Mae pandemig Covid-19 wedi creu nifer o heriau i fusnesau, llawer ohonynt yn annisgwyl, ac wedi dylanwadu'n fawr a newid ein ffordd o fyw a gweithio. Wrth i ni addasu i fyw a gweithio trwy'r pandemig, mae'r Cyngor yn ceisio hwyluso adferiad economaidd Ceredigion. Un ffordd o wneud hynny yw trwy sicrhau bod perchnogion a gweithredwyr busnesau yn cael gwybodaeth am y system gynllunio er mwyn sicrhau bod cynigion posibl yn addas ac yn cael eu gweithredu'n effeithlon.

Gellir gweld dogfennau Polisi a Chanllawiau Cynllunio Llywodraeth Cymru yma

Ac mae'r Tîm Polisi Cynllunio yng Ngheredigion wedi cynhyrchu'r dogfennau a ganlyn:

2021 Canllawiau Cynllunio Ar Gyfer Manwerthu, Gwasanaethau Ariannol A Phroffesiynol A Diwydiant

2021 Pamffled Canllawiau Cynllunio Ar Gyfer Manwerthu, Gwasanaethau Ariannol A Phroffesiynol A Diwydiant

Canllaw Dylunio yng Nghanol y Dref