Mae Cyngor Sir Ceredigion eisiau sicrhau fod busnesau, cyflogwyr a chyflogai yng Ngheredigion yn cael mynediad at y cyngor a'r wybodaeth ddiweddaraf wrth baratoi ac ymateb i bandemig Coronafeirws.

Mae swyddogion y cyngor yn gweithio'n agos gyda gweision sifil yn y Llywodraeth i sicrhau bod gennym y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael, ac yn gwneud yr hyn a allwn i gefnogi.

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd gydag unrhyw wybodaeth ychwanegol a dderbyniwn. Marciwch y dudalen neu dilynwch ni ar Trydar am ddiweddariadau.

I gael y cyngor a'r arweiniad diweddaraf gan y Llywodraeth, dilynwch y dolenni hyn: 

Canllawiau Cyfredol ar Gyfer Busnesau

I geisio oedi ymlediad Coronafeirws, mae’r Llywodraeth wedi gorfodi rhai busnesau i gau, ac i eraill ystyried eu rôl mewn helpu arafu lledaeniad drwy gau neu newid eu ffordd o weithio. Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan y Llywodraeth.

Yn ychwanegol i’r gofynion sy'n weithredol ar draws Cymru a Lloegr, mae gofyn i fusnesau yng Nghymru y caniateir i aros ar agor i'r cyhoedd 'gymryd pob cam rhesymol i sicrhau fod pellter o ddau fetr yn cael ei gynnal rhwng unrhyw berson ar eiddo’r busnes.' Mae hyn yn cynnwys staff a chwsmeriaid. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ac adnoddau ar y tudalen Cadw pellter mewn siopau yn ôl y gyfraith.

Er mwyn cefnogi Gweithwyr Allweddol ar yr adeg hon mae Cyngor Sir Ceredigion yn darparu gofal plant brys i staff gwasanaethau rheng flaen. Dylid pwysleisio y dylai hwn fod yn ddewis olaf ar gyfer gofal plant. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar y tudalen Darpariaeth Gofal Plant ar gyfer Staff Gwasanaethau rheng flaen Ceredigion.

Mae nifer o linellau cymorth wedi eu sefydlu i helpu (noder bydd posib eu fod yn brysur):

  • Busnes Cymru – 03000 6 03000
  • HMRC – 0800 015 9599
  • Universal Credit – 0800 328 5644

Mae rhai wedi cyhoeddi mesurau fel gwyliau talu i helpu eu cwsmeriaid. Isod ceir llinellau cymorth cyffredinol neu rifau pwrpasol ar gyfer cymorth Coronafeirws:

  • Natwest - Siaradwch â'ch Rheolwr Perthynas neu cysylltwch ar 0345 711 4477
  • Barclays - Siaradwch â'ch Rheolwr Perthynas neu ffoniwch 0800 1971 086. Ar agor 8yb-8yh
  • Lloyds - Maent yn hyrwyddo hyd at £2 biliwn o gyllid heb ffioedd i fusnesau bach.  Siaradwch â'r Rheolwr Perthynas
  • HSBC - Llinell Gymorth 08000 121 614. Ar agor o 9-5 o ddydd Llun i ddydd Gwener
  • RBS - Siaradwch â'ch Rheolwr Perthynas neu Ffoniwch 0345 600 2230

Cefnogaeth ar Gael

Mae nifer o becynnau cymorth ar gael i gefnogi busnesau. Gellir dod o hyd i'r wybodaeth, cefnogaeth ac arweiniad diweddaraf ar wefan Busnes Cymru.

Cefnogaeth Bellach

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i weld pa gymorth ychwanegol fydd ar gael i fusnesau sydd ddim yn gymwys ar gyfer y gefnogaeth bresennol.

Os hoffech gysylltu â Chyngor Sir Ceredigion ynghylch y materion yma, e-bostiwch cynnalycardi@ceredigion.gov.uk.

 

Ffurflen Gais Ar-lein (Gwiriwch y wybodaeth isod)

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dau gynllun grant i helpu busnesau yng Nghymru drwy’r pandemig Coronafeirws. Mae’r grantiau yma ar gael i fusnesau sydd wedi cofrestru i dalu ardrethi busnes ar eu hadeiladau ar 20 Mawrth 2020 neu cyn hynny.

