Skip to main content

Ceredigion County Council website

Cyflogaeth a Dysgu Personol

Gweithio hyblyg

O fis Ebrill 2024, mae cyfreithiau gweithio hyblyg newydd yn caniatáu i chi ofyn am newidiadau i’ch amserlen waith cyn gynted ag y byddwch yn cychwyn gyda chyflogwr newydd. Gallwch wneud hyd at ddau gais y flwyddyn. Os byddwch yn defnyddio’r ddau gais yn ystod blwyddyn, gallwch wneud cais eto ddechrau fis Ionawr y flwyddyn ddilynol.

Mae gofyn i gyflogwyr ymateb i’r cais cyn pen dau fis. Rhaid iddynt roi rhesymau dros dderbyn neu wrthod eich cais. Os gwrthodir eich cais, mae rheidrwydd arnynt i weithio gyda chi i ganfod trefniant amgen sy’n bodoli eich anghenion.

Deddf Absenoldeb i Ofalwyr (2023)

Gan gychwyn yn 2024, mae’r Ddeddf Absenoldeb i Ofalwyr yn rhoi’r hawl i gyflogeion gymryd hyd at wythnos o absenoldeb di-dâl y flwyddyn er mwyn cynnig gofal di-dâl i rywun. Mae’r hawl hon ar gyfer pob gofalwr di-dâl ac mae modd eu cymryd fel diwrnodau unigol neu fel wythnos gyfan.

Mae Absenoldeb i Ofalwyr yn gweithio fel unrhyw gais arall am absenoldeb y byddwch yn ei wneud i’ch cyflogwr. Byddwch yn defnyddio gweithdrefn eich cyflogwr er mwyn gwneud cais am absenoldeb, gan nodi eich bod yn dymuno i hwn fod yn absenoldeb i ofalwyr.

Mae Absenoldeb i Ofalwyr yn gyfraith y mae’n rhaid i bob cyflogwr ei darparu ar gyfer gofalwyr di-dâl. Os hoffech gael gwybod mwy am y ffordd y mae absenoldeb i ofalwyr di-dâl yn gweithio, gallwch siarad â’ch cyflogwr neu lawrlwytho Canllaw defnyddiol Gofalwyr Cymru i Ofalwyr sy’n Gweithio. Mae’r canllaw hwn yn llawn gwybodaeth i ofalwyr mewn cyflogaeth.

Canllaw i Ofalwyr sy'n GweithioCanllaw i Ofalwyr sy'n Gweithio

Mae gan ofalwyr hefyd hawl i gael amser o’r gwaith (yn ddi-dâl) i ofalu am ddibynyddion mewn argyfwng. Pan fyddwch yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl bod yn ofalwr, gall effeithio ar unrhyw hawliau neu fuddion yr ydych yn eu cael fel gofalwr. Bydd nifer yr oriau yr ydych yn eu gweithio, y cyflog yr ydych yn ei ennill a’ch cynilion yn cael eu hystyried.

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau fel cyflogai, ewch i wefan Carers UK: Your rights in work.

Siaradwch â’ch cyflogwr

Os ydych chi’n ofalwr sy’n gweithio, efallai eich bod yn teimlo eich bod yn ysgwyddo’r straen sydd ynghlwm wrth ddwy swydd – un swydd â thâl ac un swydd ddi-dâl – a’ch bod yn ceisio ateb gofynion y ddwy swydd. Pan fyddwch chi’n gofalu am berthynas anabl, mae’n aml yn anodd rhagweld beth allai godi a gall y trefniadau gofal fod yn gymhleth. Felly, bydd angen i chi drin a thrafod eich pryderon a’ch ymrwymiadau â’ch cyflogwr.

Gofalwyr sydd am ddychwelyd i’r gwaith

Ydy eich dyletswyddau gofal wedi newid neu ddod i ben, neu ydych chi’n ystyried gweithio ochr yn ochr â’ch dyletswyddau gofal?

