Ydych chi o dan 18 oed ac yn gofalu am aelod o'ch teulu neu deulu estynedig sydd â salwch hirdymor, anabledd, salwch sy'n gysylltiedig â chyffuriau / alcohol neu salwch meddwl?
Beth yw Ofalwyr Ifanc?
Mae Gofalwyr Ifanc yn blant a phobl ifanc o dan 18 oed sy'n rhoi gofal, cefnogaeth neu gymorth i aelod o'r teulu sydd ag anghenion gofal. Mae'r rhan fwyaf o'r Gofalwyr Ifanc yn gofalu am riant, ond fe all y sawl sydd ag anghenion gofal fod yn chwaer neu frawd, mam-gu neu dad-cu neu unrhyw un arall o'r teulu.
Dynodir pobl ifanc 18 – 25 oed yn Ofalwyr Oedolion Ifanc.
Daw plentyn yn Ofalydd Ifanc pan yw lefel y gofal y mae'n ei roi a'r cyfrifoldeb yn mynd yn amhriodol i'r plentyn hwnnw. Fe all hyn wedi hynny effeithio ar ei les emosiynol neu gorfforol, cyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd mewn bywyd.
Yn ôl y diffiniad a geir yn Neddf Plant 1989, gellid ystyried taw 'plentyn mewn angen' yw Gofalydd Ifanc.
Oeddech chi'n gwybod?
- Bod Gofalwyr ifanc yn fwy tebygol o golli ysgol a chyflawni llai yn eu haddysg ar lefel TGAU na'u cyfoedion ac y bydd eu hiechyd yn waeth hefyd ('Hidden from View', Cymdeithas y Plant)
- Bod 13,000 o Ofalwyr Ifanc y DU yn gofalu am fwy na 50 awr yr wythnos ac mai oed Gofalydd Ifanc ar gyfartaledd yw 12 (Barnardos o Gyfrifiad 2011)
- Bod Gofalwyr Ifanc rhwng 16 ac 18 oed ddwywaith yn fwy tebygol o beidio â bod mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant (NEET) (Ymddiriedolaeth y Gofalwyr)
Gofalwyr Ceredigion Carers, Gwasanaeth y Gofalwyr Ifanc
Mae Gwasanaeth y Gofalwyr Ifanc yn cynnig cymorth un-i-un i blant a phobl ifanc sy'n gofalu am aelod o'r teulu sy'n sâl, neu berthynas sydd ag anabledd, problemau iechyd meddwl neu broblemau sy'n gysylltiedig â chyffuriau / alcohol.
Mae gweithgareddau grŵp a'r cyfle i gwrdd â Gofalwyr Ifanc eraill yn cynnig seibiant iddynt o'u rôl fel gofalwyr.
Am fwy o fanylion a mynediad i'r gwasanaeth cysylltwch â:
Gofalwyr Ceredigion Carers
Ffôn: 03330 143 377
E-bost: ceredigion@credu.cymru
Gwefan: www.gofalwyrceredigion.cymru
Cyfeiriad: FREEPOST CREDU
Llyfryn: Gwybodaeth ar gyfer Gofalwyr Ifanc
Pam mae angen i ni weithredu nawr i adnabod, cyfeirio a chefnogi Gofalwyr Ifanc?
Weithiau mae Gofalwyr Ifanc yn gorfod ymdopi ag iselder, euogrwydd, arwahanrwydd, poeni, pryder a straen. Gall hyn yn ei dro ddod ag:
- Unigrwydd
- Bwlio
- Diffyg presenoldeb yn yr ysgol
- Prinder sgiliau cymdeithasol
- Cyflawni'n isel mewn addysg
- Colli cyfleoedd
- Esgeulustod
- Problemau iechyd y meddwl
- Yn groes i'w hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC)
- Methu cyfleoedd cymdeithasol ac addysgol
Yr hyn a allai Gofalwyr Ifainc fod yn ei wneud:
- Tasgau ymarferol – golchi, coginio neu smwddio
- Gofal personol – rhoi bath i rywun a dodi dillad amdanynt
- Cymorth emosiynol – cynnig "clust i wrando"
- Codi a chludo corfforol
- Helpu gyda moddion neu godi presgripsiwn
- Helpu i ofalu am chwiorydd neu frodyr iau
- Sicrhau diogelwch
- Cadw trefn ar arian y teulu a thalu biliau
- Cyfieithu neu ddehongli
Sut fedrwch chi adnabod Gofalydd Ifanc?
Fe allai ....
- Fod yn gyfrinachol ynglŷn â'i fywyd gartref
- Golwg flinedig arno/arni
- Hwyr i'r ysgol neu weithgareddau
- Mynd mas gyda ffrindiau yn anaml
- I'w weld yn bryderus neu'n poeni drwy'r amser
- Dangos arwyddion o ymddygiad trafferthus
- Colli ysgol
- Golwg yn ei gragen neu isel ei ysbryd arno/arni
- Iechyd neu hylendid personol gwael
- Anodd canolbwyntio a golwg bell arno/arni
Yr hyn mae angen i chi ei wneud:
Os ydych yn gwybod bod rhywun yn Ofalydd Ifanc gofalwch eich bod yn cynnig cymorth iddo/iddi a rhoi gwybodaeth ac/neu gyfeiriad gyda'r prif gysylltiadau ar y daflen hon.
Mae'r rhain yn un o'n grwpiau mwyaf agored i niwed yn gymdeithas. Mae hyn nawr yn ddyletswydd i chi o dan y ddeddf newydd.
Prif gysylltiad os daw Gofalydd Ifanc i'ch sylw:
Canolfan Gysylltu Ceredigion:
Ffôn: 01545 574000
Minicom: 01545 574001
E-bost: contact-socservs@ceredigion.gov.uk
Mae Diwrnod Gweithredu Gofalwyr Ifanc ar ddydd Mercher, 15fed o Fawrth 2023.
Bob blwyddyn, mae'r diwrnod yn ymgymryd â thema, thema 2023 yw Gwneud Amser i Ofalwyr Ifanc.
Mae'r thema hon yn amlygu dau beth sy'n bwysig iawn i ofalwyr ifanc:
- Yr angen i weithwyr proffesiynol ac oedolion cyfrifol wneud mwy o amser i wrando ar ofalwyr ifanc am yr heriau sy'n eu hwynebu
- Ar ôl iddynt ddeall hyn, mae angen iddynt wneud amser i roi'r gefnogaeth gywir mewn lle i ofalwyr ifanc