Grant 1: Mae grant o £25,000 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu adeiladau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000.

Mae hyn yn golygu busnesau sy'n meddiannu adeiladau fel siopau, bwytai, caffis, lleoedd yfed, sinemâu, lleoliadau cerddoriaeth fyw, gwestai, adeiladau lletya a llety hunanarlwyo.

Grant 2: Mae grant o £10,000 ar gael i BOB busnes sy'n gymwys am ryddhad ardrethi i fusnesau bach yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai (Mae hwn ar gael i bob sector ac nid yw'n gyfyngedig i fusnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch yn unig) AC mae grant o £10,000 ar gael i Sefydliadau dielw gweithredu at ddibenion elusennol (e.e. y rheini sy'n gymwys am ryddhad Elusennol a rhyddhad i Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol) sy’n gweithredu yn y sectorau adwerthu, hamdden a lletygarwch ac sy'n meddiannu eiddo â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai

Cofiwch fod y cyfyngiad ar adeiladau lluosog sy’n berthnasol i’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach hefyd yn gymwys i’r grant hwn. Felly, dim ond ar gyfer uchafswm o ddau eiddo ym mhob awdurdod lleol y caiff yr un trethdalwr dderbyn y grant.

Gweinyddir y grantiau hyn gan Gyngor Sir Ceredigion, byddwn yn eu prosesu cyn gynted â phosibl. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynghori ar gymorth ariannol pellach i'r busnesau hynny nad ydyn nhw wedi'u cynnwys yn y grantiau hyn.

Noder: Yn dilyn yr adborth ysgubol a dderbyniwyd gan fusnesau Ceredigion ynghylch dogfennaeth ddiweddaraf Cynllun Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Ceredigion wedi ymgynghori â Llywodraeth Cymru ar y meini prawf ychwanegol ar gyfer pob eiddo llety hunanarlwyo, er mwyn ceisio sicrhau nad yw busnesau dilys, sy'n cael eu heffeithio'n negyddol, o dan anfantais.  Gweler y Cwestiynau ac Ateb isod am wybodaeth bellach.

Mae’r Cyngor yn cydnabod fod hwn yn gyfnod anodd iawn, ac mae prosesu’r ceisiadau hyn yn derbyn blaenoriaeth uchel iawn. Pan fyddwch wedi cyflwyno cais byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau, ac rydym yn ddiolchgar am ein amynedd wrth i ni brosesu’r ceisiadau.

Gofynnwn yn garedig i chi beidio a chysylltu o ran dyddiadau talu gan na allwn roi sylw i geisiadau unigol, bydd y tîm yn cysylltu gyda chi os oes angen mwy o wybodaeth arnynt.

C. Am ba hyd y mae cynllun grantiau Busnes COVID19 ar agor?

A. Dylai ceisiadau gael eu gwneud ar neu chyn y 30 Mehefin 2020. 

C. A oes dyddiad masnachu y mae angen i mi fod yn ymwybodol ohono?

A. Rhaid bod eich busnes wedi ei gofrestru i dalu ardrethi busnes ac wedi bod ar y rhestr Ardrethu ar 20 Mawrth 2020. Nodwch fod meini prawf ychwanegol i’r cynllun ar gyfer eiddo sy'n cael ei ddefnyddio fel llety hunanarlwyo.

C. Busnes adwerthu, hamdden neu letygarwch ydw i.  Pa grant allaf i wneud cais amdano?

A. Mae grant o £25,000 ar gael ar gyfer busnesau adwerthu, hamdden a lletygarwch sy'n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000. Mae hyn yn golygu busnesau sy'n meddiannu eiddo megis siopau, bwytai, caffis, sefydliadau yfed, sinemâu, lleoliadau cerddoriaeth fyw, gwestai a safleoedd preswyl.

Mae grant o £10,000 ar gael i bob busnes sy'n gymwys am ryddhad ardrethi i fusnesau bach yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai a hefyd i Sefydliadau dielw gweithredu at ddibenion elusennol (yn cynnwys y rheini sy’n gymwys  i gael rhyddhad Elusennol neu ryddhad i Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol) sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai.   Mae hyn yn cynnwys siopau a reolir gan elusennau, safleoedd chwaraeon a chanolfannau cymunedol

C. Nid wyf wedi gorfod talu unrhyw ardrethi busnes yn ystod y blynyddoedd diwethaf oherwydd Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach – a allaf hawlio grant?