Os nad ydych chi’n ailgychwyn ar yrfa sydd eisoes wedi ennill ei phlwyf, gallech ddechrau drwy ystyried eich diddordebau a’ch sgiliau. Pan fyddwch chi’n gwybod beth rydych chi am ei wneud, gallwch chi ddechrau chwilio am gymorth addas i’ch helpu i gyrraedd y nod. Os ydych chi’n ofalwr a’ch bod am ddychwelyd i’r gwaith, gallech chi gael cymorth gan y Ganolfan Byd Gwaith. I gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â’ch Canolfan Byd Gwaith leol neu ffoniwch 0345 606 7890 (Ffôn testun: 0800 169 0207; Llinell Saesneg: 0800 169 0314), dydd Llun i ddydd Gwener, 08:00 tan 18:00).

Ydych chi’n awyddus i wella’ch sgiliau neu ydych chi am ddysgu rhywbeth newydd? Ydych chi’n ystyried dychwelyd i’r byd gwaith ac yn ansicr beth i’w wneud? Ydych chi am gael hyfforddiant mewn maes newydd neu ydych chi’n syml am dreulio amser tu allan i’r cartref yn gwneud rhywbeth ar eich cyfer chi eich hunan?

Os mai ‘ydw’ yw eich ateb i unrhyw un o’r cwestiynau uchod, mae’n bryd i chi ystyried beth fyddech chi’n hoffi ei wneud. Os yw hyn yn anodd, beth am ystyried y pethau na fyddech chi’n hoffi eu gwneud? I’ch helpu i roi trefn ar eich syniadau, gallech eu rhestru ar bapur a chnoi cil ar eich rhestr am rai dyddiau. Gallech gael fflach o ysbrydoliaeth ar yr adeg fwyaf annisgwyl. Fel arall, gall fod yn ddefnyddiol trin a thrafod eich syniadau â ffrind. Bydd yn ddefnyddiol bod gennych ryw syniad o’r hyn rydych chi am ei ddysgu pan fyddwch chi’n cysylltu â chyrff sy’n darparu hyfforddiant. Byddan nhw hefyd yn gallu eich helpu i benderfynu beth i’w wneud.

Cewch hyd i rywfaint o wybodaeth am ddysgu ac addysg ar wefan Carers UK hefyd: www.carersuk.org

Mae Dysgu Bro Ceredigion yn rhan o Wasanaethau Dysgu Cyngor Sir Ceredigion. Ei nod yw darparu cyfleoedd dysgu i drigolion Ceredigion yn eu cymunedau i’w hannog i feithrin diddordebau newydd, i weithio tuag at gymhwyster neu i wella’u sgiliau ar gyfer y gweithle. Mae’n darparu ystod eang o gyrsiau mewn gwahanol leoliadau.

Dysgu Bro Ceredigion
Canolfan Ddysgu Llanbadarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3RJ

Ffôn: 01970-633040
E-bost: admin@dysgubro.org.uk
Gwefan: www.dysgubro.org.uk

Coleg addysg bellach dwyieithog yw Coleg Ceredigion. Mae ganddo ddau gampws – y naill yn Aberystwyth a’r llall yn Aberteifi. Mae’r cyrsiau’n darparu ystod eang o gyfleoedd dysgu cyffrous i’r rheini sy’n gadael yr ysgol ac i oedolion.

Campws Aberteifi: 01239 612032 neu Gampws Aberystwyth: 01970 639700
E-bost: enquiries@ceredigion.ac.uk
Gwefan: www.ceredigion.ac.uk

Mae’r Brifysgol Agored yn darparu cyfleoedd dysgu o bell. Gallwch astudio i ennill tystysgrifau a diplomau addysg uwch, graddau sylfaen a graddau anrhydedd, a chymwysterau uwchraddedig. Gallwch ddewis o blith tua 150 o gyrsiau.

Ffôn: 0300 303 0061
Gwefan: www.open.ac.uk