Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Gosod Eiddo Gwag

Efallai y byddwch am gadw’r eiddo a’i osod i denantiaid. Mae’n werth cofio bod cryn dipyn o waith ynghlwm wrth fod yn landlord a rheoli tŷ. Byddwch yn gyfrifol am gynnal a chadw’r tŷ a bydd angen i chi drefnu gwahanol bethau, fel archwiliad diogelwch nwy blynyddol.

Cewch hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau Gwybodaeth i Landlordiaid. Rhaid i landlordiaid pob eiddo yng Nghymru bellach fod yn gofrestredig â Rhentu Doeth Cymru. Mae nifer o gyfreithiau a rheoliadau i’w hystyried.

Dod yn Landlord

Mae sawl ffordd o osod eich eiddo ar rent. Gallech chi osod eich hysbyseb eich hun mewn papur lleol neu ffenestr siop, neu ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddarparu’r manylion. Trwy wneud hyn, byddwch chi’n rheoli’r eiddo eich hunan.

Gall fod yn syniad da ymuno ag un o’r sefydliadau ar gyfer landlordiaid. Gall roi cyngor a chymorth i chi a chewch wybodaeth reolaidd a fydd yn cynnwys yr holl newyddion. Gall hefyd ddarparu hyfforddiant a gostyngiadau ar bris nwyddau a gwasanaethau.

Yn gyfreithiol, mae’n ofynnol i unrhyw landlord yng Nghymru sy’n hunanreoli fod wedi’i gofrestru a’i drwyddedu gyda Rhentu Doeth Cymru, a chwblhau’r hyfforddiant perthnasol. I gael rhagor o wybodaeth am Rhentu Doeth Cymru, ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru neu ffoniwch 03000 133344.

Asiantau Gosod / Rheoli Tai

Efallai y byddai’n well gennych gael rhywun arall i reoli’r eiddo ar eich rhan. Mae nifer o asiantau gosod tai ar gael yng Ngheredigion. Yn gyfnewid am ffi, byddant yn cael hyd i denantiaid, yn casglu rhent, yn ymdrin ag ymholiadau ac yn trefnu i gynnal a chadw’r eiddo. I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt a’r ffioedd a godir ganddynt, cysylltwch â’r asiantau rheoli tai.

Cynlluniau Prydlesu’r Sector Preifat

Mae Cynllun Lesio Cymru yn gynllun peilot sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan Gyngor Sir Ceredigion.

Mae’r cynllun yn cynnig ystod o fanteision i landlordiaid preifat, gan gynnwys: cytundeb prydles am gyfnod o 5 mlynedd neu fwy, gan ddibynnu ar amodau; pecyn rheoli eiddo llawn, gan gynnwys atgyweiriadau a chynnal a chadw; ac incwm rhent gwarantedig - hyd yn oed os nad oes tenant yn byw yn yr eiddo.

Mae’r cynllun yn darparu cymorth tai parhaus i’r tenant/deiliad contract, gan eu helpu i ennill mwy o annibyniaeth a chynnal tenantiaeth lwyddiannus.

Nod y cynllun yw gwella mynediad at dai fforddiadwy a hirdymor sydd o ansawdd da, gan ddarparu cymorth i denantiaid yn y sector rhentu preifat. Mae’n cynnig diogelwch i’r tenant/deiliad contract a hyder i’r landlordiaid.

Bydd y cynllun yn cynnig ystod o wasanaethau cymorth a manteision i’r tenant/deiliad contract ac i’r landlord preifat. Y nod yw sicrhau bod y denantiaeth yn llwyddiannus i’r ddwy ochr.

Mae rhagor o wybodaeth a’r manylion cyswllt ar gael ar ein tudalen Cynllun Lesio Cymru.

Trwyddedu

Os byddwch yn gosod eich eiddo i fwy na dau berson sy’n perthyn i wahanol aelwydydd (er enghraifft, os oes tri pherson sengl yn byw yn yr eiddo fel ffrindiau, neu os oes pâr ac un ffrind arall yn byw yno), gall fod angen trwyddedu’r eiddo o dan drefn drwyddedu’r Cyngor. Os felly, bydd rhaid i’r eiddo gydymffurfio â’r safonau amwynder, ffitrwydd a thân. Bydd rhaid i ddeiliad y drwydded a rheolwr yr eiddo fod yn unigolion addas a phriodol hefyd. Bydd y Cyngor yn ymchwilio i sicrhau bod yr holl ofynion hyn yn cael eu bodloni cyn rhoi trwydded. I gael mwy o wybodaeth am y drefn drwyddedu, ewch i’r tudalennau am Tai Amlfeddiannaeth.

Amodau byw

Dylai unrhyw un sy’n penderfynu gosod ei eiddo ar rent sicrhau ei fod yn lân, yn sych ac yn ddiogel. Dylai fod yno gyflenwad trydan a dylech drefnu i’r system ddŵr a’r system gwres canolog gael eu harchwilio i sicrhau eu bod yn ddiogel. Gall peiriannau nwy diffygiol ladd. Felly, mae’r landlord yn ysgwyddo cyfrifoldeb cyfreithiol dros gynnal a chadw peiriannau o’r fath a sicrhau bod archwiliad diogelwch yn cael ei gynnal bob blwyddyn. Dylai fod yno gegin o safon resymol, gyda chyfleusterau diogel i storio ac i baratoi bwyd. Os oes problemau o ran cyfleusterau gwael pan fyddwch yn gosod yr eiddo, mae’r rhain yn debygol o waethygu.

Mae ar bob Cyngor ddyletswydd i sicrhau nad yw preswylwyr yn byw mewn llety sy’n is na’r safon. Bydd y Cyngor yn defnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai o dan Ddeddf Tai 2004 i gyflawni asesiad risg mewn unrhyw eiddo lle y gall fod risg. Yn aml, y tenantiaid fydd yn rhoi gwybod i’r Cyngor am broblemau mewn eiddo.

Fel arfer, bydd y swyddogion yn dod ar draws risgiau iechyd a diogelwch fel lleithder a llwydni, oerfel, risgiau baglu a chwympo, a risgiau tân. Fel landlord, byddwch chi’n gyfrifol am leihau effaith unrhyw risg. Ar ôl i’r swyddogion bennu’r risg, bydd y Cyngor yn cydweithio â chi i sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau gofynnol. Os na fyddwch yn cydweithredu, gall y Cyngor ddefnyddio’i bwerau o dan Ddeddf Tai 2004 i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni.

I gael mwy o wybodaeth am y safonau disgwyliedig ac am y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, ewch i’r tudalen Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS).