Diwylliant: Barn, Profiad a Hunaniaeth
Bydd yr ymgyrch hon yn cau 30ain o Fehefin 2026
Rhwng Tachwedd 2025 a Ionawr 2026, dywedodd 524 o bobl yng Ngheredigion wrthym beth mae diwylliant yn ei olygu iddyn nhw.
Yn dilyn yr ymgyrch gychwynnol hon, cytunodd Cynghorau Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys i weithio gyda'i gilydd ar Strategaeth Ddiwylliannol ranbarthol. Bydd yr ymatebion rydyn ni wedi'u casglu hyd yma yn bwydo i'r strategaeth ranbarthol.
Mae Golwg Creadigol yn ein helpu i greu ein gweledigaeth a rennir, ac mae angen eich help arnom eto.
Sesiynau galw heibio
Mae Golwg Creadigol yn cynnal cyfres o sesiynau galw heibio ar draws y rhanbarth i ddarganfod mwy am beth yw diwylliant i chi. Mae sesiynau Ceredigion yn digwydd yn:
Dyma poster gyda mwy o wybodaeth.

Dyma poster gyda mwy o wybodaeth.

Dyma poster gyda mwy o wybodaeth.

Dyma poster gyda mwy o wybodaeth.

Methu cyrraedd unrhyw un o'r sesiynau galw heibio?
Ymunwch â thrafodaeth ar-lein ar 10fe o Fehefin 2026.
- 7yh – sesiwn drafod yn Gymraeg
- 8yh – sesiwn drafod yn Saesneg
E-bostiwch Lowri Jones i gael dolen i ymuno â thrafodaeth ar-lein - lowri.jones@golwg.cymru.
Arolwg ar-lein
Os na chawsoch gyfle i ymateb i'n harolwg ar-lein cychwynnol am yr hyn y mae diwylliant yn ei olygu i chi, dyma eich ail gyfle.
Cliciwch yma i gwblhau'r arolwg ar-lein: Arolwg rhanbarthol.
Lawrlwythwch yr arolwg: Arolwg copi papur.
Gallwch hefyd gasglu copi papur o'ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu anfon e-bost atom: clic@ceredigion.gov.uk.
Dychwelwch eich arolwg wedi'i gwblhau i'ch llyfrgell neu ganolfan hamdden leol neu at Lowri Jones trwy e-bost: lowrijones@golwg.cymru.
Daeth yr ymgyrch ymgysylltu leol i ben ar 12fed Ionawr 2026.
Ymgynghoriad Gwreiddiol
Rydym eisiau deall sut mae pobl yn diffinio ac yn profi diwylliant yn eu bywydau pob dydd.
Rydym yn casglu barn trigolion Ceredigion am ystyr diwylliant, eich cysylltiad ag ef, a’r digwyddiadau diwylliannol rydych chi'n mynychu.
Gyda’ch mewnbwn, gallwn wella ein dealltwriaeth o agweddau pobl tuag at ddiwylliant, ac yna llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r bylchau a nodir, lle bo hynny’n bosibl.
Sut i gymryd rhan
Cwblhewch ein arolwg ar-lein - Diwylliant: Barn, Profiad a Hunaniaeth
Lawrlwythwch gopi papur - Holiadur Diwylliant: Barn, Profiad a Hunaniaeth (fersiwn MSWord)
Os ydych yn dymuno derbyn y wybodaeth mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk
Gallwch hefyd ofyn am gopi papur yn eich Llyfrgell neu Ganolfan Hamdden leol neu drwy ffonio 01545 570881 neu drwy anfon neges e-bost i clic@ceredigion.gov.uk.
Dychwelwch y copïau papur i'ch llyfrgell leol neu i Celfyddydau Diwylliant a'r Iaith Gymraeg, Neuadd Cyngor Ceredigion Penmorfa, Aberaeron, Ceredigion SA46 0PA.
Cliciwch yma i ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Ymgynghoriadau.
Os hoffech chi gael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig hwn, mae croeso i chi gysylltu ag Elin Williams at elin.williams2@ceredigion.gov.uk