Mae'r ymgynghoriad hwn bellach wedi cau.

Mae dyletswydd ar Gyngor Sir Ceredigion i adolygu ei ddosbarthiadau etholiadol a’i fannau pleidleisio ar gyfer etholaethau seneddol y DU o leiaf bob 5 mlynedd, a chynhaliwyd yr adolygiad diwethaf yn 2019/2020. Yn ogystal â’r adolygiadau gorfodol, gall awdurdodau lleol gynnal adolygiadau ychwanegol ar adegau eraill, gan ddibynnu ar amgylchiadau lleol. Nid yw’r adolygiadau lleol ychwanegol yn effeithio ar amserlen yr adolygiadau gorfodol.

Pan fo awdurdod lleol yn gwneud unrhyw newidiadau i’r dosbarthiadau etholiadol o fewn ei ardal, mae’n rhaid i’r Swyddog Cofrestru Etholiadol addasu’r gofrestr etholwyr yn unol â hynny – naill ai drwy hysbysiad addasu neu drwy gyhoeddi cofrestr ddiwygiedig. Fodd bynnag, ni fydd Cyngor Sir Ceredigion yn adolygu’r dosbarthiadau etholiadol y tro hwn oherwydd yr Adolygiad o Ffiniau Cynghorau Cymuned sy’n cael ei gynnal ar hyn o bryd.

Mae’n rhaid i’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) wneud sylwadau yn ystod unrhyw adolygiad o ddosbarthiadau etholiadol a mannau pleidleisio ar gyfer etholiadau Senedd y DU, a hynny ynglŷn â’r gorsafoedd pleidleisio presennol a’r rhai a fyddai’n cael eu defnyddio pe dderbynnir unrhyw un o’r cynigion newydd ar gyfer mannau pleidleisio.

Yn unol â’r rheolau ar gyfer etholiadau, mae’n rhaid i’r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) benderfynu faint o orsafoedd pleidleisio y mae eu hangen ar gyfer pob man pleidleisio ac mae’n rhaid iddo bennu etholwyr ar gyfer y gorsafoedd pleidleisio yn y modd sydd mwyaf cyfleus yn ei farn ef.

Er nad ydy’r ddeddfwriaeth yn darparu unrhyw rôl i’r Comisiwn Etholiadol yn y broses adolygu, bydd ganddo rôl i’w chwarae ar ôl i’r adolygiad ddod i ben.

Pan fydd Cyngor Sir Ceredigion wedi cyhoeddi canlyniadau ei adolygiad, gall partïon penodol sydd â diddordeb gyflwyno sylwadau i’r Comisiwn i ail-ystyried unrhyw ddosbarthiadau etholiadol neu fannau pleidleisio.

Am ragor o wybodaeth a chynigion cliciwch ar y dolenni isod.

Os ydych chi am dderbyn gwybodaeth am fannau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio penodol ar ffurf arall, cysylltwch â ni.

I wneud unrhyw sylwadau yn ysgrifenedig, cwblhewch y ffurflen ymgynghori a'i dychwelyd erbyn 10 Tachwedd 2023 naill ai drwy:

Cwblhau ein ffurflen ar-lein ar gyfer cyflwyno sylwadau ar gyfer cynigion – Ymgynghoriad Cyhoeddus ar Adolygu Ardaloedd Pleidleisio, Mannau Pleidleisio a Gorsafoedd Pleidleisio yn Ardal Cyngor Ceredigion 2023

Lawrlwythwch gopi papur

Lawrlwythwch gopi print bras

Lawrlwythwch gopi hawdd i ddarllen

Gallwch hefyd gofyn am gopi papur o’ch llyfrgell neu trwy alw 01545 573032 neu drwy e-bost i gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk.

Dychwelwch copïau bapur i’ch lyfrgell lleol neu postiwch i Gwasanaethau Etholiadol, Cyngor Sir Ceredigion, Canolfan Rheidol, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3UE.

Os ydych angen cysylltu â ni ffoniwch 01545 573032 neu anfonwch e-bost i gwasanaethauetholiadol@ceredigion.gov.uk.