Mae 3 maen prawf cymhwysedd ar gyfer prynu eiddo o fewn y cynllun tai cymunedol:

1. Ni ddylai’r ymgeiswyr fod yn gallu fforddio morgais am 10% yn fwy na’r prisiad y cytunwyd arno ar gyfer yr eiddo, ar ôl tynnu i ffwrdd cyfraniad arfaethedig y Cyngor. Bydd hefyd angen i ymgeiswyr dalu am unrhyw flaendal y mae’r cwmni morgais yn gofyn amdano.

2. Cysylltiad Lleol

  • Mae’n ofynnol bod yr ymgeisydd wedi byw am gyfnod yng Ngheredigion neu mewn ardal cyngor cymuned / tref cyffiniol (neu gyfuniad o’r ddau) am gyfnod di-dor o 5 mlynedd.

NEU

  • Mae angen i’r ymgeisydd fyw yng Ngheredigion i roi gofal sylweddol i berthynas agos neu i dderbyn gofal sylweddol gan berthynas agos sydd wedi byw yng Ngheredigion neu mewn ardal cyngor cymuned / tref cyffiniol (neu gyfuniad o’r ddau) am gyfnod di-dor o 5 mlynedd ac ni all eiddo’r berthynas (naill ai fel y mae neu o’i ymestyn) gyflawni anghenion yr aelwyd gyfunedig

NEU

  • Mae’r ymgeisydd wedi’i gyflogi yng Ngheredigion fel gweithiwr allweddol llawn-amser (35 awr) yn barhaol. At y dibenion hyn, diffinnir gweithiwr allweddol fel a ganlyn:
    • Athro mewn ysgol neu sefydliad addysg bellach neu goleg chweched dosbarth;
    • Nyrs neu weithiwr iechyd arall medrus y Gwasanaeth Iechyd Gwladol;
    • Heddwas;
    • Gweithiwr i’r gwasanaeth prawf;
    • Gweithiwr cymdeithasol;  
    • Seicolegydd addysg;
    • Therapydd galwedigaethol a gyflogir gan yr awdurdod lleol;
    • Swyddog tân;
    • Rhywun arall y mae ei gyflogaeth yn cyflawni rôl bwysig yn narpariaeth y gwasanaethau allweddol yng Ngheredigion lle bu’n anodd recriwtio o fewn y Sir. Byddai angen cytuno ar hyn gyda’r Awdurdod Lleol a byddai angen darparu tystiolaeth recriwtio.
  1. Disgwylir i’r ymgeisydd feddiannu’r eiddo fel ei unig breswylfan a bydd angen iddo gadarnhau nad yw’n berchen ar eiddo preswyl arall.

Os ydych yn gwneud cais am eiddo o fewn y cynllun tai cymunedol ar y cyd dim ond un ymgeisydd sydd angen bod yn gymwys ar gyfer meini prawf Preswyliad Lleol/Gweithiwr Allweddol/Gofalwr. Bydd angen i'r ddau fod yn gymwys ar gyfer y meini prawf ariannol a deiliadaeth.

Ffurflen Cais

Cwblhewch ffurflen gais ac anfonwch y dystiolaeth briodol a nodir isod at ldp@ceredigion.gov.uk

Y dogfennau sydd eu hangen i brofi eich cymhwysedd yw:

Tystysgrif Morgais/Addewid/Penderfyniad mewn Egwyddor: Mae’n rhaid cael yr wybodaeth hon hyd yn oed os mai gwerth y cynnig yw sero, neu os gwrthodwyd morgais ichi ar sail eich incwm/oedran ac yn y blaen. (efallai y bydd yr wybodaeth ar ffurf llythyr yn hytrach na thystysgrif/addewid/penderfyniad mewn egwyddor).

Llythyr/e-bost yn datgan Uchafswm y Morgais sydd ar gael i chi a’ch partner (fel y bo’n berthnasol), os nad yw’r swm dan sylw wedi’i nodi ar y Dystysgrif Morgais/Addewid/Penderfyniad mewn Egwyddor. Mae hyn yn ofynnol gan y gallai swm y morgais y gofynnoch chi amdano, sydd wedi’i nodi ar ffurf tystysgrif morgais/addewid, fod yn wahanol i uchafswm y morgais y gallwch ei gael.

