Skip to main content

Ceredigion County Council website

Beth yw chwarae?

“Chwarae yw un o’r ffyrdd y bydd plant yn dysgu am eu hunain, y bobl o’u cwmpas, eu hamgylchedd a’r gymuned y maent yn byw ynddi.”

Mae chwarae yn hanfodol ar gyfer:

  • Twf corfforol, emosiynol ac ysbrydol
  • Datblygiad deallusol ac addysgol
  • Sgiliau cymdeithasol ac ymddygiadol

Lleoedd i Chwarae

Bydd plant yn chwarae yn unrhyw le ar unrhyw adeg cael y cyfle. Fel rhieni / gofalwyr, y rhai sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc, teuluoedd a byw / gweithio mewn cymunedau mae gennym gyfrifoldeb i greu’r amodau cywir lle gall plant gael gafael ar gyfleoedd i chwarae.

Plentyndod Chwareus

Mae Plentyndod Chwareus yn cefnogi rhieni, gofalwyr, neiniau, teidia, mam-guod a thad-cuod i roi amser, lle a chefnogaeth i blant chwarae gartref ac yn eu cymuned - www.plentyndodchwareus.cymru

Ewch i wefan Chwarae Cymru i ddod o hyd i lawer o wybodaeth bellach i rieni a gweithwyr.

Chwarae yn Ysgolion Ceredigion

Mae ein Gwasanaeth Ysgolion a'r Gwasanaeth Gweithgaredd Corfforol a Chwarae (Ceredigion Actif) wrthi'n gweithio gyda staff Ysgolion Iach ar brosiect Chwarae. Y dau brif amcan y rhaglen yw:

  • Darparu cyfleoedd chwarae cynaliadwy i blant a phobl ifanc yng Ngheredigion;
  • Helpu i ddatblygu Amgylcheddau Chwarae Cyfoethog yn ein hysgolion

Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, rydym wedi rhoi'r camau canlynol ar waith:

  1. Rhannu Gwybodaeth: Hyfforddiant cychwynnol ar Chwarae Rhydd, Rhannau Rhydd ac Iechyd a Diogelwch (RoSPA) a gyflwynir trwy'r Rhwydwaith Iechyd a Lles ac Ysgolion Iach
  2. Offer: Mae Ysgolion Iach wedi ariannu 30 o ysgolion i brynu rhannau rhydd i ddechrau creu Ardaloedd Chwarae Cyfoethog
  3. Ymweliadau Ysgol: Bydd staff RAY Ceredigion yn trefnu 4 ymweliad ysgol gyda'r ysgolion sydd wedi ymuno
  4. Hyfforddiant Staff Ymarferol: Bydd staff Ceredigion Actif yn darparu hyfforddiant a mentora i staff ysgolion. Gallai hyn fod ar gyfer goruchwylwyr amser cinio, staff cefnogi ac athrawon. Gallwch hefyd gynnwys eich Llysgenhadon Ifanc Efydd. (Os oes gennych Marciau Maes Chwarae, gallem hefyd gysylltu'r rhain â'r hyfforddiant)
  5. Mwy o gyllid: Ar ôl i'ch staff gael eu hyfforddi, byddwn yn prynu offer chwarae Rhannau Rhydd ychwanegol er mwyn helpu i greu ardaloedd cyfoethog a byddwn hefyd yn rhoi rhestr o offer y gallai rhieni ei roi i wella cyfleoedd ymhellach. Mae'n hanfodol bod y staff fydd yn cyflwyno'r sesiynau chwarae yn yr ysgol wedi'u hyfforddi a'u cefnogi'n addas
  6. Polisi Chwarae: Byddwn yn gofyn i bob ysgol sy'n gysylltiedig â datblygu Polisi Chwarae Ysgolion. Mae enghreifftiau a chymorth ar gael gan Helen.Lewis26@wales.nhs.uk (Cydlynydd Ysgolion Iach)
  7. Gwerthuso Prosiect: Bydd holiaduron disgyblion a staff i'w cwblhau er mwyn i ni werthuso'r prosiect.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, peidiwch ag oedi i ebostio: