Yma cewch wybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud ar Deithiau Llesol yng Ngheredigion.

Mae Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio, gwella a hyrwyddo llwybrau cerdded a beicio ar gyfer siwrneiau bob dydd.

O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 mae gofyn i Gyngor Sir Ceredigion greu Map o Lwybrau’r Dyfodol yn gosod ein rhaglen 15 mlynedd o welliannau i lwybrau teithio llesol.

Er mwyn cyflawni’r ddyletswydd hon mae’n rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi Map o’r Llwybrau Presennol sy'n dangos llwybrau sy’n addas ar gyfer cerdded neu feicio ac sy’n bodloni'r safonau a nodwyd yng Nghanllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Cynllun o lwybrau yw’r Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol a bydd Cyngor Sir Ceredigion yn ei ddefnyddio i benderfynu ymhle y dylid gwneud gwelliannau i’r ddarpariaeth cerdded a beicio yn y sir. Bydd yn helpu i wneud teithiau ar droed neu ar feic ledled Ceredigion yn haws ac yn fwy diogel i bawb, yn enwedig i’r rheini sydd ddim yn cerdded neu'n beicio'n aml ar hyn o bryd a phobl sy'n defnyddio cymhorthion i symud.

Yn ystod yr adolygiad o’r Map Rhwydwaith Teithio Llesol, gwnaethom ymgynghori â’r cyhoedd yn 2020 a 2021 gan eich gwahodd i ddweud wrthym a oedd y llwybrau a gynigiwyd yn fwy tebygol o’ch helpu i fynd o amgylch eich ardal leol fel cerddwr neu feiciwr. Gwnaethom ystyried y sylwadau hyn a drafftio cynlluniau o’r Llwybrau Presennol a Llwybrau’r Dyfodol ar gyfer siwrneiau cerdded a beicio bob dydd yn Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan. At ddibenion yr adolygiad hwn, rhaid oedd canolbwyntio ar lwybrau yn y tair ardal yng Ngheredigion a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru - Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan - yn ogystal â chysylltiadau â'u cymunedau cyfagos.

Cafodd y Map o’r Rhwydwaith Teithio Llesol ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 31 Mawrth 2022. Bu i’r Gweinidog Newid Hinsawdd gymeradwyo’r Map ar gyfer Ceredigion ar 3 Awst 2022 a gellir gweld y mapiau ar MapDataCymru (a gynhelir gan Lywodraeth Cymru).

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllaw i ddefnyddwyr ar wefan MapDataCymru i’w helpu i fwrw golwg ar y mapiau ar y platfform.

Os cewch anhawster, cysylltwch â: Data@llyw.cymru

Noder: dyhead yn unig yw Llwybrau’r Dyfodol ar hyn o bryd ac nid oes sicrwydd y bydd yr Awdurdod yn medru cael y cyllid na’r grantiau ar gyfer eu hadeiladu. Serch hynny, byddwn yn gwneud pob ymdrech i wneud cais am gyllid lle bynnag y bo modd. Syniad bras yw rhai o Lwybrau’r Dyfodol ac mae’n bosib y byddant yn newid wrth i’r llwybrau gael eu datblygu ymhellach.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y dylai’r Mapiau o’r Llwybrau Presennol a Llwybrau'r Dyfodol gael eu hailgyflwyno ar 1 Rhagfyr 2026.

Isod gellir gweld, er gwybodaeth, y Mapiau blaenorol o’r Llwybrau Presennol a Llwybrau’r Dyfodol (yr enw blaenorol ar Fapiau Llwybrau’r Dyfodol oedd Mapiau Rhwydwaith Integredig) a gafodd eu cymeradwyo gan y Gweinidog ym mis Chwefror 2018.

Map Rhwydwaith Integredig

Fel rhan o’n hymrwymiad i gynnig gwell darpariaeth i gerddwyr a beicwyr yng Ngheredigion, byddwn yn cynhyrchu Map Rhwydwaith Integredig, yn gosod ein rhaglen 15 mlynedd o welliannau i lwybrau teithio llesol.

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â gwella llwybrau seiclo a cherdded yn yr Ardaloedd Dynodedig ar gyfer Teithio Llesol sef Aberystwyth, Aberteifi a Llanbedr Pont Steffan, cyflwynwyd y Mapiau Rhwydwaith Integredig i Lywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2017. Ar ôl hynny, cymeradwywyd y mapiau gan y Gweinidog ar 27 Chwefror 2018 a gallwch eu gweld isod:

Aberystwyth

Aberteifi (Sylwer bod y llwybrau yn Llandudoch o fewn Cyngor Sir Penfro)

Llanbedr Pont Steffan (Sylwer bod y llwybrau yng Nghwmann o fewn Cyngor Sir Gâr)

Noder: dyhead yn unig yw’r llwybrau ar hyn o bryd ac nid oes sicrwydd y bydd yr Awdurdod yn medru cael y cyllid na’r grantiau ar gyfer eu hadeiladu. Serch hynny, byddwn yn gwneud pob ymdrech i wneud ceisiadau am gyllid lle bynnag y bo modd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi y dylai'r Mapiau Rhwydwaith Integredig a'r Mapiau Llwybrau Presennol gael eu hailgyflwyno ar 31 Rhagfyr 2021.

