Perchnogaeth Beddi a Throsglwyddo Gweithredoedd, Gan Gynnwys Datganiadau Statudol

  • Yn ôl y gyfraith dim ond perchennog y bedd a fedr roi caniatâd i gladdu rhywun arall yn ei fedd ef neu hi. Fel bod y Cyngor yn gwybod manylion y perchennog presennol ac yn eu cofrestru, mae’n rhaid hysbysu’r Cyngor o unrhyw drosglwyddiad o ran perchnogaeth a darparu tystiolaeth. Nid yw meddu ar weithredoedd y bedd o reidrwydd yn golygu bod y deiliad â’r hawl i’w cael, ac ni fydd yn rhoi sicrwydd y bydd y Cyngor yn caniatáu mwy o gladdedigaethau, neu godi cofeb ar y bedd.
  • Nid yw bod yn berchen ar fedd ond yn rhoi’r hawl i’r perchennog benderfynu pwy ellir eu claddu ynddo; nid yw’n rhoi iddo unrhyw berchnogaeth dros y tir nac yn rhoi unrhyw hawliau awtomatig i’r person godi unrhyw fath o gofiant neu blannu blodau neu lwyni ar y bedd. Mae’n rhaid cael caniatâd y Cyngor i godi unrhyw gofeb. Os rhoddir caniatâd i godi cofeb, unwaith y bydd y gofeb honno wedi’i chodi bydd y perchennog cofrestredig yn llwyr gyfrifol am ei chynnal a’i chadw a sicrhau ei bod yn ddiogel.
  • Yn aml bydd perchnogion beddi’n marw heb wneud unrhyw drefniadau ar gyfer trosglwyddo’r gweithredoedd, a gall hynny beri anawsterau pan fydd eu disgynyddion am ddefnyddio’r bedd yn ddiweddarach. Ni all y Cyngor ganiatáu mwy o gladdedigaethau ar gais, ac mae’n rhaid cadarnhau bod y sawl sy’n hawlio perchnogaeth o’r bedd yn meddu ar yr hawl gyfreithiol i wneud hynny. Felly, mae’n syniad da i hysbysu’r Cyngor cyn gynted â phosib o unrhyw drosglwyddo perchnogaeth, a rhoi tystiolaeth i’r perwyl hwnnw.
  • Yn amlach na pheidio, Ewyllys y perchennog yw’r lle gorau i chwilio am enwau neb a allai fod â hawl i dderbyn gweithredoedd y bedd; fel arall, gallai fod yno Lythyrau Gweinyddu neu Grant Profiant yn cynnwys yr wybodaeth. Os nad oes Ewyllys, Llythyrau Gweinyddu na Grant Profiant, mae’r Cyngor fel arfer yn gofyn am Ddatganiad Statudol yn dystiolaeth o bwy sydd â’r hawl i’w cofrestru yn berchnogion y bedd.
  • Os oes ansicrwydd o ran perchnogaeth y bedd, mae’r Cyngor yn argymell eich bod yn datrys hynny cyn gynted â phosib pan mae gennych ddigon o amser, yn hytrach na gorfod ceisio datrys unrhyw broblemau ar frys wrth baratoi ar gyfer angladd.

Datganiad Statudol

Dylai’r Datganiad Statudol nodi’n eglur y ffeithiau ynglŷn â’r modd y prynwyd yr hawl neilltuol i gladdedigaeth yn y lle cyntaf, marwolaeth y perchennog cofrestredig, p’un a oedd wedi gadael ewyllys neu beidio, a pherthynas yr ymgeisydd i’r perchennog cofrestredig. Dylid cynnwys y Weithred neu’r Grant gwreiddiol gyda’r Datganiad, os yw ar gael. Os yw’r Weithred wedi mynd ar goll, dylid cynnwys brawddeg am hynny yn y Datganiad gyda geiriad addas. Mae’n hanfodol cael cydsyniad ysgrifenedig i’r trosglwyddiad gan bob aelod o deulu’r perchennog ymadawedig a’i gynnwys gyda’r Datganiad. Mewn rhai sefyllfaoedd mae’n bosib y bydd y Cyngor ofyn am gopi ardystiedig o dystysgrif marw’r perchennog.

Nid yw’r wybodaeth isod yn cynnwys popeth, ond bydd yn helpu’r bobl hynny sy’n dymuno llunio eu Datganiadau Statudol eu hunain. Mae’n debygol y bydd pob Datganiad yn wahanol gan fod pob achos yn unigryw, ond gallwch ddilyn y canllawiau hyn i gynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol fel arfer. Rhoddir dwy enghraifft hefyd y gellir eu defnyddio fel templedi, ond fel y dywedir uchod bydd pob achos yn wahanol ac ni ddylid ond defnyddio’r templedi fel canllawiau. Mae’r Cyngor yn argymell y dylid llunio Datganiad drafft a’i roi i’r Cyngor ei gymeradwyo cyn llofnodi’r un terfynol, er mwyn sicrhau ei fod yn dderbyniol. Gall unrhyw un ddrafftio’r Datganiad, ond mae’n rhaid ei lofnodi ym mhresenoldeb rhywun priodol, sef cyfreithiwr cydnabyddedig gan amlaf, a dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol o ran y Datganiad. Mae cyfreithwyr fel arfer yn codi tâl am y gwaith.

