Gwasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol
Croeso i Gynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (CRhAP) Cyngor Sir Ceredigion. Mae rhwydwaith priffyrdd Ceredigion yn cynnwys dros 2,150 km o ffyrdd y mae angen eu rheoli a'u cynnal yn erbyn cefndir o draffig sy'n cynyddu'n barhaus, tywydd amrywiol, a disgwyliadau uchel y cyhoedd.
Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth, ac yn arbennig ein ffyrdd, yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi llawer o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor Sir, ac mae rheolaeth dda o'r rhwydwaith priffyrdd yn allweddol i ba mor dda rydym yn gweithredu fel sir.
Mae'r system ffyrdd yng Ngheredigion yn cefnogi nid yn unig ein dyheadau fel sir ond hefyd y rhanbarth ehangach, a bydd yn rhan bwysig o gyflawni Bargen Twf Canolbarth Cymru.
Mae'r Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd (CRhAP) yn darparu'r fframwaith a'r map llwybr tuag at reoli ein rhwydwaith priffyrdd yn effeithiol. Mae canllawiau cenedlaethol a phwysau ariannol cynyddol yn ein symud tuag at y dull seiliedig ar risg a fabwysiadwyd yn y cynllun hwn a fydd yn helpu i sicrhau ein bod yn buddsoddi ein cyllid lle mae ei angen fwyaf, ac yn y modd mwyaf effeithiol.
Mae'r CRhAP yn trafod sut y bydd yr ased priffyrdd yn cael ei reoli a'i gynnal gan Wasanaethau Priffyrdd ac Amgylcheddol yn unol ag arferion gorau a dulliau sy'n gyson ag Awdurdodau cyfagos, gan alluogi meincnodi bob blwyddyn.
Mae'r cynllun i fuddsoddi yn yr ased priffyrdd yn seiliedig ar sut mae'r ased wedi cael ei reoli yn ystod y cyfnod CRhAP blaenorol a'r costau a fyddai'n gysylltiedig â chynnal y lefelau presennol o ddirywiad yn erbyn y pwysau chwyddiant presennol.
Bydd y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd yn cael ei adolygu bob 5 mlynedd oni bai bod galw am newid sylweddol yn fwy buan, o ganlyniad i newid mawr mewn deddfwriaeth, ac adrodd ar berfformiad yn yr Adroddiad Datganiad a Dewisiadau Blynyddol (ADDB) a fydd yn ein galluogi i fonitro datblygiadau a gwneud penderfyniadau buddsoddi gwybodus.