Gallwch yn awr wneud cais ar-lein am Docynnau Tymor Meysydd Parcio.

Drwy brynu Tocyn Tymor does dim rhaid ichi gofio dod ag arian i’r peiriant yn y maes parcio bob tro, ac os ydych chi’n defnyddio meysydd parcio’r Cyngor yn rheolaidd, gallech arbed hyd at 79% o’r gost o barcio bob dydd.

Mae gennym bedwar gwahanol docyn tymor ar gael ar hyn o bryd, yn para 3, 6, 9 a 12 mis. Gallwch brynu Tocyn Tymor unrhyw adeg o’r flwyddyn, gan ddechrau ar y 1af neu’r 15fed o’r mis, a gallwch dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol i wasgaru’r gost. Dylech wneud cais am eich Tocyn Tymor o leiaf 14 diwrnod cyn y dyddiad yr hoffech ddechrau ei ddefnyddio, fel bod digon o amser i brosesu’r cais a chael y tocyn newydd yn barod ichi.

Gan ddibynnu ar ba fath o gerbyd sydd gennych chi, mae tocynnau tymor ar gael ar gyfer y meysydd parcio canlynol sydd o dan reolaeth Cyngor Sir Ceredigion:

Meysydd Parcio

Ffordd y Gaer Isaf (Aberaeron)

Rookery (Llanbedr Pont Steffan)

Traeth y Gogledd (Aberaeron)

Cwmins (Llanbedr Pont Steffan)

Coedlan y Parc Isaf (Aberystwyth)

Rhes y Porth (Llandysul)

Maesyrafon (Aberystwyth)

Iard y Talbot (Tregaron)

Ffordd y Gogledd (Aberystwyth)

Traeth y De, Aberaeron

Y Baddondy (Aberteifi)

Y Rhodfa Newydd (Aberystwyth)

Maes y Ffair (Aberteifi)

Ffordd yr Eglwys (Ceinewydd)

Mwldan (Aberteifi)

Stryd y Cware (Ceinewydd)

Stryd y Cei (Aberteifi)

Dim ond Meysydd Parcio Arhosiad Hir Ledled y Sir

Gloster Row (Aberteifi)

 

Amodau a Thelerau defnyddio Tocynnau Tymor

  1. Nid yw’r tocynnau’n ddilys ar gyfer meysydd parcio arhosiad byr
  2. Nid yw tocynnau tymor ond yn ddilys tan y dyddiad gorffen a nodir ar y tocyn
  3. Rhaid dangos y tocyn tymor mewn lle amlwg y tu ôl i’r ffenestr flaen fel y gellir ei weld yn blaen o’r tu allan i’r cerbyd, neu (os nad oes ffenestr flaen ar y cerbyd) yn y tu blaen neu ochr y teithiwr i’r cerbyd, neu rywle arall sy’n amlwg lle bydd Swyddog o’r Awdurdod hwn yn medru’i weld yn glir.
  4. Nid yw’r Cyngor yn gwarantu y bydd lle ar gael i barcio.
  5. Nid oes modd trosglwyddo’r tocyn i neb arall na chael yr arian yn ôl.
  6. Nid ellir defnyddio’r tocyn ond yn y cerbyd â’r rhif cofrestru a nodir ar y ffurflen gais, ac yn y maes parcio a nodir.
  7. Os methir â dangos y tocyn neu gydymffurfio â’r gorchymyn parcio oddi ar y stryd sydd mewn grym, bydd y cerbyd yn agored i hysbysiad tâl cosb.
  8. Deiliad y tocyn a fydd yn gyfrifol am ei adnewyddu.
  9. Bydd y tocyn yn dal yn eiddo i’r Cyngor ac os bydd unrhyw gamddefnydd ohono fe annilysir y tocyn.
  10. Ni chaniateir defnyddio llungopi o’r tocyn nac addasu’r tocyn mewn unrhyw ffordd, ac os gwneir hynny fe ddiddymir y tocyn a bydd hynny’n effeithio ar eich gallu i gael tocyn newydd.
  11. Os yw tocyn yn mynd ar goll neu’n malu, gall deiliad y tocyn hwnnw wneud cais i’r Cyngor am docyn, ac os bydd hyn yn digwydd o fewn blwyddyn ar ôl cyflwyno’r tocyn bydd yn rhaid talu ffi gweinyddu o £10. Os bydd y tocyn yn mynd ar goll neu’n malu wedi hynny, codir y pris llawn am docyn newydd. Ymhob achos bydd y tocyn gwreiddiol (neu’r tocyn cyntaf a roddwyd yn ei le) yn dod yn annilys, a mater i’r Cyngor yn unig yw penderfynu a ddylid cyflwyno tocyn newydd neu beidio.
  12. Gallu unrhyw berson a awdurdodwyd yn briodol gan y Cyngor gau maes parcio yn llwyr neu’n rhannol pa bryd bynnag y credir bod hynny’n rhesymol angenrheidiol. Rhaid i ddeiliaid tocynnau beidio â mynd i unrhyw faes parcio’r Cyngor pan fydd ar gau.
  13. Gwaherddir ailwerthu tocyn am elw, ac os gwneir hynny fe ddiddymir y tocyn.
  14. Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod o ran unrhyw gerbyd nac unrhyw beth sydd ynddo.

Rhoddir pob Tocyn Tymor ar gyfer cerbyd penodol, ac ni ellir eu trosglwyddo i unrhyw gerbyd arall. Gall gymryd o leiaf 10 diwrnod i newid manylion cofrestru cerbyd ar y tocyn a chodir tâl o £10 am wneud, felly bydd angen ichi roi gwybod inni ymlaen llaw os bydd y manylion yn newid. Dylech wneud hynny cyn gynted ag y bo modd cyn cael y cerbyd newydd, gan nad oes modd gwneud unrhyw drefniadau ichi ddefnyddio’r tocyn cyfredol gyda cherbyd gwahanol i’r un y nodir ei rif cofrestru ar y tocyn hwnnw.  Os ydych chi’n dymuno defnyddio cerbyd newydd cyn i’r Cyngor newid y tocyn a’i roi’n ôl ichi, bydd yn rhaid ichi wneud trefniadau gwahanol o ran parcio.

Gallwch gysylltu â’r Cyngor drwy e-bostio clic@ceredigion.gov.uk os ydych chi am ddefnyddio’r tocyn â cherbyd newydd, neu os yw’ch tocyn yn mynd ar goll neu’n malu.

Gwneud cais am Docyn Tymor