Slipiau cyflog am y tri mis diwethaf i chi a’ch partner (os yw’n berthnasol) neu os ydych chi’n hunangyflogedig, cyfrifon y busnes am y tair blynedd diwethaf

P60 diwethaf i chi a’ch partner (os yw’n berthnasol)

Os ydych wedi ymddeol neu os na allwch gael morgais oherwydd oedran neu os na allwch weithio mwyach: Manylion eich pensiwn am y tri mis diwethaf, datganiad pensiwn blynyddol, manylion unrhyw lwfansau ac unrhyw incwm arall

Dim ond un ymgeisydd sydd angen bod yn gymwys a dim ond un o'r dogfennau a nodir isod sy'n rhaid ei ddarparu:

2a: Dogfennau sydd eu hangen i brofi Meini Prawf Preswyliad Lleol

Gwybodaeth ar y Gofrestr Etholwyr. Fe gewch chi’r wybodaeth drwy gysylltu â Gwasanaeth Cofrestru Etholiadol Cyngor Sir Ceredigion (Ffôn: 01545 572035). Codir tâl am hyn.

Llythyr oddi wrth eich Meddyg. Yn nodi pryd cofrestrwyd chi yn y feddygfa a’ch cyfeiriad/au ers ichi gofrestru.

Os oeddech chi yn yr ysgol/coleg ar unrhyw adeg yn ystod y deng mlynedd dan sylw, cysylltwch â’r ysgol/coleg a gofynnwch am lythyr yn datgan y cyfnod pan fuoch chi’n fyfyriwr a’ch cyfeiriad ar y pryd.

2b. Dogfennau sydd eu hangen i brofi Meini Prawf Gweithiwr Allweddol

Darparwch dystiolaeth o'ch cyflogaeth e.e. contract a disgrifiad swydd.

2c. Dogfennau sydd eu hangen i brofi Meini Prawf Gofalwr

Bydd arnoch angen meddwl am yr wybodaeth sydd ar gael i gadarnhau i) hyd iv) isod.

i) pam fod angen gofal arnoch chi/eich perthynas agos;

ii) pam fod tŷ eich perthynas agos yn anaddas i bawb ohonoch fyw ynddo, a pham nad oes modd ei addasu neu’i ymestyn i ateb y diben;

iii) sut mae’ch perthynas agos yn cydymffurfio â rhan gyntaf y Rheol hon;

iv) sut ydych chi’n perthyn i’ch perthynas agos (brawd, chwaer, mab, merch, rhiant, taid, nain, nai, nith, gŵr neu wraig, gan gynnwys perthnasau rhiant-plentyn yn sgil mabwysiadu, a pherthnasau rhwng pobl sy’n byw fel petasent yn ŵr a gwraig, gan gynnwys cyplau o’r un rhyw);

O ran i) er enghraifft, mae’n debygol y bydd y person sydd angen gofal (chi neu’ch perthynas) yn cael cymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a/neu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Byddai llythyr gan un o’r rhain yn gallu helpu i ddangos fod angen gofal sylweddol arnoch chi/eich perthynas agos.

O ran ii), byddai llythyr oddi wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol neu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol hefyd yn gallu helpu i esbonio pam fod cartref presennol eich perthynas yn anaddas a pham nad oes modd ei addasu na’i ymestyn.

O ran iii), bydd arnoch angen ystyried sut allwch chi ddangos bod eich perthynas yn bodloni’r maen prawf Person Lleol.

O ran iv), gan ddibynnu ar eich perthynas, byddai darparu copi o’ch Tystysgrif Geni ac un eich perthynas (er enghraifft, rhiant) yn dangos sut yr ydych chi’n perthyn.

Bydd angen i chi hefyd gyflwyno datganiad statudol wedi'i lofnodi, a ddylai gynnwys eich enwau a chael ei lofnodi gennych chi a'ch partner (os yw'n berthnasol) ym mhresenoldeb cyfreithiwr, a rhaid cynnwys enw a chyfeiriad y cyfreithiwr hefyd. Mae copi o ffurflen o'r fath ynghlwm.

Gall y cyfreithiwr/comisiynydd llwon godi tâl am y gwasanaeth hwn, ac felly efallai y byddai’n well ichi aros tan ichi gasglu’r holl wybodaeth angenrheidiol cyn sicrhau’r datganiad statudol. Mae’n rhaid i’r cyfreithiwr/comisiynydd llwon roi stamp yn dwyn ei enw a’i gyfeiriad ar y datganiad.

Mae’n rhaid ichi gydymffurfio â’r rheol hon tra byddwch chi’n berchen ar y tŷ, a bydd yn rhaid ichi gadarnhau’r ffaith ar ddiwedd bob blwyddyn.