Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Heol Felin Newydd, Aberteifi - newidiadau arfaethedig i gyfyngiadau parcio a therfyn cyflymder

Daeth yr ymgynghoriad hwn i ben ar 2 o Fehefin 2026.

Ystyriwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn gan y Cynghorwyr yng nghyfarfod y Cabinet ar 7fed o Fehefin 2026.

Gallwch ddarllen adroddiad y swyddog, ymatebion i'r ymgynghoriad a'r asesiad effaith integredig diwygiedig drwy glicio ar y ddolen isod.

Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Heol Felin Newydd, Aberteifi) (Gorchymyn Diwygio Rhif 17) 2026.

Penderfyniad:

Cymeradwyo gwneud y Gorchymyn a chyhoeddi Hysbysiad Gwneud dilynol yn y wasg i'r perwyl hwnnw.

Y rheswm dros y penderfyniad:

Diogelu diogelwch ar y ffyrdd wrth y fynedfa i ddatblygiad adeilad newydd.

 

Ymgynghoriad Gwreiddiol

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn bwriadu cyflwyno:

  • gwahardd parcio ar unrhyw amser ar ochr ogleddol Heol Felin Newydd, Aberteifi o'i chyffordd â Ffordd Aberystwyth, ac
  • ymestyn y cyfyngiad cyflymder o 20mya ar hyd Heol Felin Newydd o'r gyffordd â Ffordd Aberystwyth.

Am fwy o fanylion, gan gynnwys sut i gyflwyno gwrthwynebiad, mynegi cefnogaeth neu sylwadau eraill, ewch i:

'Gorchymyn Cyngor Sir Ceredigion (Gwahardd a Chyfyngu ar Aros a Llwytho a Dadlwytho) 2019 (Heol Felin Newydd, Aberteifi) (Gorchymyn Diwygio Rhif 17)'

ar ein tudalen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig.