Diweddariadau i’r Gwasanaeth Casglu Gwastraff
Yn anffodus ond yn anochel, mae amrywiaeth o faterion yn gallu effeithio ar ein gallu i ddarparu gwasanaethau casglu gwastraff. Mae’r rhain yn cynnwys bod y staff a’r cerbydau ar gael a hefyd anawsterau o ran mynediad.
Rydym yn ymddiheuro’n ddiffuant pan fydd amharu ar y gwasanaethau ac yn ceisio ymateb cyn gynted â phosib.
Mae’r gwasanaeth casglu gwastraff yn cael ei ddarparu rhwng 8yb a 4yp, fodd bynnag ceir adegau lle byddwn yn gweithio tu allan i’r oriau hyn. Felly, peidiwch â riportio fod eich bin heb gael ei gasglu tan y diwrnod ar ôl eich diwrnod casglu rheolaidd.
Hoffem ddiolch i'n preswylwyr am eu dealltwriaeth a'u cefnogaeth barhaus ar yr adeg arbennig o heriol hon.
Diolch.
Mae ein timau casglu gwastraff wedi bod yn brysur yn cefnogi gwasanaeth gaeaf y Cyngor yn ystod y tywydd diweddar. Rydym yn ymwybodol nad yw gwastraff wedi'i gasglu mewn rhai ardaloedd oherwydd problemau mynediad neu adnoddau. Rydym yn gweithio'n galed i unioni'r sefyllfa a byddwn yn ymdrechu i gasglu fel y nodir isod, fodd bynnag oherwydd cyfrolau uchel o wastraff yn dilyn cyfnod yr ŵyl a digwyddiad y gaeaf efallai na fydd hyn yn bosibl. Byddwch yn amyneddgar gyda ni.
Os na chaiff eich gwastraff ei gasglu fel y trefnwyd, cyflwynwch ef eto ar eich diwrnod casglu nesaf. Lle nad ydym wedi gallu casglu gwastraff gweddilliol, byddwn yn rhannu gwybodaeth isod gyda chyngor penodol am unrhyw newidiadau dros dro i'r cyfyngiadau gwastraff gweddilliol.
| Dyddiad | Ardal wedi’i effeithio | Math o wastraff sydd wedi’i effeithio | Rheswm | Cyngor |
|---|---|---|---|---|
| 22ain Ionawr 2026 | Llanon, Nebo, Llanrhystud, Llanddeiniol, Cross Inn (G), Pennant, Trefenter llwybr 167 |
Bagiau Du | Problemau gyda'r fflyd | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Gwener 23ain Ionawr 2026 |
| 21ain Ionawr 2026 | Sarnau, Tresaith, Penbryn, Llangrannog, Pontgarreg, Pentre Gat, Llwyndafydd, Brynhoffnant, Caerwedros, Cross Inn (D) llwybr 305 |
Cynnyrch Hylendid Amsugnol (CHA) | Problemau gyda'r fflyd | Ymgeisio i'w casglu ar Ddydd Iau 22ain Ionawr 2026 |
| 16eg Ionawr 2026 | Ponterwyd llwybr 180 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Rhedeg yn hwyr | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Ddydd Gwener 23ain Ionawr 2026 |
| 16eg Ionawr 2026 | Bwlchllan, Talsarn llwybr 171 |
Bagiau Ailgylchu Clir a Gwastraff Bwyd | Rhedeg yn hwyr | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf ar Ddydd Gwener 23ain Ionawr 2026 |
| 6ed Ionawr 2026 | Llandysul, Penrhiwllan, Capel Cynnon, Penrhiwpal, Ffostrasol, Tregroes, Horeb, Henllan, Llanfihangel ar Arth, Pren Gwyn, Pontsian, Talgarreg, Capel Dewi, Rhydowen llwybr 155 |
Gwydr | Digwyddiad tywydd | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf, Dydd Mawrth 27ain Ionawr 2026, neu ewch i'ch banc gwydr agosaf. |
| 6ed Ionawr 2026 | Llanbadarn Fawr, Capel Dewi, Aberystwyth llwybr 103 |
Gwydr | Digwyddiad tywydd | Ewch â nhw i'ch banc ailgylchu agosaf neu ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Dydd Mawrth 27ain Ionawr 2026 |
| 6ed Ionawr 2026 | Aberystwyth, Llanbadarn Fawr llwybr 158 |
Gwydr | Digwyddiad tywydd | Ewch â nhw i'ch banc ailgylchu agosaf neu ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Dydd Mawrth 27ain Ionawr 2026 |
| 5ed Ionawr 2026 | Waun Fawr, Bow Street, Comins Coch, Penrhyncoch, Cefn Llan llwybr 110 |
Gwydr | Digwyddiad tywydd | Ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf, Dydd Llun 26ain Ionawr 2026, neu ewch ag ef i'r banc gwydr agosaf. |
| 5ed Ionawr 2026 | Clarach, Rhiw Penglais, Bow Street llwybr 166 |
Gwydr | Digwyddiad tywydd | Ewch â nhw i'ch banc ailgylchu agosaf neu ailgyflwynwch eich gwastraff ar eich diwrnod casglu nesaf Dydd Llun 26ain Ionawr 2026 |
Dewch yn ôl ar gyfer y diweddaraf