Is-Grwp Tlodi
Mae'r Is-grŵp Tlodi yn cynnwys partneriaid perthnasol o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion, y Trydydd Sector, darparwyr Addysg Bellach ac Uwch a Chymdeithasau Tai.
Rydym yn gweithio gyda'n gilydd i leihau costau cartrefi a gwneud y mwyaf o incwm pobl sy'n profi caledi. Ein nod hefyd yw cynyddu dealltwriaeth o dlodi lleol a mynd i'r afael â stigma tlodi.
Ein dyletswyddau yw:
- Sicrhau bod ein dyletswydd i baratoi a chyhoeddi strategaeth sy'n cyfrannu at ddileu tlodi plant yng Nghymru yn cael ei chyflawni drwy Gynllun Llesiant Lleol y BGC.
- Sicrhau bod tlodi yn parhau i fod yn ffocws allweddol ar draws pob un o'r pedwar piler llesiant Cynllun Llesiant Lleol y BGC.
- Rhannu gwybodaeth sy'n gysylltiedig â thlodi am y cymorth sydd ar gael, ymchwil academaidd a phrofiad byw preswylwyr.
- Monitro cynnydd ymdrechion i fynd i'r afael â thlodi ac anghydraddoldebau yng Ngheredigion a chymryd camau angenrheidiol yn seiliedig ar y canfyddiadau.
- Cyflwyno'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Ceredigion.
Mae is-grŵp Tlodi'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei gydlynu gan ein tîm Cydraddoldeb a Chynhwysiant.