Nid yw gwerthu eiddo gwag yn wahanol i werthu unrhyw fath arall o eiddo. I gael y cyngor gorau ynghylch gwerthu’ch eiddo, cysylltwch ag asiant gwerthu tai lleol er mwyn iddo brisio’r eiddo a’i roi ar y farchnad.

Mae nifer o Werthwyr Tai yng Ngheredigion. Efallai y byddwch am ystyried y modd y maent yn hysbysebu neu eu presenoldeb ar-lein ynghyd â faint yw eu comisiwn a phwy fydd yn gyfrifol am ymweliadau.

Mae rhan fwyaf y Gwerthwyr Tai ar-lein. Efallai y gallwch chi roi eich eiddo ar wefan mwy arbenigol megis y rheini sy’n gwerthu lleiniau tir neu eiddo sydd angen ei adnewyddu.

Arwerthiannau

Gall arwerthiant fod yn ffordd effeithiol o werthu’ch eiddo. Bydd darpar brynwyr yn bidio am yr eiddo ar ddiwrnod yr arwerthiant a bydd rhaid i’r bidiwr llwyddiannus (y sawl sy’n cynnig y pris uchaf) fwrw ymlaen i brynu’r eiddo o fewn nifer benodol o ddyddiau. Mae arwerthiant yn ffordd gyflym a phendant o werthu eiddo. Pan fydd y morthwyl yn disgyn, bydd y bidiwr llwyddiannus yn ymrwymo i gontract gwerthu.

Gall hon fod yn ffordd dda o gael gwared ar eiddo sy’n anodd ei werthu. Yn aml, cewch bris da am eiddo sydd wedi mynd â’i ben iddo.

Un o brif fanteision arwerthiant yw bod y gynulleidfa’n aml yn cynnwys datblygwyr, rhai sy’n prynu ag arian parod, buddsoddwyr a landlordiaid â phortffolios. Gall eu gofynion nhw fod yn wahanol i ofynion darpar berchentywyr sy’n prynu tai gan asiantau gwerthu tai.

Mynnwch air ag asiant neu arwerthwr tai lleol i gael gwybod mwy am yr arwerthiannau sy'n cael eu cynnal yn yr ardal.

Mae’n bwysig dewis arwerthwr priodol. Yn amlwg, nid yw’n syniad da ceisio gwerthu tŷ sy’n mynd â’i ben iddo mewn arwerthiant sy’n arbenigo mewn tai crand. Mae gwahanol dai arwerthu’n denu gwahanol fathau o gleientiaid. Y ffordd orau o benderfynu pa arwerthwr i’w ddefnyddio yw dewis y grŵp sydd fwyaf tebygol o fod â diddordeb yn eich eiddo chi. Dylech hefyd ystyried maint y gynulleidfa a allai fynd i’r arwerthiant. Po fwyaf o bobl fydd yn mynd i’r arwerthiant, po fwyaf tebygol fyddwch chi o werthu’r eiddo.

Cewch gipolwg ar gyfraddau llwyddiant gwahanol arwerthwyr. Maen nhw’n amrywio o 60 i 90 y cant. Yn olaf, cewch gipolwg ar y ffioedd gan fod y rheini’n amrywio hefyd. Cofiwch y byddwch chi ar eich ennill o ddefnyddio arwerthwr da sy’n gwerthu eiddo am bris da, hyd yn oed os yw ei ffioedd yn uwch.

Fel arfer, bydd yr arwerthwr yn codi ffi ar y gwerthwr i dalu cyfran o gost marchnata’r eiddo a chynnal yr arwerthiant. Rhaid talu’r ffi hon hyd yn oed os na chaiff yr eiddo’i werthu. Yn ychwanegol at y ffi hon, rhaid i’r gwerthwr dalu comisiwn i’r arwerthwr os caiff yr eiddo’i werthu, yn debyg iawn i’r drefn a ddefnyddir gan asiantau gwerthu tai. Mae’r tâl comisiwn yn debyg i dâl comisiwn asiant gwerthu tai. Fel rheol, mae’n rhaid i’r prynwr, sef y sawl sydd wedi cynnig y pris uchaf, dalu ffi fach i’r arwerthwr hefyd.

Gwerthu i Gymdeithasau Tai

Gallech hefyd werthu’r eiddo i Gymdeithas Dai leol. O dan y drefn Hawl i Brynu, mae Cymdeithasau Tai wedi colli swm sylweddol o’u stoc tai dros y blynyddoedd. Gall fod ganddyn nhw ddiddordeb mewn prynu eiddo gwag i gynyddu’u stoc tai. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos unrhyw eiddo gwag sydd wedi’i leoli wrth ymyl eu stoc tai presennol. Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn berchen ar unrhyw stoc tai, ond gallech gysylltu â’r Cymdeithasau Tai isod sy’n gweithredu yn y sir.

  • Tai Canolbarth Cymru Ffordd Croesawdy, Y Drenewydd, Powys, SY16 1AL 0300 111 3030
  • Tai Cymru a'r Gorllewin Cwrt y Llan, Lôn yr Eglwys, Castell Newydd Emlyn, SA38 9AB 0800 052 2526
  • Tai Ceredigion Uned 4, Parc Busnes Pont Steffan, Llanbedr Pont Steffan, SA48 7HH 0345 606 7654