Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Llongyfarchiadau i chi ar enedigaeth eich babi. Mae hwn yn gyfnod arbennig iawn i chi a’ch teulu.

Cofiwch fod yn rhaid i chi drefnu apwyntiad i gofrestru'r enedigaeth o fewn 42 diwrnod i'ch plentyn gael ei eni.

Rydyn ni yma i helpu i wneud y broses mor hawdd â phosibl. Felly, os gafodd eich babi ei eni yng Ngheredigion, ffoniwch ni ar 01970 633580 i drefnu apwyntiad cofrestru genedigaeth.

Fel arall, cwblhewch y ffurflen isod i ymholi am apwyntiad cofrestru genedigaeth.

Ymholi am Apwyntiad Cofrestru Genedigaeth

  • Os oedd y rhieni yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar ddyddiad geni’r plentyn, gall naill riant neu’r llall gofrestru’r enedigaeth
  • Os nad oedd y rhieni yn briod neu mewn partneriaeth sifil ar ddyddiad geni'r plentyn, rhaid i'r tad neu'r ail riant benywaidd fynychu'r apwyntiad gyda'r fam er mwyn cynnwys manylion y ddau riant ar y cofnod genedigaeth. Os yw'r fam yn mynychu'r apwyntiad ar ei phen ei hun, dim ond ei manylion hi fydd yn cael eu cofnodi ar y cofnod genedigaeth
  • Os oes dau riant benywaidd nad oeddent yn briod neu mewn partneriaeth sifil, rhaid i'r ddau fynychu'r apwyntiad a bodloni'r gofynion cyfreithiol o dan y Ddeddf Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg er mwyn cynnwys manylion yr ail riant benywaidd ar y cofnod genedigaeth. Os yw'r fam yn mynychu'r apwyntiad ar ei phen ei hun, dim ond ei manylion fydd yn cael eu cofnodi ar y cofnod genedigaeth

Pan fyddwch chi'n mynychu apwyntiad cofrestru genedigaeth, byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddod â;

  • Y ‘Llyfr Coch’ neu unrhyw ddogfennaeth geni a ddarparwyd gan yr Ysbyty neu’r fydwraig
  • Eich pasbort neu dystysgrif geni
  • Prawf o'ch cyfeiriad presennol (fel trwydded yrru)
  • Prawf o unrhyw enw neu enwau blaenorol (er enghraifft gweithred newid enw)
  • Eich tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil (os yw'n berthnasol)

Sylwch nad yw'n ofynnol yn gyfreithiol i chi gyflwyno'r dogfennau hyn, ond gallant helpu i sicrhau bod y wybodaeth a gofnodwyd ar gofnod genedigaeth eich plentyn yn fanwl gywir.

Yn ystod yr apwyntiad cofrestru, bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi gadarnhau'r wybodaeth ganlynol:

  • Dyddiad a man geni’r plentyn
  • Enw a chyfenw llawn y plentyn
  • Enw llawn a chyfenw‘r rhiant/rhieni (gan gynnwys unrhyw enwau blaenorol)
  • Cyfeiriad a swydd y rhiant/rhieni
  • Dyddiad a man geni'r rhiant/rhieni
  • Os yw'r rhieni'n briod neu'n bartneriaid sifil, dyddiad priodas/partneriaeth sifil a chyfenw morwynol y fam

Bydd y cofrestrydd yn gofyn i chi ddarllen a gwirio'r holl wybodaeth ar y cofnod genedigaeth cyn llofnodi. Mae'n hanfodol bod yr holl wybodaeth yn gywir, gan fod hon yn ddogfen gyfreithiol.

Os canfyddir unrhyw wallau ar ôl i'r cofrestriad gael ei gwblhau, bydd gofyn i chi wneud cais am gywiriad ffurfiol, a bydd tâl yn cael ei godi am hyn.

Os cafodd eich babi ei eni yng Ngheredigion, ar ddiwedd yr apwyntiad cofrestru, byddwch yn gallu prynu tystysgrifau geni am ffi o £12.50 y dystysgrif.

Bydd tystysgrif geni safonol (neu lawn) yn cynnwys enw, dyddiad a man geni'r plentyn ynghyd â manylion y rhiant/rhieni.

Os cafodd eich babi ei eni y tu allan i Geredigion, ar ôl yr apwyntiad, bydd y datganiad geni yn cael ei anfon i'r ardal lle digwyddodd yr enedigaeth. Mae'r swyddfa honno yn gyfrifol am gwblhau'r cofrestriad a chyhoeddi tystysgrifau a dogfennau cysylltiedig eraill. Felly, ni fyddwn yn gallu cyhoeddi unrhyw ddogfennau i chi.