Contractau Meddiannaeth
Bydd eich landlord yn rhoi contract meddiannaeth i chi.
Mae 2 fath o gontract meddiannaeth:
- Contract diogel: mae hwn yn disodli tenantiaethau diogel a roddwyd gan awdurdodau lleol a thenantiaethau sicr a roddwyd gan gymdeithasau tai sy'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
- Contract safonol: yn cael ei ddefnyddio yn y sector rhentu preifat yn bennaf. Gall awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ei ddefnyddio hefyd mewn rhai amgylchiadau (er enghraifft, contract safonol â chymorth ar gyfer llety â chymorth)
Bydd yn rhaid i'ch contract meddiannaeth gyda'ch landlord gael ei bennu mewn datganiad ysgrifenedig. Mae gwybodaeth ar gael ar dudalen Rhentu cartrefi: datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol Llywodraeth Cymru. Mae'r datganiad ysgrifenedig yn disodli eich tenantiaeth neu gytundeb trwydded. Rhaid iddo gynnwys holl delerau'r contract. Y gwahanol fathau o delerau yw:
- Materion Allweddol: er enghraifft, enwau'r landlord a deiliad y contract a chyfeiriad yr eiddo. Rhaid cynnwys y rhain ym mhob contract
- Telerau Sylfaenol: yn cwmpasu agweddau pwysicaf y contract, gan gynnwys sut mae'r landlord yn cael meddiant a rhwymedigaethau'r landlord o ran atgyweiriadau
- Telerau Atodol: yn delio â'r materion mwy ymarferol o ddydd i ddydd sy'n berthnasol i'r contract meddiannaeth. Er enghraifft, y gofyniad i hysbysu'r landlord os yw'r eiddo yn mynd i gael ei adael yn wag am 4 wythnos neu fwy
- Telerau Ychwanegol: yn rhoi sylw i unrhyw faterion eraill y cytunwyd arnynt yn benodol, er enghraifft teler sy'n ymwneud â chadw anifeiliaid anwes
Gellir rhoi contractau ar ffurf copi caled neu'n electronig (os yw deiliad y contract yn cytuno i gael copi electronig). Mae llofnodi'r contract yn arfer da gan ei fod yn cadarnhau eich bod yn hapus gyda phopeth y mae'n ei ddweud.
Mae mwy o sicrwydd i bobl sy'n byw yn y sector rhentu preifat o dan y gyfraith newydd:
- ar yr amod nad ydych yn torri un o delerau'r contract, rhaid i'ch landlord roi o leiaf 6 mis o rybudd (Hysbysiad Adran 173 yn y Ddeddf) i derfynu’r contract, a elwir yn aml yn hysbysiad ‘heb fai’ (wedi’i gynyddu o 2 fis o rybudd)
- ni ellir rhoi unrhyw hysbysiadau heb fai tan 6 mis ar ôl i chi symud i mewn (dyddiad meddiannu'r contract)
- os nad yw'ch landlord wedi gweithredu ar yr hysbysiad heb fai (felly nid yw wedi ei ddefnyddio i geisio cael meddiant o'r eiddo), ni all roi un arall am 6 mis
- os oes contract cyfnod penodol gennych (sy'n nodi am faint mae’r contract yn para) fel rheol ni all eich landlord roi hysbysiad i derfynu’ch contract. Os na fyddwch yn gadael, bydd y contract cyfnod penodol fel arfer yn newid i fod yr hyn a elwir yn gontract safonol cyfnodol ar ddiwedd y cyfnod penodol, a bydd yn rhaid i'ch landlord gyflwyno hysbysiad heb fai o 6 mis i’w derfynu
- ni all landlordiaid gynnwys cymal terfynu (i adennill meddiant) mewn contractau safonol cyfnod penodol o lai na 2 flynedd. Os yw'r cyfnod penodol yn 2 flynedd neu fwy, ni all eich landlord roi rhybudd i chi tan o leiaf mis 18 o'r contract cyfnod penodol, a bydd yn rhaid iddo roi o leiaf 6 mis o rybudd i chi
Os bydd eich landlord yn rhoi hysbysiad heb fai i chi oherwydd eich bod wedi cwyno bod eich cartref mewn cyflwr gwael, ni fydd yn rhaid i'r Llys roi meddiant i'r landlord. Felly gallwch geisio gwaith atgyweirio heb boeni y bydd eich cartref mewn perygl.
Gellir ychwanegu neu ddileu deiliaid contract o gontractau meddiannaeth heb fod angen terfynu un contract a dechrau un arall. Bydd hyn yn gwneud rheoli contractau ar y cyd yn haws ac yn helpu pobl sy'n profi cam-drin domestig trwy allu targedu'r sawl sy'n eu cam-drin ar gyfer eu troi allan.
I gael arweiniad pellach, cyfeiriwch at dudalen Contractau meddiannaeth safonol: canllawiau Llywodraeth Cymru.