Er mwyn sicrhau’r cymorth mwyaf posibl i drigolion y sir, mae’r telerau canlynol wedi’u cymeradwyo ar gyfer y cynllun:

 

  • Bydd angen i’r ymgeiswyr gyflwyno blaendal o 5% fan lleiaf o’r pris prynu llawn er mwyn medru dod yn rhan o’r cynllun.

 

  • Ni ddylai’r ganran rhannu ecwiti y bydd y Cyngor yn ei chyfrannu at dai y gellir byw ynddynt fod yn fwy nag 20%. Hefyd, ni fydd y ganran rhannu ecwiti y bydd y Cyngor yn ei chyfrannu at eiddo gwag cofrestredig yn fwy na 40%. Mae hyn yn adlewyrchu'r costau uwch sy’n gysylltiedig â sicrhau bod modd defnyddio tai gwag fel cartrefi unwaith eto.

Hefyd, rhyw ben yn y dyfodol, gall y preswylwyr ailforgeisio i gynyddu cyfran eu perchentyaeth.

 

  • Yn 2023/24, mae uchafswm o £300,000 wedi’i osod ar gyfer pris tŷ. Bydd y cap ar brisiau tai yn cael ei adolygu yn flynyddol ar ddechrau'r flwyddyn ariannol.

 

  • Rhoddir blaenoriaeth i gynigion sy’n nodi mai’r brif egwyddor yw dod â

chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd parhaol.

 

  • Rheolir y cynllun ar sail y cyntaf i'r felin.

 

  • Mae’n bwysig nodi nad yw cymryd rhan yn y cynllun hwn yn atal deiliaid tai rhag derbyn cymorth arall megis y grantiau sydd ar gael ar gyfer eiddo gwag ac ati.

 

  • Ad-dalu

 - ceir gofyniad i ad-dalu swm yr arian a fenthyciwyd NEU ganran cyfatebol o werth yr eiddo ar adeg yr ad-daliad, pa bynnag un sydd uchaf;

- ac ni all benthyciad y Cyngor fod am gyfnod sy’n hirach na chyfnod y morgais sy’n gysylltiedig â hynny.

Cynyddu cyfran y berchentyaeth

Bydd modd cynyddu cyfran y berchentyaeth ar adegau penodol ym mlynyddoedd 5, 10, 15, 20 a 25. Hefyd, bydd gan yr ymgeiswyr hyblygrwydd i gynyddu’r gyfran cyn yr adegau hyn os ydynt mewn sefyllfa ariannol i wneud hynny.

Dim ond mewn cynyddrannau o 5% y bydd hawl gan ymgeiswyr i ad-dalu eu hecwiti.  Bydd hyn yn sicrhau mwy o dryloywder o ran yr ecwiti sy’n ddyledus. Hefyd, ni chaniateir ad-dalu ychydig bach nawr ac yn y man gan y byddai hynny’n faich gweinyddol ar y Cyngor ac yn gwneud y gwaith monitro yn fwy anodd. Er mwyn bod yn glir, mae hyn yn golygu y gall yr ymgeiswyr ar unrhyw adeg y maent yn cynyddu cyfran y berchentyaeth ad-dalu 5%, 10%, 15% neu 20% o’r ecwiti ar eu heiddo (20% yw’r ad-daliad llawn os nad yw’r eiddo yn eiddo gwag)

Ar yr adegau penodol hyn, os oes cais i brynu ecwiti oddi wrth yr Awdurdod Lleol, bydd gofyniad am brisio’r eiddo er mwyn canfod gwerth yr eiddo ar y farchnad. Unwaith y cytunir ar hyn, bydd gofyn i’r ymgeisydd brynu canran yr ecwiti yn seiliedig ar werth yr eiddo ar y farchnad ar hyn o bryd neu ganran y swm a fenthyciwyd, pa bynnag un sydd fwyaf, er mwyn diogelu buddiannau’r Awdurdod Lleol.