Ymdrinnir â phob cwyn ynglŷn â Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.

Mae gennych bob hawl i gwestiynu unrhyw benderfyniad y mae’r Cyngor yn ei wneud, ac i roi gwybod inni os ydych chi’n anfodlon ar rywbeth. Rydyn ni’n anelu at safonau uchel iawn, ond o bryd i’w gilydd mae pethau’n mynd o’i le. Heb ichi ddweud wrthon ni, ni fyddwn yn gwybod eich bod yn anfodlon.

Os byddwch chi’n cysylltu â ni, fe fyddwn yn gweithio gyda chi i ddatrys y sefyllfa cyn gynted â phosib. Drwy gael gwybod eich bod chi’n fodlon neu’n anfodlon â’r gwasanaeth byddwn yn medru gwella’r ffordd yr ydym yn eich helpu chi a phobl eraill yn y dyfodol.

Ar y dudalen hon rydyn ni’n esbonio sut allwn ni ddatrys eich cwyn, gyda’ch cymorth chi a’r staff sy’n gweithio gyda chi.

Ni allwn ond ystyried cwynion a gaiff eu codi ymhen deuddeg mis ar ôl i’r mater ddod i’ch sylw, oni bai fod amgylchiadau arbennig yn berthnasol. Gan ddibynnu ar gynnwys eich cwyn, gellid ymdrin â hi drwy ryw broses arall, er enghraifft, os oes rhywun mewn perygl. Byddwn yn trafod gyda chi os penderfynir defnyddio rhyw drefn arall i ymchwilio i’ch cwyn.

Ni fyddwn yn medru ymchwilio i’ch cwyn:

  • Os byddai hynny’n peryglu ymchwiliad yr heddlu (hynny yw, ymchwiliadau diogelu plant neu oedolion)
  • Os yw Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cynnal ymchwiliad
  • Os oes unrhyw achosion cyfreithiol yn mynd rhagddynt neu yn yr arfaeth

Cael help i wneud eich cwy

Mae gennych hawl i ofyn i gynrychiolydd neu eiriolwr (rhywun a fydd yn eich helpu i fynegi’ch safbwyntiau) i’ch helpu gyda’ch cwyn. Os ydych chi’n iau na deunaw oed fe ddaw’r Cyngor o hyd i eiriolwr ar eich rhan.

Ceir dau gam i Weithdrefn Gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol, a gallwch gael mwy o wybodaeth yn ein llyfryn "A ydym yn llygad ein lle?".

Cam 1: Datrys yn Anffurfiol

Y cam cyntaf wrth geisio datrys unrhyw broblem yw cysylltu â rhywun sy’n rhan o ddarparu’r gwasanaeth, neu’r Swyddog Cwynion pe byddai’n well gennych chi hynny. Gelwir hyn yn ddatrysiad lleol. Gallwch gysylltu â ni ym mha bynnag ffordd y dymunwch – does dim rhaid ichi ysgrifennu dim byd i lawr.

Fe gewch chi gynnig cyfle i drafod y materion yr ydych wedi’u codi, naill ai dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, mewn ymdrech i ddatrys y sefyllfa. Mae’n rhaid gwneud hyn ymhen deg diwrnod gwaith ar ôl derbyn eich cwyn. Os na fyddwn ni’n medru trefnu hynny, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn a fydd modd cwrdd yn ddiweddarach.

Ar ôl y drafodaeth hon ac unrhyw ymchwiliadau eraill sy’n angenrheidiol, byddwn yn ysgrifennu atoch ymhen pum diwrnod gwaith pan fydd eich problem wedi’i datrys.

Os ydych chi’n cwyno am newid yn y gwasanaeth a ddarperir ichi, byddwn fel arfer yn ceisio delio â’r broblem cyn gwneud y newid hwnnw. Os na fydd modd inni aros cyn gwneud y newid, byddwn yn esbonio pam.

Cam 2: Ymchwiliad Ffurfiol

Gallwch ofyn i rywun llwyr annibynnol ar y Cyngor i ymchwilio i’ch cwyn. Dyma Gam 2, neu’r ymchwiliad ffurfiol.

Mae’n rhaid i’r Cyngor lunio cofnod ysgrifenedig ffurfiol o’r drafodaeth a’i anfon atoch ymhen pum diwrnod gwaith fel y gallwch gadarnhau ei fod yn gywir ac ychwanegu sylwadau. Byddwch hefyd yn cael manylion ynglŷn â’r modd yr ymchwilir i’ch cwyn, enw’r Swyddog Ymchwilio ac, os yw’n berthnasol, y Person Annibynnol.

Mae’n rhaid cwblhau’r Ymchwiliad Ffurfiol ac anfon ymateb ysgrifenedig cyflawn atoch ymhen 25 diwrnod gwaith ar ôl dyddiad dechrau’r ymchwiliad. Mewn amgylchiadau eithriadol mae’n bosib na fydd modd cyflawni hyn, a byddwn yn ysgrifennu atoch i esbonio’r amserlen.

Llanwch y ffurflen ar-lein isod i gofrestru’ch cwyn:

Lansio'r Cyfleusterau Archwilio

Os oes arnoch angen mwy o wybodaeth am y drefn gwyno, cysylltwch â:

Miss Marie-Neige Hadfield,
Rheolwr Cwynion a Rhyddid Gwybodaeth
Canolfan Rheidol
Aberystwyth
Ceredigion, SY23 3UE

Ffôn: 01545 574151
E-bost: cwynion@ceredigion.llyw.cymru

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Os nad ydych chi’n fodlon ar y modd yr ymdriniwyd â’ch cwyn, neu os credwch nad yw’r Cyngor wedi mynd i’r afael yn iawn â’r materion a godoch chi, gallech gyfeirio’r achos at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Byddai’r Ombwdsmon fel arfer yn disgwyl eich bod eisoes wedi cwyno i’r Cyngor cyn iddo ystyried eich achos; serch hynny, mae’n meddu ar y grym i dderbyn unrhyw gŵyn a’i hystyried ar unwaith os yw’n credu bod cyfiawnhad dros hynny.

Os ydych chi am wneud cwyn i’r Ombwdsmon, neu os ydych chi’n anfodlon ar y modd y mae’r Cyngor wedi ymdrin â’ch cwyn, ysgrifennwch at:

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
1 Ffordd yr Hen Gae
Pencoed
Pen-y-bont ar Ogwr CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203 (cyfradd galwadau lleol)
E-bost: holwch@ombwdsmon.cymru
Gwefan: www.ombwdsmon.cymru

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)

Gan fod eich cwyn yn ymwneud â gwasanaethau Gofal Cymdeithasol, gallwch hefyd wneud cwyn yn uniongyrchol i Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) sef y corff rheoleiddio ar gyfer yr holl wasanaethau gofal yng Nghymru. Gallwch gwyno am unrhyw wasanaethau gofal cymdeithasol a ddarperir mewn cartrefi gofal a gan asiantaethau, yn ogystal â’r gwasanaethau hynny y mae’r Cyngor yn eu darparu.

Ceir mwy o wybodaeth ynglŷn ag AGC yma.