Mae Safle Cymeradwy’n golygu lleoliad neu adeilad sydd wedi’i drwyddedu i weinyddu priodasau sifil a chofrestru partneriaethau sifil.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Safle Cymeradwy, e-bostiwch Gwasanaeth Cofrestru Ceredigion ar cofrestrydd@ceredigion.llyw.cymru i ofyn am becyn ymgeisio.

Mae’r pecyn ymgeisio’n cynnwys gwybodaeth fanwl am y drefn ymgeisio, y gofynion, ac addasrwydd safleoedd.

Mae Gwasanaeth Cofrestru Ceredigion yn croesawu ceisiadau gan bob math o safleoedd. Fodd bynnag, nid yw pob safle’n addas i’w drwyddedu ar gyfer priodasau a phartneriaethau sifil. Mae’n annhebygol y byddai tŷ annedd preifat yn cael ei farnu’n lleoliad priodol all gwrdd â’r holl feini prawf trwyddedu.

 

Sylwer – Ni ddylai lleoliadau sydd am wneud cais i ddod yn Safle Cymeradwy hysbysebu neu gymryd archebion ar gyfer unrhyw briodas neu bartneriaeth sifil nes bod y cais wedi’i gwblhau a’r drwydded Safle Cymeradwy wedi’i rhoi.