Mae rheolau arbennig ar waith ar gyfer tai sydd wedi’u dynodi’n ‘Dai Amlfeddiannaeth’.

Mae’r rhan fwyaf o’r tai sy’n cael eu gosod i fyfyrwyr a’r fflatiau un ystafell yn Dai Amlfeddiannaeth, yn ogystal â llawer o’r tai sydd wedi’u haddasu’n fflatiau. I gael gwybod a yw’ch eiddo chi’n Dŷ Amlfeddiannaeth, ewch i’n tudalennau am Dai Amlfeddiannaeth.

Gelwir rhai mathau o eiddo rhent yn Dai Amlfeddiannaeth (HMO). Fel y mae’r term yn ei awgrymu, eiddo neu annedd lle nad oes un teulu’n byw yw tŷ amlfeddiannaeth yn gyffredinol. Mae rheolau arbennig ynghlwm wrth eiddo o’r fath. Eu nod yw sicrhau bod yr eiddo’n ddiogel ac yn cael ei reoli’n dda. Gwneir hyn yn bennaf drwy drefn drwyddedu. I gael gwybod a yw’r eiddo sy’n cael ei reoli gennych chi’n Dŷ Amlfeddiannaeth, ewch i’n tudalennau am Dai Amlfeddiannaeth.

Fel rhywun sy’n rheoli eiddo, mae’n bwysig eich bod yn gwybod a yw’ch eiddo’n Dŷ Amlfeddiannaeth ai peidio oherwydd, os yw’n Dŷ Amlfeddiannaeth, gall fod gennych hawliau a chyfrifoldebau ychwanegol.

  • Rhaid i dŷ amlfeddiannaeth gael ei reoli’n briodol – os na fydd rheolwr neu landlord yn gwneud hyn, gall fod yn cyflawni trosedd droseddol
  • Rhaid i dŷ amlfeddiannaeth gael ei drwyddedu gan y Cyngor. Bydd hyn yn sicrhau bod yr eiddo’n addas ar gyfer nifer y bobl sy’n byw ynddo a bod y trefniadau rheoli’n dderbyniol
  • Gellir diogelu’r rheini sy’n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth (a’r rheini sy’n byw mewn eiddo cyfagos) rhag niwed difrifol drwy i’r Cyngor ysgwyddo cyfrifoldeb dros reoli’r eiddo (os yw hwn yn ddewis olaf priodol)
  • Os ceir landlord yn euog o fethu â thrwyddedu tŷ amlfeddiannaeth, gall y tenantiaid hawlio ad-daliadau rhent
  • Rhaid i denantiaid tŷ amlfeddiannaeth ganiatáu i’r rheolwr gyflawni’i ddyletswyddau – os byddant yn ei rwystro rhag gwneud hynny’n fwriadol, gallent fod yn cyflawni trosedd. Gall unrhyw weithred sy’n atal y rheolwr rhag cyflawni’r dyletswyddau a bennir yn y ‘Rheoliadau Rheoli’ fod yn rhwystr. Disgwylir i reolwyr roi gwybod i’r Cyngor am denantiaid sy’n eu rhwystro rhag cyflawni’u dyletswyddau. Cewch hyd i wybodaeth am y dyletswyddau hyn ar y tudalen Cyfrifoldebau Rheoli
  • Os yw’ch tenantiaid yn byw mewn ‘tŷ amlfeddiannaeth heb drwydded’ o dan Denantiaeth Fyrddaliol Sicr ar y cyd neu ar wahân, ni fydd modd i chi eu troi allan gan ddefnyddio ‘hysbysiad adran 21’. Mae hyn yn golygu na allwch eu troi allan heb sail – fel peidio â thalu’r rhent. (Bydd eiddo’n peidio â bod yn ‘dŷ amlfeddiannaeth heb drwydded’ pan fydd cais am drwydded neu gais i esemptio’r eiddo dros dro yn cael ei gyflwyno.)

Os yw’ch tenantiaid yn credu nad ydych yn rheoli’ch eiddo’n briodol, neu fod yr eiddo mewn cyflwr gwael, gallant ddwyn hyn i sylw’r Cyngor. Bydd y Cyngor yn ymchwilio i’w pryderon a gall ddwyn achos yn erbyn y rheolwr os yw’n briodol.

Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, Tai Amlfeddiannaeth a’r drefn drwyddedu

O dan y drefn drwyddedu ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth, gall awdurdodau lleol asesu pa mor addas yw unigolyn i gael trwydded, asesu’r trefniadau i reoli Tŷ Amlfeddiannaeth, asesu pa mor addas yw Tŷ Amlfeddiannaeth ar gyfer nifer y bobl sy’n byw ynddo, a sicrhau bod offer a chyfleusterau digonol wedi’u darparu mewn Tŷ Amlfeddiannaeth trwyddedig. Os yw’r awdurdod lleol yn pennu bod yr holl bethau hyn yn foddhaol, dylai roi trwydded ar ôl i gais llawn a chyflawn ddod i law. Gall yr awdurdod lleol hefyd bennu amodau ar drwydded i sicrhau bod trefniadau boddhaol yn cael eu gwneud i fynd i’r afael â’r materion hyn. Mae hefyd yn ofynnol i’r awdurdod lleol gyflawni asesiad gan ddefnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) sy’n nodi ac yn datrys unrhyw risg neu berygl yn yr eiddo. Er bod y system hon ar wahân i’r drefn drwyddedu, mae cysylltiad agos rhyngddynt. Fel arfer, caiff yr asesiad o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai ei gyflawni fel rhan o’r archwiliad trwyddedu. Cewch fwy o wybodaeth am yr asesiadau hynny yma.

Pan fydd swyddog yn cyflawni asesiad o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai mewn Tŷ Amlfeddiannaeth, bydd yn archwilio:

  • yr ystafelloedd a’r ardaloedd hynny sy’n cael eu meddiannu ar sail neilltuedig (h.y. yr ystafelloedd nad ydynt yn ystafelloedd cyffredin)
  • unrhyw ystafelloedd neu ardaloedd (tu mewn neu tu allan) sy’n cael eu rhannu ag eraill
  • y dull o gael mynediad i’r annedd
  • yr adeilad sy’n gysylltiedig â’r annedd

Mae’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai yn cwmpasu pob math o berygl sy’n gysylltiedig â’r ffactorau ffisegol hynny sydd i’w cael mewn pob math o dai, gan gynnwys Tai Amlfeddiannaeth. Ers cryn amser, tybir bod Tai Amlfeddiannaeth yn peri mwy o risg i iechyd a diogelwch nag anheddau lle mae un aelwyd yn byw. Fel deiliad trwydded Tŷ Amlfeddiannaeth, bydd yn ofynnol i chi gyflawni gwelliannau ychwanegol yn yr annedd i liniaru unrhyw beryglon difrifol y bydd yr arolygwyr yn cael hyd iddyn nhw. Fel arfer, bydd rhaglen waith ar wahân yn cael ei llunio. Anaml y bydd hyn yn effeithio ar y drefn drwyddedu. Cewch hyd i ragor o wybodaeth am drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth ar ein tudalennau am Dai Amlfeddiannaeth. Cewch hyd i wybodaeth am y camau y gall yr awdurdod lleol eu cymryd ar ôl iddo gyflawni asesiadau o dan y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai a phennu peryglon iechyd a diogelwch difrifol yma.