Skip to main content

Ceredigion County Council website

Y Cynllun Tai Cymunedol - Rhannu Ecwiti

Amcan y cynllun 'Tai Cymunedol' yw cefnogi pobl trwy greu llwybr at berchentyaeth cartrefi gyda chynllun rhannu ecwiti.

Benthyciadau sydd i’w cael

  • Eiddo i fyw ynddo - hyd at 20% o'r pris prynu yn amodol ar uchafswm pris o £300,000
  • Eiddo Gwag - hyd at 40% o’r pris prynu yn amodol ar uchafswm pris o £300,000

Buddion Allweddol

  • Blaendal - prynu eiddo gydag isafswm blaendal o 5% o’ch arian eich hun
  • Benthyciad Di-log - heb unrhyw ad-daliadau misol
  • Cynyddu cyfran eich ecwiti - cyfle i'r perchnogion 'gamu fyny' i berchnogaeth cyfranddaliadau uwch o'r eiddo drwy brynu blociau o 5% o gyfran ecwiti'r Cyngor dros amser fel y mae eu hamgylchiadau'n caniatáu
  • Eiddo Gwag - gellir defnyddio'r cynllun cyfranddaliadau ecwiti ochr yn ochr â'r grant Benthyciadau Gwella Cartrefi a Y Cynllun Grantiau Cartrefi Gwag Cenedlaethol i drosglwyddo’r eiddo i lawn ddefnydd

Pwyntiau pwysig i'w hystyried cyn derbyn y benthyciad cyfranddaliadau ecwiti

Ad-daliadau Morgais - bydd taliadau morgais misol arferol yn ddyledus i unrhyw ddarparwr morgais ar gyfer unrhyw forgeisi a gymerir mewn perthynas â'r pryniant.  Bydd taliadau misol yn is gan fod angen llai o forgais oherwydd cyfran ecwiti'r Cyngor.

Morgais - rhaid i unrhyw forgais a gymerir mewn perthynas â'r pryniant eiddo fod ar sail ad-dalu.  Ni chaniateir morgeisi llog yn unig.

Ad-dalu Benthyciad y Cyngor - swm y benthyciad sydd i'w ad-dalu i'r Cyngor fydd y swm arian a fenthycwyd neu ganran gyfatebol gwerth yr eiddo ar adeg ei ad-dalu, pa un bynnag sydd uchaf.  Er enghraifft, os ydych yn benthyg £50,000 gan y Cyngor, ac ar adeg ad-dalu'r benthyciad, mae gwerth eich eiddo 20% yn fwy na phan wnaethoch ei brynu.  Bydd yr ad-daliad i’r Cyngor yn £60,000.

Bydd angen ad-dalu'r benthyciad erbyn diwedd cyfnod y morgais neu o fewn 25 mlynedd, pa un bynnag sydd gynharaf.

Bydd gan y Cyngor gyfran yn eich eiddo hyd nes y bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu.

Tai Fforddiadwy yw un o brif flaenoriaethau’r Strategaeth Gorfforaethol, y Cynllun Llesiant, y Strategaeth Dai a’r Cynllun Datblygu Lleol yng Ngheredigion ac mae’r Cyngor yn defnyddio adnoddau sylweddol i greu a rheoli tai fforddiadwy.

Cymeradwyodd y Cabinet y cynllun ar 6 Mehefin 2023 ac mae modd gweld y manylion drwy fynd at:

(Pecyn Cyhoeddus) Agenda Dogfen i/ar gyfer Cabinet, 06/06/2023 10:00