwg ar bapur). O'r rhain, cafodd 296 o gyflwyniadau ar-lein gwag eu dileu, gan adael 1,681 o ymatebion wedi'u cynnwys yn y dadansoddiad. Dangosodd yr ymgynghoriad fod cefnogaeth gref iawn ar gyfer Opsiwn A. O'r ymatebion a ddadansoddwyd, dewisodd 1,602 Opsiwn A fel eu dewis cyntaf o'i gymharu â 21 ar gyfer Opsiwn B, a 35 ar gyfer Opsiwn C (roedd 23 o'r ymatebion yn aneglur o ran yr opsiwn a ffefrir).

Gellir lawrlwytho Adroddiad Llawn ar yr Ymgynghoriad Cyhoeddus yma - Pont Teithio Llesol Plascrug Adroddiad ar yr Ymgynghoriad Cyhoeddus.

Y camau nesaf a argymhellir

Yn sgil casgliadau'r ymgynghoriad, dylai'r cam nesaf fwrw ymlaen ag Opsiwn A ar gyfer datblygu dyluniad pellach, yn amodol ar ddichonoldeb, cymeradwyaeth statudol a thrydydd parti, ystyriaethau ariannu, a datrys y materion y mae angen mynd i'r afael â nhw a nodwyd trwy'r ymgynghoriad.

Dylai'r cam nesaf hwn gynnwys ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid yr effeithir arnynt yn uniongyrchol wrth i'r dyluniad ddatblygu, yn enwedig mewn perthynas â mynediad, diogelu, trefniadau dros dro yn ystod y gwaith adeiladu, effeithiau gweithredol a gofynion hygyrchedd manwl.

Byddwn yn darparu diweddariadau pellach yma wrth i’r cynllun fynd yn ei flaen.

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynllunio gwelliannau i'r bont sy'n croesi'r rheilffordd ym Mhlascrug, Aberystwyth.

Mae'r bont yn gyswllt pwysig ag ysgolion a chyfleusterau hamdden lleol, gan helpu pobl i osgoi taith llawer hirach trwy ganol y dref neu drwy Lanbadarn. Adeiladwyd y bont gyntaf 20 mlynedd yn ôl, ac mae bellach mor brysur ag erioed.

Bydd angen i bont newydd fodloni safonau dylunio modern. Mae angen iddi hefyd fod yn lletach i ymdopi â’r nifer cyfredol o bobl sy’n ei defnyddio a'r cynnydd disgwyliedig yn y dyfodol wrth i fwy o bobl ddewis cerdded, olwyno neu feicio.

Mae yna rai heriau oherwydd y datblygiad cyfagos, ac rydym wedi dylunio sawl opsiwn. Mae gan bob un ei fanteision a'i anfanteision ei hun, ac rydym am glywed eich barn arnynt.

Mwy o wybodaeth

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gydag Ymgynghoriaeth Gwynedd Consultancy a ‘Rural Office’ i ddatblygu'r opsiynau dylunio ar gyfer y bont newydd.

Cliciwch ar y dolenni isod i weld modelau 3D o'r opsiynau.

Mae'r modelau hyn yn ddangosol ac nid ydynt yn cynrychioli dyluniad wedi'i ddatrys yn llawn.

Lawrlwythwch y ddogfen hon sy'n esbonio ac yn cymharu'r opsiynau arfaethedig - Dogfen Ymgysylltu: Adolygaid o Opsiynau Pont Arfaethedig.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus o 14 Ionawr i 25 Chwefror 2026 ac roedd yn cynnwys holiadur ar-lein, ffurflenni papur ar gyfer ymateb, digwyddiad cyhoeddus i ddosbarthu gwybodaeth ac ymgysylltiad wedi’i dargedu gyda rhanddeiliaid allweddol.