Beth yw Gwydnwch Cymunedol?

Gwydnwch Cymunedol yw lle mae cymunedau ac unigolion yn harneisio adnoddau ac arbenigedd lleol i helpu eu hunain mewn argyfwng, mewn fford sy'n gydnaws ag ymateb y Gwasanaethau Brys.

Pam fod Gwydnwch Cymunedol yn bwysig?

Mae pethau annisgwyl weithiau'n digwydd, a bydd paratoi eich hun a'ch teulu yn ei gwneud yn haws ichi adfer o effaith argyfwng.

Gallai bod yn ymwybodol o'r risgiau y gallech eu hwynebu, a phwy yn eich cymuned a allai fod angen eich help, wneud eich cymuned yn fwy abl i ymdopi mewn argyfwng.

Bydd yn rhaid i ymatebwyr brys lleol flaenoriaethu'r rhai sydd fwyaf mewn angen mewn argyfwng, yn enwedig lle mae bywyd mean perygl. Ar yr adegau hyn, mae angen ichi wybod sut it helpu'ch hun a'r rhai o'ch cwmpas.

Egwyddorion Gwydnwch Cymunedol

  • Mae cymunedau yn hunan-ddetholus
  • Mae angen i gymunedau weithredu i gefnogi'r Gwasanaethau Brys
  • Mae pethau'n cael eu gwneud gan y bobl, nid i'r bobl
  • Mae angen i gymunedau ddefnyddio gwybodaeth leol a'u rhwydweithiau presennol
  • Mae angen i gymunedau godi ymwybyddiaeth o'r risgiau.

Manteision Gwydnwch Cymunedol

  • Gall cymunedau leihau effaith argyfwng ac felly unrhys ddifrod posibl i berson neu eiddo
  • Gall cymunedau fod yn gynt i adfer yn dilyn argyfwng
  • Bydd gan y gymuned rwydweithiau cyfathrebu ffurfiol
  • Mae aelodau o'r gymuned yn tueddu i fod ag agwedd o "fynd at i wneud rhywbeth"
  • Mae aelodau o'r gymuned yn aml yn gwybod beth sydd angen ei wneud i help i leihau effaith problem benodol
  • Maent yn teimlo bod y camau a gymerir ganddynt yn benodol i'w hanghenion ac na chawsant eu gorfodi arnynt o'r tu allan
  • Mae cymunedau'n tueddu i barhau i weithio gyda'i gilydd pan fydd argyfwng wedi pasio, gan wneud gwelliannau i neu gynnal cyfleusterau lleol ayb
  • Mae cymunedau'n tueddu i chwilio am atebion ynddynt eu hunain, nid i aros neu ddisgwyl i asiantaethau o'r tu allan eu helpu
  • Mae pobl yn y gymuned yn deall y rôl y mae asiantaethau allanol yn ei chwarae mewn argyfwng yn well, ac felly'n gallu cyfathrebu eu hanghenion a'u blaenoriaethau.

Nodweddion Cymuned Wydn

Mae gan Gymunedau Gwydn y nodweddion canlynol fel arfer:

  • Ymwybodol o'r risgiau ac ymwybyddiaeth o bobl fregus
  • Maen ganddynt bencampwr cymunedol
  • Mae ganddynt grŵp argyfwng cymuned sy'n gallu dylanwadu ar benderfyniadau er lles y gymuned
  • Maent yn ymdrechu i weithio mewn partneriaeth
  • Mae ganddynt gynllun argyfwng cymuned
  • Mae pobl yn y gymuned yn barod i ddefnyddio eu sgiliau cyffredin mewn amgylchiadau anghyffredin.

I gwblhau eich cynllun argyfwng cymuned neu eich cynllun argyfwng teulu eich hun, cysylltwch â'r ccu@ceredigion.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth, gweler y ddolen isod: