Mae busnesau yng Ngheredigion yn cael eu hannog i ymgeisio am grant busnes. Mae ceisiadau bron i 900 o fusnesau wedi cael eu cymeradwyo eisoes ac mae £11.7m o arian grant wedi’i ddyfarnu. Bydd mwy o fusnesau’n gymwys am y grant, ac anogir iddynt wneud cais.
Gall busnes fod yn gymwys i gael grant busnes a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng Nghymru drwy bandemig y Coronafeirws.
Mae Cyngor Sir Ceredigion yn rheoli’r grantiau ar ran Llywodraeth Cymru.
Mae manylion y grantiau hyn a ffurflen gais ar-lein ar gael ar wefan Cyngor Sir Ceredigion: www.ceredigion.gov.uk/coronafeirws. Cliciwch ar ‘Cymorth i Fusnesau’ yna’r tab ‘Grantiau ar gyfer Busnes (Awdurdod Lleol)’ i gyflwyno cais drwy ffurflen ar-lein.
Mae dau grant ar gael i fusnesau:
Mae’r grant cyntaf o £25,000 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000. Mae hyn yn golygu busnesau sy’n meddiannu eiddo megis siopau, bwytai, caffis, lleoedd yfed, sinemâu, lleoliadau cerddoriaeth byw, gwestai, adeiladau lletya a llety hunanarlwyo.
Mae’r ail grant o £10,000 ar gael i bob busnes sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnes Bach yng Nghymru gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. Mae hwn ar gael i bob sector ac nid yw hyn wedi’i gyfyngu i fusnesau manwerthu, hamdden neu letygarwch yn unig.
Mae Cwestiynau Cyffredin ar y dudalen a fydd yn cynnwys rhagor o wybodaeth i’ch helpu gyda’ch cais. Fodd bynnag, mae’r meini prawf uchod yn glir, ac nid oes gan y Cyngor ddisgresiwn i gefnogi busnesau nad ydynt yn bodloni’r meini prawf uchod. Efallai yr hoffai busnesau nad ydynt yn bodloni meini prawf y cynllun hwn ystyried gwneud cais i Busnes Cymru.
Mae’r dudalen ‘Cymorth i Fusnesau’ ar www.ceredigion.gov.uk/coronavirus hefyd yn darparu gwybodaeth ynghylch y cymorth pellach sydd ar gael gan ystod o sefydliadau, gan gynnwys:
- Rhyddhad Ardrethi Busnes a benthyciadau i fusnesau
- Y Cynllun Cadw Swyddi
- Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig
- Cymorth i Ffermwyr ac Amaethyddiaeth
- Cronfeydd amrywiol ar gael i sectorau penodol.
Diolch i'r siopau bwyd, cynhyrchwyr bwyd a fferyllfeydd sydd wedi parhau i fod ar agor ac sy'n cefnogi cymunedau Ceredigion. Diolch hefyd i'r busnesau sydd wedi esblygu dros nos i ddarparu gwasanaethau dosbarthu er mwyn cefnogi'r trigolion mwyaf agored i niwed yng Ngheredigion.
Ymgeisiwch nawr, lledaenwch y neges, a chadwch hyd braich i leddfu’r baich.
16/04/2020