A. Mae grant £10,000 ar gael i busnes sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnes Bach yng Nghymru gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. (Mae hwn ar gael i bob sector ac nid yw'n gyfyngedig i'r busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn unig. Fodd bynnag, nodwch fod meini prawf Cynllun ychwanegol ar gyfer Eiddo a ddefnyddir ar gyfer Llety Hunanddarpar)

C. Defnyddir fy Eiddo fel Llety Hunanarlwyo sydd wedi'i gofrestru ar gyfer ardrethi busnes, a allaf i ddal wneud cais am y grant?

A. Efallai bod eich Eiddo fod yn gymwys, os yw'n bodloni’r meini prawf penodol sy'n berthnasol i Eiddo Hunanarlwyo'n unig. Mae Cynllun Grantiau Llywodraeth Cymru wedi’i ddiweddaru ac mae’n cynnwys y meini prawf canlynol:

  1. Rhaid i'r Llety Hunanarlwyo (a ddiffinnir fel Eiddo neu’n fwy nag un Eiddo sy'n dod o dan yr Asesiad Gwerth Ardrethol) fod wedi'i osod am gyfnod o 140 diwrnod neu fwy yn ystod y cyfnod rhwng 01/04/2019 a 31/03/2020 a
  2. Gall y busnes ddarparu 2 flynedd o’r cyfrifon masnachu am y blynyddoedd mwyaf diweddar (boed y rheini wedi’u hardystio ai peidio) ar gyfer y gweithgaredd busnes sy’n gysylltiedig â’r Llety Hunanarlwyo ac
  3. Mae'n rhaid mai'r Llety Hunanarlwyo yw prif ffynhonnell incwm Perchennog y Busnes (diffinnir ‘prif’ fel mwy na 50%).

Mae Cyngor Sir Ceredigion yn awr yn bwriadu gweithredu cynllun Llywodraeth Cymru ar lefel leol drwy wneud dim ond 2 o'r 3 maen prawf gwreiddiol angen eu bodloni.   Fodd bynnag, mewn achosion lle bodlonir 2 faen prawf yn unig, rhaid i ymgeiswyr hefyd ddarparu cadarnhad ac esboniad cryno bod COVID19 wedi cael effaith negyddol ar eu busnes ac y byddai grant yn eu helpu i barhau'n fusnes hyfyw.

Os ydych yn dymuno gwneud cais, defnyddiwch y ffurflen gais ar-lein. Os ydych  eisoes wedi gwneud cais drwy’r ffurflen ar-lein, dylech fod wedi derbyn e-bost  ynglŷn â’r meini prawf ychwanegol (gan gynnwys y newidiadau diweddar) a'r hyn fydd angen ei wneud.

C. Mae gen i Eiddo Hunan-Ddarpar ac mae angen i mi wneud datganiad ar fy lefelau incwm, sut mae diffinio hyn?

A. Incwm o Eiddo Llety Hunan-Ddarpar fyddai eich incwm net at ddibenion treth ar ôl treuliau fel y gellir eu datgan ar ffurflen dreth hunanasesu Cyllid a Thollau EM. Os oes gennych chi sawl cais am Eiddo Llety Hunan-Ddarpar sydd wedi eu rhestru ar wahân, yna gallwch gyfuno'ch Incwm o Eiddo Llety Hunan-Ddarpar wrth benderfynu a ydych chi'n cwrdd â'r trothwy o 50%.

C. Mae fy musnes dal yn medru gweithredu rhywfaint – ydwi dal yn medru hawlio grant?

A:Ydych, cyn belled rydych yn cwrdd a’r meini prawf – does dim gofyn penodol fod eich busnes wedi cau yn llawn, ond mae’r gefnogaeth wedi ei dargedu at fusnesau sydd wedi dioddef yn ariannol ac wedi cael eu effeithio yn wael. Ni ddylai fod unrhyw fusnes ar agor, oni bai eu bod yn gweithredu yn unol â chanllawiau a cyfarwyddyd y Llywodraeth.

