Cyngor ar gyfer Busnesau a Sefydliadau Gwirfoddol

Cyfres o gynlluniau y dylai fod gan bob busnes yn eu lle yw Parhad Busnes fel y medrant ddarparu gwasanaeth di-dor i'w cwsmeriaid os bydd argyfwng neu rhybeth mawr yn digwydd.

Gallai hyn gynnwys un neu gwy o'r canlynol:

  • Colli adeilad neu gyfleusterau pwysig e.e. tân, difrod storm
  • Nifer fawr o staff yn absennol e.e. epidemig / pandemig
  • Tywydd garw iawn e.e. eira, llifogydd
  • Colli cyfleustodau e.e. trydan, nwy, dŵr, ffonau, TG (Technoleg Gwybodaeth)
  • Digwyddiad diwydiannol difrifol e.e. tân mawr, cemegau yn gollwng

Mae 80% o fusnesau yr effeithir arnynt gan ddigwyddiad difrifol yn cau ymhen 18 mis.

Mae 90% of fusnesau sy'n colli data oherwydd trychinen yn gorfod cau ymhen 2 flynedd.

Amharwyd ar 58% o sefydliadau yn y DU o ganlyniad i'r trychibeb ar 11 Medi. Effeithiwyd yn ddifrifol ar 1 o bob 8.

Pam mae arnoch angen Cynllun Parhad Busnes?

Mae profiad wedi dangos bod sefydliadau sydd â threfniadau parhad busnes yn eu lle yn fwy tebygol o aros mewn busnes ac adfer yn gynt mewn argyfwng na rhai sydd heb gynlluniau yn eu lle. Nid yr argyfyngau mawr yn unig sy'n amharu ar sefydliad; gall ystod eang a bethau beunyddiol darfu ar a bygwth busnes - neu fodolaeth - sefydliad.

Bydd datblygu Cynllun Parhad Busines yn eich helpu i reoli eich risgiau er mwyn sicrhau y gall eich sefydliad barhau i weithredu'n ddi-dor, ar lefel is wedi'i phennu ymlaen llaw o leiaf. Drwy wneud hyn byddwch yn gallu parhau i ddarparu gwasanaeth yn ystod ac ar ôl argyfwng.

Am fwy o wybodaeth, gweler y ddolen isod:

Canllaw hanfodol ar gyfer busnesau bychain a chanolig ac i'ch helpu i baratoi ar gyfer pob math o rwystrau posibl yw "Parhad Busnes o dan Amgylchiadau Anodd". Cynhyrchwyd mewn partneriaeth gyda Swyddfa'r Cabinet, Sefydliad Parhad Busness a'r Gymdeithas Cynllunio ar gyfer Argyfwng a bydd y canllaw hwn yn eich cyflwyno i fesurau parhâd busnes sydd yn hanfodol i'ch busnes. Gellir cael gwybodaeth bellach ynglŷn â chanllawiau yn: