Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Os ydych yn adeiladu cartref fforddiadwy i’ch meddiannaeth eich hun, rhaid i chi gael Tystysgrif Cymhwysedd Hunanadeiladu cyn meddiannu’r eiddo.

Nid yw caniatâd cynllunio ar ei ben ei hun yn golygu y gallwch feddiannu’r eiddo fel tai fforddiadwy. Rhaid i’r Cyngor asesu eich cymhwysedd ar wahân.

 

Y Broses

1. Gwneud Cais am Dystysgrif Cymhwysedd Hunanadeiladu

Cyn dechrau’r gwaith adeiladu, gwnewch gais i’r Cyngor am Dystysgrif Cymhwysedd Hunanadeiladu. Gweler Sut i Wneud Cais a’r Daflen Ganllawiau hon.

Bydd y Cyngor yn asesu a yw’r meddiannydd arfaethedig yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer tai fforddiadwy.

Bydd angen tystiolaeth ategol, hyd yn oed pan fo gwybodaeth wedi’i chyflwyno eisoes fel rhan o’r broses cais cynllunio.

2. Cyhoeddi’r Dystysgrif Cymhwysedd

Os yw’r Cyngor yn fodlon bod y gofynion cymhwysedd wedi’u bodloni, bydd Tystysgrif Cymhwysedd Hunanadeiladu yn cael ei chyhoeddi.

Mae Tystysgrifau Cymhwysedd Hunanadeiladu yn ddilys am 18 mis o ddyddiad eu cyhoeddi.

3. Adeiladu a Meddiannu’r Annedd

Rhaid meddiannu’r annedd o fewn cyfnod dilysrwydd y dystysgrif.

Cyn meddiannu’r annedd, rhaid i chi gyflwyno Datganiad Statudol yn cadarnhau:

  •       Yr eiddo fydd eich unig a'ch prif breswylfa.
  •        Nid ydych yn berchen ar unrhyw eiddo preswyl arall.
  •        Dyddiad meddiannu’r eiddo.

Bydd angen Datganiad Statudol yn flynyddol hefyd ar ôl meddiannu’r eiddo.

4. Os bydd eich Tystysgrif yn Dod i Ben cyn i chi Feddiannu’r Eiddo

Os na chaiff yr annedd ei meddiannu o fewn 18 mis o ddyddiad cyhoeddi’r dystysgrif, bydd angen Tystysgrif Cymhwysedd Hunanadeiladu newydd cyn y gellir meddiannu’r eiddo.

Rhaid darparu tystiolaeth wedi’i diweddaru, a gall unrhyw newid mewn amgylchiadau effeithio ar gymhwysedd.

Os yw’n annhebygol y byddwch yn meddiannu’r annedd o fewn cyfnod y dystysgrif, cysylltwch â’r Cyngor ar GBG-DFS@ceredigion.gov.uk cyn gynted â phosibl.

Os bydd amgylchiadau’n newid ac nad yw’r meddiannydd arfaethedig yn dymuno meddiannu’r eiddo, cysylltwch â’r Cyngor cyn marchnata neu werthu’r annedd. Rhaid i unrhyw werthiant gydymffurfio â gofynion y Cytundeb Adran 106. Gweler Gwerthu Eich Cartref Fforddiadwy.