Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cymorth Cyflogadwyedd Ceredigion

Ydych chi'n ddi-waith?

Oes angen cymorth arnoch chi i gael swydd?

Mae ein Tîm Cymorth Cyflogadwyedd yn darparu gwasanaeth mentora mewn lleoliadau ar draws Ceredigion i unrhyw un dros 16 oed sy'n chwilio am waith.

Cynigiwn gymorth cyflogaeth a hunangyflogaeth trwy leihau rhwystrau.

  • Mentora un-i-un sy'n cynnwys creu llwybr cyflogadwyedd, ysgrifennu CV, cymorth gyda gwneud cais, cymorth gyda chyfweliadau
  • Darparu cymorth ymarferol i feithrin cymhwysedd a hyder
  • Cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu eu sgiliau, eu gwerthoedd, eu hymddygiad a'u gwybodaeth er mwyn cael cyflogaeth neu symud yn agosach at gael cyflogaeth
  • Cynnig cymwysterau neu ardystiad sy'n berthnasol i waith
  • Cefnogi lleoliadau profiad gwaith, cyfleoedd gwirfoddoli a threialon gwaith

Cysylltwch â ni trwy'r ebost yn TCC-EST@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01970 633422.

Eich Ymrwymiad

  • er mwyn rhoi cymorth i chi bydd angen rhywfaint o dystiolaeth gwaith papur arnom i brofi eich bod yn gymwys. Darparwch y dogfennau hyn cyn gynted â phosibl er mwyn cael cymorth heb unrhyw oedi
  • cysylltwch â'ch mentor a'ch swyddog cyswllt cyflogaeth yn rheolaidd. Maen nhw ar gael dros y ffôn, ebost, WhatsApp, Skype a Zoom, a byddant yn cysylltu â chi'n rheolaidd
  • bydd adegau pan fydd yn rhaid i chi gwrdd â staff. Byddwch wedi cytuno ar leoliad, dyddiad ac amser. Bydd yn rhaid i staff deithio i gwrdd â chi felly mae'n hanfodol eich bod yn mynychu ac os oes rhaid i chi ganslo rhaid i chi roi 24 awr o rybudd
  • os ydych am gael hyfforddiant, cofiwch y gall cyrsiau fod yn ddrud ac weithiau'n golygu aros oddi cartref dros nos. Bydd angen i chi fynychu a chwblhau eich cwrs. Os na allwch fynychu, rhowch wybod i'n cydlynydd hyfforddiant neu'ch mentor er mwyn i ni allu gwneud trefniadau eraill cyn gynted â phosibl