Map Llwybrau Teithio Llesol Presennol

Er mwyn cyflawni’r ddyletswydd hon, mae’n rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi Map o’r Llwybrau Presennol sy'n dangos llwybrau sy’n addas ar gyfer cerdded neu feicio ac sy’n bodloni'r safonau a nodwyd yng Nghanllawiau Dylunio Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Bydd y Map o’r Llwybrau Presennol yn ddefnyddiol i bobl sydd am gynllunio eu siwrneiau cerdded a beicio ymlaen llaw.

Bydd hefyd yn fodd i fesur y cynnydd yn natblygiad rhwydweithiau cerdded a beicio Ceredigion, wrth i lwybrau newydd gael eu sefydlu a’u hychwanegu at y Map o’r Llwybrau Presennol dros amser.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus yn 2017, cafodd y Map Llwybrau Presennol ei ddiwygio a’i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Os hoffech gopi papur o’r Mapiau Llwybrau Presennol, neu gopïau mewn unrhyw fformat arall, cysylltwch â ni.

Nid yw’r mapiau’n dangos yr holl lwybrau posibl, fodd bynnag, mae’r llwybrau a ddangosir wedi cael eu harchwilio sy’n dangos eu bod yn bodloni’r safonau a nodwyd yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru.

Mapiau Llwybrau Presennol:

Aberystwyth

Aberteifi

Llanbedr Pont Steffan

Dylid Darllen y Map o’r Llwybrau Cerdded a Beicio Presennol ar y cyd â’r Datganiad ac Esboniad, sy’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am nifer o lwybrau llai nad ydynt yn bodloni’r safonau a nodir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru, ond sy’n dal i gynnig cysylltiadau defnyddiol yn y rhwydwaith yn gyffredinol.

Dyma fap Teithio Llesol ar gyfer Aberystwyth (diweddarwyd ym Mis Ebrill 2022).

Mae copïau papur ar gael yn Llyfrgell y Dref, y Ganolfan Groeso, Canolfan Hamdden Plascrug a’r siopau beiciau yn y dref.

Mae’r fersiwn ar-lein o’r Map Teithio Llesol ar gyfer Aberystwyth, sydd ar gael isod i’w lawrlwytho, wedi cael ei diweddaru i gynnwys lleoliadau’r gorsafoedd newydd ar gyfer gwefru e-feiciau wrth Lyfrgell Genedlaethol Cymru ac ar gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth. Mae’r rhain am ddim i’r cyhoedd eu defnyddio ond sylwch y bydd angen i ddefnyddwyr gael eu plwg gwefru e-feic a’u pecyn gwifrau eu hunain.

Map Teithio Llesol ar gyfer Aberystwyth

Map Teithio Llesol ar gyfer Aberystwyth

Mae cylchgrawn 'Seiclwch Ceredigion' yn llawn gwybodaeth i helpu pobl o bob oedran i fynd ar eu beic a dechrau seiclo, gyda chanllawiau ar gynnal a chadw beiciau a diogelwch.

Mae'r cylchgrawn yn cynnwys map o Lwybr Ystwyth – sydd yn daith 21 milltir (34km) aml bwrpas ac sydd yn cysylltu ag Aberystwyth, Llanfarian, Ystrad Meurig a Thregaron gyda llawer o rannau heb fod ar y ffordd, seiclo sydd yn gyfeillgar i deuluoedd.

Cyngor yn sicrhau cyllid ar gyfer llwybr Teithio Llesol newydd

Mae trigolion yng Ngheredigion yn mynd i elwa ar lwybr cyd-ddefnyddio newydd yn dilyn cyllid Grant y Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru.

Mae Trafnidiaeth Cymru, sy’n gweinyddu Grant y Gronfa Teithio Llesol ar ran Llywodraeth Cymru, wedi dyfarnu bron i £1.5 miliwn i Gyngor Sir Ceredigion i adeiladu cam cyntaf llwybr cyd-ddefnyddio newydd ar gyfer cerddwyr a beicwyr a fydd yn helpu i wella’r cysylltiad rhwng Aberystwyth a Chomins Coch, ac yn dilyn camau ychwanegol yn y dyfodol, gwella’r cysylltiad rhwng Aberystwyth a Phenrhyncoch a Bow Street.

Y Cynghorydd Keith Henson yw’r Aelod Cabinet ar gyfer Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol a Rheoli Carbon. Dywedodd: “Rwy’n hynod falch o glywed bod y Cyngor wedi cael yr arian grant hwn i ddechrau adeiladu’r cyswllt teithio llesol newydd hwn. Oherwydd maint y cynllun bydd yn cymryd cwpl o flynyddoedd i gwblhau’r cyswllt llawn â Phlas Gogerddan lle bydd yn cysylltu â Bow Street a Phenrhyncoch drwy’r rhwydwaith llwybrau cyd-ddefnyddio presennol a adeiladwyd gan y Cyngor yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn newyddion gwych, yn enwedig i drigolion Comins Coch a disgyblion sy’n mynychu Ysgol Gynradd Comins Coch oherwydd bydd gan y llwybr newydd gyswllt uniongyrchol. Datganodd y Cyngor argyfwng hinsawdd byd-eang yn 2020 a bydd ehangu’r rhwydwaith teithio llesol yn y Sir yn ei gwneud hi’n haws ac yn fwy diogel i drigolion wneud teithiau cerdded a beicio er mwyn lleihau’r defnydd o gerbydau, helpu i leihau allyriadau carbon, a chyfrannu at uchelgeisiau o ran aer glanach wrth ddarparu cyfleoedd i bobl o bob oed a phob gallu fyw bywydau iachach a hapusach.”

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae swyddogion wedi bod yn gweithio i ddatblygu’r cynllun hwn ar y cyd â nifer o bartneriaid a rhanddeiliaid, sydd wedi cynnwys sicrhau tir er mwyn gallu adeiladu’r llwybr cyd-ddefnyddio newydd. Mae’r gwaith datblygu hwn wedi cynnwys rheoliadau Draenio Cynaliadwy ac ecoleg, cael caniatâd cynllunio, ac mae gwaith datblygu’n mynd rhagddo er mwyn gallu symud ymlaen i'r gwaith adeiladu yn y dyfodol.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn randdeiliad allweddol i’r prosiect ac wedi rhyddhau tir ar gyfer adeiladu’r llwybr rhwng Bow Street, Gogerddan a Phenrhyncoch. Mae’n parhau i gefnogi’r prosiect sy’n cael ei ddatblygu gan Gyngor Sir Ceredigion, a fydd yn helpu i greu cyswllt ‘Campws i Gampws’ rhwng Campws Gogerddan, sy’n cynnwys ArloesiAber a Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), a champws Penglais.

Ychwanegodd y Cynghorydd Keith Henson: “Ar hyn o bryd, rhagwelir y bydd gwaith adeiladu ger Ysgol Gynradd Comins Coch yn dechrau yn ystod gwyliau haf yr ysgol er mwyn helpu i leihau’r amhariad ar rieni a disgyblion. Mae lloches feiciau newydd eisoes wedi’i gosod yn yr ysgol i helpu i annog disgyblion a staff i feicio i’r ysgol. Mae’r Cyngor mewn deialog barhaus â Llywodraeth Cymru a swyddogion Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru sy’n rheoli Cefnffordd yr A487 er mwyn cydlynu gwaith adeiladu ar hyd y rhan hon o’r cynllun.”

Dywedodd yr Athro Neil Glasser, Dirprwy Is-Ganghellor ac Arweinydd Gweithredol ar Gynaliadwyedd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae’n bleser cefnogi’r datblygiad hwn a hwyluso’r gwaith sy’n cael ei wneud gan y Cyngor drwy ddarparu rhagor o dir a fydd yn ei gwneud hi’n bosibl i gysylltu campws Gogerddan a champws Penglais er lles ein myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach. Bydd y gwaith hefyd yn cyfrannu at hyrwyddo beicio a cherdded fel dulliau amgen o deithio carbon isel wrth i’r Brifysgol weithio tuag at sefydlu ystâd garbon niwtral erbyn 2030.”

Am fwy o wybodaeth am y cynllun hwn, gweler y cynlluniau drafft isod:

Dyma sioe sleidiau sy’n dangos sampl o’r gwaith a ariannwyd drwy grantiau i wella teithio llesol yn y sir yn y blynyddoedd diwethaf, gan ddangos y seilwaith newydd a’r gwelliannau a wnaed i’r rhwydwaith er mwyn helpu i wneud cerdded, seiclo a reidio sgwter yn haws ac yn fwy diogel. Mae teithiau llesol yn fuddiol i lesiant corfforol ac iechyd meddwl, gan eich helpu chi i gysylltu â natur ac ardaloedd gwyrdd ynghyd â helpu i leihau nifer y teithiau a wneir mewn cerbydau gan ddarparu aer glanach a lleihau allyriadau carbon.