C. Rwyf yn ddarparwr gofal plant ac yn cael Rhyddhad Busnes Bach – a fedraf dal roi cais i mewn?

A: Cewch – os oes ganddoch werth ardrethol o lai ‘na £100,000 ac yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnes Bach yna byddwch yn gymwys ar gyfer y grant £10,000. Mae’r meini prawf hyn ddim ond yn berthnasol i ddarparwyr gofal plant.

C. Oes angen ad-dalu’r grantiau?

A. Nac oes, nid benthyciadau yw'r rhain, ond grantiau. Dim ond os bydd taliad anghywir neu hawliad twyllodrus y bydd yn rhaid ad-dalu grant.

C. A oes angen imi boeni am Gymorth Gwladwriaethol?

A. Mae hwn yn gyfnod na welwyd mo’i debyg o’r blaen, felly mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cymeradwyo Fframwaith COVID19 Dros Dro i Awdurdodau'r DU sy’n caniatáu i fusnesau dderbyn Cymorth Gwladwriaethol mewn unrhyw ffurf hyd at uchafswm cymorth o €800,000. Bydd pob taliad grant busnes a wneir gan Gyngor Sir Ceredigion yn cael ei ystyried yn gymorth gwladwriaethol o dan y fframwaith hwn a bydd y Cyngor yn ysgrifennu at yr holl fusnesau sy’n derbyn grant i gadarnhau hyn. Ni ddylech wneud cais am grant os ydych yn pryderu y byddai eich busnes yn mynd y tu hwnt i'r terfyn Cymorth Gwladwriaethol hwn gan ei fod yn derbyn Cymorth Gwladwriaethol drwy ffynonellau eraill mewn perthynas â COVID19.

C. A fydd angen i mi ddarparu unrhyw gofnodion masnachu busnes yn y dyfodol?

A. Na - ar yr amod bod y wybodaeth ar eich cais yn gyflawn, ni ddylai fod angen unrhyw wybodaeth bellach gan Gyngor Sir Ceredigion mewn perthynas â'r grantiau penodol hyn oni bai eich bod yn fusnes Llety Hunan Ddarpar. Os ydych chi'n perthyn i'r categori hwn, mae Cyngor Sir Ceredigion yn cadw'r hawl i ofyn am dystiolaeth ddogfennol glir ar ffurf addas i gefnogi pob agwedd ar eich datganiadau Llety Hunanddarpar.

Q. Sefydliad dielw ydw i.  Ydw i'n dal yn gymwys?

A. Os ydych chi’n dod o dan y sector adwerthu, hamdden a lletygarwch ac yn meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol rhwng £12,001 a £51,000, yna byddwch yn gymwys am y grant £25,000, hyd yn oed os ydych yn cael rhyddhad ardrethi gorfodol a/neu ddewisol ar hyn o bryd.

Yn dilyn newid yng nghynllun grantiau Llywodraeth Cymru ar 265/05/20, os ydych yn dod o dan y sector adwerthu, hamdden a lletygarwch ac yn meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai, yna byddwch yn awr yn gymwys am y grant o £10,000 os ydych chi’n Sefydliad dielw gweithredu at ddibenion elusennol (yn cynnwys y rheini sy’n gymwys i gael rhyddhad Elusennol neu ryddhad i Glybiau Chwaraeon Amatur Cymunedol).  Fodd bynnag, mae'n rhaid i chi ddatgelu unrhyw gyllid COVID-19 yr ydych wedi gwneud cais amdano a/neu yr ydych wedi’i dderbyn gan Gronfa Cydnerthedd Economaidd Llywodraeth Cymru neu Cronfa Cymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru, a fydd yn effeithio ar lefel y cyllid y byddwch yn gymwys amdano.   Ni allwch gyflwyno cais am y grant yma os ydych wedi derbyn grant(iau) Covid-19 cyfwerth a £10k neu mwy eisoes gan o'r Cronfeydd hyn.

