Ni allwn ymateb i gwynion am unrhyw ysgolion yn benodol, gan mai cyrff llywodraethol yr ysgolion sy’n gyfrifol am ymdrin â’r cwynion hynny. Os dymunwch chi wneud cwyn am ysgol benodol, holwch yr ysgol am gopi o’i gweithdrefn gwyno. Dylai fod copi ohoni yn yr ysgol, a bydd modd ei gweld ar wefan yr ysgol hefyd. Os na fedrwch chi ddod o hyd i gopi o’r weithdrefn, gofynnwch i’r ysgol am un.

Yn y lle cyntaf, dylech gyfeirio’ch cwyn at y Pennaeth, a fydd hefyd yn medru rhoi mwy o gyngor ichi am drefn gwyno’r ysgol. Mae’n rhaid bod polisi cwynion pob ysgol yn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru, (Gweithdrefnau Cwyno Cyrff Llywodraethu Ysgolion: Cylchlythyr 011/2012) ac yn dilyn tri cham:

Cam A

Os ydych chi’n pryderu am rywbeth, yn amlach na pheidio mae modd datrys y peth yn sydyn drwy siarad ag athro. Gallwch ddisgwyl ymateb ymhen deg diwrnod ysgol, ond os na fydd hynny’n bosib byddwn yn cysylltu â chi i drafod yr amserlen. Bydd y person sy’n monitro’ch cwyn yn rhoi gwybod ichi o ran y cynnydd.

Cam B

Os credwch nad yw’ch cwyn gwreiddiol wedi’i datrys, neu fod yr ysgol heb ymdrin â hi’n briodol, dylech wneud eich cwyn yn ysgrifenedig i’r Pennaeth. Os mai’r Pennaeth yw testun eich cwyn, dylech ysgrifennu’ch cwyn at sylw Cadeirydd y Llywodraethwyr a defnyddio cyfeiriad yr ysgol.

Cam C

Ni ddylid mynd ymlaen i Gam C ond mewn sefyllfaoedd eithriadol, gan y dylai fod modd datrys y rhan helaeth o gwynion yng Ngham B. Fodd bynnag, os ydych chi’n dal o’r farn na ddeliwyd yn deg â’ch cwyn, dylech ysgrifennu at Gadeirydd y Llywodraethwyr, gan ddefnyddio cyfeiriad yr ysgol, ac esbonio’ch rhesymau dros ofyn i Bwyllgor Cwynion y Corff Llywodraethol ystyried eich cwyn. Ni fydd raid ichi ysgrifennu holl fanylion eich cwyn eto.

Pwyllgor Cwynion y Corff Llywodraethol sy’n penderfynu’n derfynol ar bob cwyn.