Blodau

Ar ôl claddedigaeth, gall tîm cynnal a chadw tir y Cyngor gael gwared ag unrhyw flodau sydd wedi gwywo wrth gynnal a chadw’r Fynwent.


Cais i Godi Cofeb

Mae gofyn ichi gysylltu â Saer Maen sydd wedi cofrestru â BRAMM, a fydd wedyn yn gwneud y cais i’r Cyngor ar eich rhan. Bydd y Saer Maen yn esbonio amodau’r Cyngor o ran maint y gofeb ac yn y blaen.


Cynnal a Chadw Cofeb – Cyffredinol

Deiliad y weithred sy’n gyfrifol am gynnal a chadw’r gofeb. Pe byddai’r gofeb yn mynd yn ansefydlog, hysbysir deiliad y weithred o hynny fel y gall drefnu bod rhywun yn adfer y sefyllfa.

Mae’r Cyngor yn argymell y dylid yswirio pob cofeb rhag difrod.


Borderi Cerrig Beddi

Am chwe mis ar ôl claddedigaeth ac ar ôl i’r ddaear wastatáu, bydd y Cyngor yn cael gwared ag unrhyw eitemau sy’n debygol o bydru neu ddirywio, ac yna’n gwastatáu’r ddaear ac yn rhoi glaswellt dros y bedd; eir ymaith ag unrhyw addurniadau a’u cadw’n ddiogel am gyfnod o chwe mis. Yn ystod y cyfnod hwn gall deiliad y Weithred gysylltu â’r Cyngor i drefnu casglu’r eitemau sydd wedi’u cadw. Ar ôl gosod y glaswellt dros y bedd caiff y blodau eu rhoi’n ôl wrth droed y garreg.

Mae’r Cyngor yn cynnal a chadw’r glaswellt rhwng y rhesi o feddi drwy ddefnyddio peiriannau torri gwair mawr, ac felly ni chaniateir unrhyw ymylfeini, rheiliau nac unrhyw addurniadau eraill ar y lawntiau. Caniateir rhoi blodau ger y garreg fedd, ond ni cheir plannu unrhyw blanhigion, llwyni na choed. Os bydd unrhyw flodau’n gwywo mae’n bosib y bydd y gweithwyr cynnal a chadw’n cael gwared arnynt. Er diogelwch pawb, ni ddylid rhoi unrhyw wydr ar lain y bedd.


Adnewyddu Gweithredoedd

Pan fydd gweithred gladdedigaeth / cofeb wedi dod i ben, dylid gwneud cais i’r Cyngor i ymestyn y weithred honno. Edrychwch ar y ffioedd a’r taliadau presennol i gael gwybod y gost am ymestyn gweithred.