Gall fod yn werth chweil ichi lunio achau’n mynd yn ôl at berchnogion gwreiddiol y bedd, gan gynnwys yr holl ddisgynyddion, er mwyn gweld pwy allai fod yn berthnasol i’r mater.

Yr wybodaeth sy’n ofynnol:

  • Enw(au) a chyfeiriad(au) y person neu’r bobl sy’n gwneud y Datganiad. Fel arfer, un person fydd â’r hawl i berchnogaeth, neu nifer o aelodau’r teulu.
  • Rhif yr adran yn y fynwent a llain y bedd, ynghyd ag enwau’r bobl sydd wedi’u claddu yno.
  • Y berthynas rhwng y person neu’r bobl sy’n gwneud y Datganiad a’r ymadawedig. Pan fydd mwy nag un o bobl dylid disgrifio manylion y teulu ar ffurf achau, ac os oes rhywun arall a allai fod â buddiant yn yr ystâd, yna dylent hwythau hefyd lofnodi’r Datganiad. Os nad yw hynny’n bosib ar adeg gwneud y Datganiad, dylai’r Datganiad Statudol gynnwys llythyr wedi’i lofnodi gan bawb nad ydynt wedi llofnodi’r Datganiad a dylid cyfeirio ato yng nghorff y Datganiad. Gallai hyn fod yn eithaf cymhleth, yn enwedig mewn achosion ble mae teulu estynedig mawr.
  • Wrth gyfeirio at unrhyw berchnogion y bedd sydd wedi marw yn y Datganiad, dylid nodi eu dyddiadau geni a dweud a oeddent wedi gadael ewyllys neu beidio, ac a roddwyd Grant Profiant neu Lythyrau Gweinyddu. Mae’n rhaid cynnwys copïau ardystiedig o unrhyw Ewyllys, Grant Profiant neu Lythyrau Gweinyddu gyda’r Datganiad er mwyn profi i bwy y trosglwyddwyd perchnogaeth y bedd.
  • Os nad oes modd cyflwyno gweithred y bedd neu os na fedr perchennog y weithred roi caniatâd, mae’n rhaid esbonio pam. Os na ellir dod o hyd i’r gweithredoedd, byddai’n helpu i gyfeirio at ddogfennau eraill sydd ar gael (megis derbynebau am daliadau, neu’r anfoneb wreiddiol oddi wrth y trefnwr angladdau sy’n crybwyll prynu’r bedd) a chynnwys copïau gyda’r Datganiad.
  • Cadarnhad nad oes gan neb arall hawl i gael ei gladdu yn yr un bedd.

Enghraifft Datganiad Statudol 1

Enghraifft Datganiad Statudol 1


Ffurflen Ymwrthod

Gellir defnyddio’r ffurflen hon (ynghyd â Datganiad Statudol os yw’n ofynnol) pan mae mwy nag un person yn hawlio’r bedd, er enghraifft, lle’r oedd gan yr ymadawedig dri o blant a pherthynas agos arall, a bod un neu fwy o’r plant yn dymuno ildio’r hawl i berchnogaeth.

Ffurflen Trosglwyddo / Gwrthodiad


Ffurflen Aseinio

Defnyddir y ffurflen hon gan berchennog sy’n fyw er mwyn trosglwyddo neu newid perchnogaeth yr hawl neilltuol i gladdedigaeth, hynny yw, i drosglwyddo’r bedd i berchennog newydd neu ychwanegu perchennog arall.

Ffurflen Trosglwyddo / Gwrthodiad


Grant Profiant

Rhoddir hyn i Weithredwr neu Weithredwyr Ewyllys a Thestament Olaf.


Llythyrau Gweinyddu

Pan fydd farw rhywun heb adael ewyllys, yna gall y teulu wneud cais i’r Llys i ddod yn Weinyddwyr yr ystâd.


Anghydfod Teuluol

Yn anffodus ni all y Cyngor ymyrryd mewn unrhyw anghydfod teuluol ynglŷn â pherchnogaeth, neu unrhyw sefyllfa ble mae anghytundeb llwyr a bod pobl yn dal caniatâd yn ôl. Dylai’r teulu wneud ymdrech i ddod i ryw fath o gytundeb ymysg ei gilydd, neu os nad yw hynny’n bosib, ceisio cyngor cyfreithiwr. Hyd oni ddatrysir unrhyw broblemau, ni all y cyngor gofrestru unrhyw drosglwyddiad o berchnogaeth o ran Gweithred y Bedd.


Cysylltwch â Priffyrdd a Gwasanaethau Amgylcheddol ar 01970 633900 os oes angen cymorth pellach arnoch.