Cael gwared ar chwyn niweidiol neu ymledol

Gall chwyn ymledol megis Clymog Japan a Llysiau'r Gingroen fod yn niweidiol i bobl, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm, ac maent yn aml yn anodd eu trin a hyd yn oed yn anoddach eu gwaredu. Bwriad y dudalen hon yw rhoi cyngor i bobl yng Ngheredigion ynghylch y ffordd orau o adnabod, trin a chael gwared ar chwyn peryglus ac ymledol.

Nid yw Cyngor Sir Ceredigion yn derbyn Clymog Japan na Llysiau'r Gingroen fel rhan o'r gwasanaeth casglu o gartrefi.

Clymog Japan

Chwyn anfrodorol ymledol yw Clymog Japan a ddaeth i'r Deyrnas Unedig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg fel planhigyn addurnol. Yn anffodus, mae wedi ymledu ar draws y Deyrnas Unedig gyfan ac mae'n anodd cael gwared ohono.

Mae gan Glymog Japan goesau sy'n edrych fel bambŵ, dail ar ffurf rhaw, a blodau gwyn (mae'n blodeuo ym mis Medi/Hydref). Gall dyfu hyd at 3m mewn uchder a 7m mewn hyd o dan ddaear.

O dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, mae'n drosedd plannu Clymog Japan neu achosi iddo dyfu'n wyllt. Os oes Clymog Japan ar eich eiddo, nid oes rhwymedigaeth arnoch i gael gwared arno, ond mae rhwymedigaeth arnoch i'w atal rhag croesi ffiniau eich eiddo.

Mae Clymog Japan yn hynod o anodd ei drin. Gall y rhisom (coesau dan ddaear) ymledu hyd at 7m oddi wrth y planhigyn. Os bydd darn o risom cyn lleied ag un centimedr ar ôl yn y tir, gall y planhigyn dyfu eto. Oherwydd hyn, dylid cymryd gofal wrth dorri planhigion Clymog Japan, a dylid sicrhau y dinistrir pob darn a dorrir o'r planhigyn. Am fwy o wybodaeth ynghylch rheoli Clymog Japan, gweler y dolenni defnyddiol isod.

Mae Clymog Japan yn cael ei ystyried fel gwastraff a reolir, ac felly ni ellir ond cael gwared ohono mewn ffyrdd penodol. Oherwydd nad oes cyfleuster trwyddedig ar gael, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cynghori unrhyw un sy'n dymuno cael gwared ar Glymog Japan i'w osod mewn sach bapur, gan ganiatáu digon o amser iddo sychu, cyn llosgi pob darn o'r planhigyn sydd angen ei waredu.

Llysiau'r Gingroen

Chwyn niweidiol yw Llysiau'r Gingroen sydd wedi ei gynnwys yn Neddf Chwyn 1959. Mewn rhai achosion, gofynnir i berchnogion tir gael gwared ar Lysiau'r Gingroen o'u tir yn amodol ar hysbysiad gorfodi oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA), ond yn gyffredinol ni ofynnir iddynt wneud hynny.

Mae gan Lysiau'r Gingroen glystyrau o flodau melyn tebyg i lygad y dydd a dail gwyrdd danheddog. Mae'n tyfu hyd at 3 troedfedd mewn taldra. Mae Llysiau'r Gingroen yn wenwynig i geffylau, gwartheg a defaid a dylid cael gwared ohonynt o diroedd pori lle bynnag bo modd.

Ystyrir Llysiau'r Gingroen yn chwyn niweidiol, ac ni chaiff ei dderbyn yn Safleoedd Gwastraff Cartref Ceredigion. Rydym yn cynghori unrhyw un sy'n ceisio cael gwared ar rywfaint o Lysiau'r Gingroen i dynnu'r planhigyn o'r ddaear, ei osod mewn sach bapur er mwyn ei sychu, ac yna ei losgi. Os ydych yn dymuno cael gwared ar lawer o Lysiau'r Gingroen (mwy na'r hyn y byddech yn dod ar ei draws mewn gardd neu o amgylch eich cartref), cysylltwch â ni am gyngor.

Dolenni Defnyddiol

Am ragor o wybodaeth ynghylch Clymau Japan a Llysiau'r Gingroen, gweler y dolenni canlynol:

Clymog Japan

Llysiau'r Gingroen

Cyngor Cyffredinol