Mae Cymru gyfan ar Lefel Rhybudd 4
Mae hyn yn cynnwys Ceredigion ac yn golygu:
- rhaid i bawb aros gartref, ac eithrio i ddibenion cyfyngedig iawn
- ni chaiff pobl ymweld ag aelwydydd eraill, na chwrdd â phobl nad ydynt yn byw gyda nhw
- rhaid i nifer o fathau gwahanol o fusnesau gau
Cofiwch ddilyn y rheolau sylfaenol i gadw pawb yn ddiogel:
- cadw pellter cymdeithasol o 2m oddi wrth bobl eraill;
- golchi eich dwylo yn rheolaidd;
- cyfyngu ar eich cyswllt cymdeithasol;
- gweithio o gartref lle bynnag y bo'n bosibl;
- a gwisgo masgiau mewn lleoliadau cyhoeddus dan do
Mae'r holl wybodaeth ddiweddaraf ar gael isod ac ar wefan Llywodraeth Cymru.