Mae'r Adain Gwaith Stryd yn gyfrifol am gyd-gysylltu a monitro'r holl weithgareddau a gyflawnir ar y briffordd gyhoeddus ynghyd ag ystod eang o wybodaeth am bob agwedd ar waith ffyrdd a gyflawnir gan "ymgymerwyr" neu eu contractwyr.

Mae'r gweithfeydd hyn yn amodol i ddarpariaethau Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991, Deddf Rheoli Traffig 2004 a Deddf Priffyrdd 1980, lle mae'n ofynnol i gwmni cyfleustodau roi gwybod i Gyngor Sir Ceredigion am unrhyw waith stryd y mae'n ei gyflawni ar y briffordd gyhoeddus.

Ynghyd â chyd-gysylltu gwaith ar y briffordd gyhoeddus, mae Adain Gwaith Stryd Ceredigion hefyd yn gyfrifol am y canlynol:

Ceisiadau i Ffilmio

Gan fod cyfyngiadau Covid-19 mewn grym ar hyn o bryd, mae’r broses o gymeradwyo ceisiadau am ganiatâd i ffilmio wedi newid. Os cymeradwyir y cais mewn egwyddor, caiff y dogfennau sy’n weddill eu hasesu i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r holl ofynion o ran yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac asesiadau risg Covid-19 ar gyfer safleoedd / gweithgareddau penodol ynghyd ag unrhyw ofynion trwyddedu eraill.

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn croesawu gwneuthurwyr ffilmiau i Geredigion ac yn ystyried Ceredigion i fod yn ffilmio-gyfeillgar.

Mae gan Geredigion amryw byd o leoliadau unigryw o ardaloedd gwledig eang fel ei thiroedd fferm i leoliadau glan y môr a safleoedd diwydiannol diffaith. Mae gennym hefyd amrywiaeth eang o adeiladau hanesyddol hardd yn ogystal â bythynnod a phentrefi. Rydym yn hapus i ddarparu ar gyfer eich anghenion lle gallwn a byddwn bob amser yn ceisio helpu gyda'ch anghenion ffilmio.

Os am ffilmio yng Ngheredigion, gofynnwn ichi lenwi ffurflen gais - gan rhoi o leia 7 diwrnod o rybudd a'i dychwelyd i'r Adain Gwaith Stryd gan gynnwys copi o'ch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus.

 

Adran 184 (Mynediad i Gerbydau)

Bydd creu neu newid mynediad i gerbydau ar Ffyrdd Dosbarth (h.y. Cefnffyrdd, Ffyrdd Dosbarth A, B ac C) yn golygu y bydd angen gofyn am ganiatâd cynllunio gan yr awdurdod cynllunio lleol. Bydd gwaith ar Ffyrdd Diddosbarth, er efallai na fydd angen caniatâd cynllunio, yn destun amodau a osodir gan yr awdurdod priffyrdd.

Os am greu neu ehangu mynediad i gerbydau o flaen eich cartref neu fusnes, dylech lenwi'r ffurflen gais a'i dychwelyd atom. Mae angen rhoi rhybudd o 28 diwrnod o leiaf i brosesu'r cais.

Adran 50

Mae angen trwydded gwaith stryd ar unrhyw berson neu sefydliad (ac eithrio unrhyw un sy'n gweithredu o dan hawl statudol) sydd am osod, cadw ac yna archwilio, cynnal a chadw, addasu, atgyweirio, newid neu adnewyddu cyfarpar, neu newid ei leoliad neu ei symud oddi ar y briffordd.

Os hoffech wneud cais am drwydded gwaith stryd, dylech lenwi'r ffurflen briodol sydd ynghlwm a'i phostio'n ôl atom. Mae angen rhoi rhybudd o 28 diwrnod o leiaf i brosesu'r cais.

Sgipiau

Wrth gyflawni unrhyw waith adeiladu / cynnal a chadw neu i dynnu unrhyw ran o eiddo, mae'n bosibl y bydd angen llogi sgip Adeiladwr i symud y rwbel o'r safle.

Os oes gennych le, rhaid ichi leoli'r sgip o fewn cwrtil eich eiddo. Os nad oes gennych le, rhaid i'r cwmni sgipiau wneud cais am drwydded i leoli'r sgip ar y ffordd. Mae hyn yn un o ofynion Deddf Priffyrdd 1980. Mae gan yr awdurdod lleol, Cyngor Sir Ceredigion, hawl i osod amodau o ran lleoliad sgipiau ar y briffordd ac am ba hyd y medrant aros yno.

Cyn y rhoddir trwydded, bydd arolygydd yn cytuno ar leoliad arfaethedig ar gyfer y sgip. Rhaid iddi fod mewn lleoliad diogel a gall fod oddi mewn neu'r tu allan i gwrtil yr eiddo. Bydd yr arolygydd yn ystyried diogelwch y cyhoedd a sut y bydd efallai'n tarfu ar y cyhoedd wrth iddynt fynd heibio cyn cytuno ar leoliad y sgip a chyn rhoi'r drwydded.

Mae rhoi sgip ar y briffordd heb yn gyntaf fod wedi gwneud cais am a chael trwydded, yn drosedd o dan Ddeddf Priffyrdd 1980 a gall arwain at erlyn. Perchennog (cyflenwr) y sgip sy'n gyfrifol am sicrhau bod sgipiau'n cael eu lleoli ar y briffordd fel nad ydynt yn rhwystro defnyddwyr eraill y ffordd. Nid cyfrifoldeb deiliad y tŷ na'r adeiladwr (y contractwr) yw cael trwydded, cyfrifoldeb y cwmni sgipiau ydyw a rhaid i'r cwmni sicrhau bod pawb yn cydymffurfio â'r holl reoliadau ac amodau.

  • Gall trwydded fod yn ddilys am uchafswm o 28 diwrnod er os oes angen sgip am lai na hynny, dylai'r cais nodi hynny. Ar gyfer cyfnodau hirach, dylid gwneud ceisiadau pellach.
  • Dim ond un sgip fydd yn cael ei chaniatáu ar y briffordd ar y tro oni bai fod yr amgylchiadau yn rhai eithriadol.
  • Mae angen rhoi rhybudd o 10 diwrnod o leiaf i brosesu'r cais.

Sgaffaldiau

Wrth gyflawni unrhyw waith adeiladu / cynnal a chadw neu i dynnu rhan o eiddo sydd gerllaw'r briffordd gyhoeddus (ffordd, palmant neu ffordd gefn), mae diogelwch holl ddefnyddwyr y briffordd yn flaenoriaeth.

Gwneir hyn drwy ddarparu mannau diogel ar lefel y ddaear neu blatfform ar lefel uwch. Pan fo angen gosod ffens balis ar y briffordd o gwmpas safle'r gwaith, neu godi sgaffaldiau, rhaid ichi gael caniatâd gan Gyngor Sir Ceredigion. Mae gosod ffens balis gerllaw'r briffordd, neu godi sgaffaldiau ar y briffordd, heb yn gyntaf fod wedi gwneud cais am a chael trwydded, yn drosedd o dan y Ddeddf Briffyrdd a gall arwain at erlyn. Unwaith y rhoddir caniatâd, rhaid darllen yr amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded yn ofalus a chadw atynt bob amser. Dyma ofynion sylfaenol yr amodau hyn:

  • Dim ond contractwyr cymwys a phriodol sydd â'r hawl i godi sgaffaldiau a ffensys palis ar y briffordd gyhoeddus.
  • Gall trwydded fod yn ddilys am uchafswm o 4 wythnos, ond os oes angen sgaffaldiau ond am 10 diwrnod, dylai'r cais nodi hynny. Dylid gwneud ceisiadau pellach ar gyfer cyfnodau hirach.
  • Mae angen rhoi rhybudd o 10 diwrnod o leiaf i brosesu'r cais.

Ffyrdd Sirol

Bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gwrthod unrhyw gais i fasnachu oddi ar y briffordd ar Ffyrdd Sirol.

O dan Ddeddf Priffyrdd 1980, mae gan Gyngor Sir Ceredigion fel Awdurdod Priffyrdd ddyletswydd statudol i leihau unrhyw niwsans a mynd i'r afael ag unrhyw rwystr anghyfreithlon sy'n ymyrryd â rhwydd hynt a mwynhad y briffordd.

Mae Deddf Priffyrdd 1980, Rhan VIIA, Adrannau 115A fel sy'n gynwysedig yn Neddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, yn caniatáu cynghorau i ystyried darparu a thrwyddedu amwynderau ar y briffordd. Nid yw Cyngor Sir Ceredigion wedi mabwysiadu darpariaethau masnachu stryd Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) felly mae'n dibynnu'n bennaf ar Ddeddf Priffyrdd 1980 er mwyn sicrhau rhwydd hynt diogel i'r cyhoedd ar ei rwydwaith priffyrdd.

Mae nifer o resymau paham y mae Cyngor Sir Ceredigion fel yr Awdurdod Priffyrdd yn dewis gwrthod cais i fasnachu ar y briffordd gan gynnwys effaith neu ganlyniad gweithgaredd o'r fath ar fusnes lleol arall.

Cefnffyrdd

Dylech gyflwyno cais yn ysgrifenedig i Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (ACGCC).

www.nmwtra.org.uk/cy/cysylltwch-a-ni/

Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru,
Uned 5,
Llys Britannia,
Parc Menai,
Bangor,
LL57 4BN