Arolwg a anelwyd at fusnesau ar draws y rhanbarth er mwyn iddynt feddu ar well dealltwriaeth o'u hanghenion cyfredol a'u hanghenion i'r dyfodol.

Mae'r fenter hon yn rhan o Raglen Ddigidol Bargen Dwf Canolbarth Cymru, a luniwyd i wella'r isadeiledd digidol a chefnogi twf busnesau yn ein rhanbarth.

Nod yr arolwg yma fydd ymgysylltu â gymaint â phosib o fusnesau er mwyn cael dealltwriaeth bellach o'u hisadeiledd cyfredol, pa mor addas ydyw ar gyfer gwaith y busnes a gofynion i'r dyfodol.

Bydd y data caiff ei gasglu yn yr arolwg yma yn allweddol i gasglu gwybodaeth gwaelodlin a medru cymharu elfennau ar sail gwybodaeth priodol yn erbyn yr hyn a wneir yn y dyfodol. Drwy ddeall yn llawn yr heriau unigryw sy'n wynebu busnesau yn yr ardal a gofynion busnesau yn ein rhanbarth, gallwn arfarnu'n effeithiol effaith y prosiectau a weithredir gan y Rhaglen Ddigidol gan deilwra ein hymdrechion i wasanaethu'r gymuned yn y ffordd orau.

Credwn wrth sicrhau bod busnesau yn rhan weithredol o'r arolwg gallwn sicrhau fod ein cynlluniau digidol yn alinio'n agos ag anghenion y gymuned fusnes leol.  Mae eich cyfraniad yn hanfodol i gynlluniau digidol y dyfodol.

Anogir pob busnes i gymryd rhan. Mae eich mewnbwn yn bwysig i ni os ydych chi'n fusnes bach sydd newydd ddechrau neu'n sefydliad mawr. Gyda'n gilydd gallwn gefnogi'r gwaith o ddatblygu isadeiledd digidol mwy cadarn sy'n annog twf ac arloesi i bawb.

I gymryd rhan yn yr arolwg, cwblhewch y ffurflen Arolwg Cysylltedd Digidol Busnesau Canolbarth Cymru. Bydd yr arolwg yn parhau ar agor hyd 24 Mai 2024.