C. Rwyf wedi gwneud cais am grant, ond nid wyf wedi clywed unrhyw beth yn ôl, pryd fyddaf yn derbyn yr arian?

A. Byddwch yn derbyn neges awtomatig yn cydnabod eich cais unwaith y byddwch wedi ei gyflwyno. Mae staff yn gweithio’n galed tu hwnt i brosesu ceisiadau a rhoi’r arian grant i’r ymgeiswyr llwyddiannus. Mae hyn yn golygu bod ceisiadau sydd wedi’u cwblhau ac sy’n cynnwys datganiad banc diweddar sy’n dangos enw’r busnes yn ogystal â’r cod didoli a rhif y cyfrif banc yn fwy tebygol o gael eu prosesu’n gynt. Bydd ceisiadau nad ydynt wedi’u cwblhau yn cael eu rhoi o’r neilltu er mwyn ymdrin ag ymholiadau. Unwaith y bydd cais wedi’i gymeradwyo byddwch yn derbyn hysbysiad yn cadarnhau manylion eich taliad.

C. Mae gen i fusnes sydd â mwy nag un safle – sawl grant y gallaf wneud cais amdanynt?

A. Os oes gennych fwy nag un busnes sy’n gymwys ar gyfer Grant 1 neu Grant 2 bydd angen i chi gwblhau ffurflen gais ar-lein ar gyfer POB safle.

Grant 1: Bydd grant o £25,000 ar gael i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sy’n meddiannu eiddo sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £51,000. Nid oes unrhyw gyfyngiad o ran nifer y ceisiadau ar gyfer y grant hwn.

Grant 2: Grant o £10,000 i bob busnes sy’n gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Busnes Bach yng Nghymru gyda gwerth ardrethol o £12,000 neu lai. Mae’r cyfyngiad eiddo lluosog sy'n berthnasol i'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach hefyd yn berthnasol i'r grant hwn. Felly, dim ond ar gyfer uchafswm o ddau eiddo ym mhob ardal awdurdod lleol y caiff talwr ardrethi dderbyn y grant

Felly mae’n bosib (yn dibynnu ar nifer y safleoedd cymwys) i fusnes gael hyd at ddau grant gwerth £10,000 a mwy nag un grant gwerth £25,000.

C. Nid wyf yn perthyn i unrhyw gategori grant, pa gymorth arall sydd ar gael?

A. Mae’r dudalen ‘Cymorth i Fusnesau’ ar ein gwefan hefyd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch nifer o gynlluniau eraill Llywodraeth Cymru a chynlluniau sydd ar gael ar draws y DU, gan gynnwys:

  • Rhyddhad Ardrethi Busnes a benthyciadau i fusnesau
  • Y Cynllun Cadw Swyddi
  • Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig
  • Cymorth i Ffermwyr ac Amaethyddiaeth
  • Cronfeydd amrywiol sydd ar gael i sectorau penodol

Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig

Bydd Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig yn darparu grant i unigolion neu bartneriaethau hunangyflogedig, gwerth 80% o’u helw hyd at uchafswm o £ 2,500 y mis.

Bydd Cyllid a Thollau EM yn defnyddio'r elw cyfartalog o ffurflenni treth yn 2016-17, 2017-18 a 2018-19 i gyfrifo maint y grant. Bydd y cynllun yn agored i'r rheini lle daw mwyafrif eu hincwm o hunangyflogaeth ac sydd ag elw o lai na £ 50,000.

Mae'r Cynllun Cymorth Incwm Hunangyflogedig bellach ar agor ar gyfer ceisiadau. Mae mwy o fanylion a chyfarwyddiadau ar sut i wneud cais i'w gweld ar tudalen Claim a grant through the Self-Employment Income Support Scheme (Saesneg yn unig) y Llywodraeth.

Mae Cronfa Cadernid Economaidd o £500m wedi cael ei glustnodi ar gyfer cefnogi’r busnesau hynny yng Nghymru sydd ddim yn gymwys ar gyfer y gefnogaeth sydd eisoes ar gael. Mae’n cynnwys dau elfen:

Cynllun Benthyciadau Busnes Cofid-19 Cymru (£100m) 

(NODER: Mae'r gronfa hyn bellach wedi cau gan ei fod yn llawn. Rydym yn disgwyl mwy o wybodaeth pa gefnogaeth bellach fydd ar gael yn fuan).

Ar gael i gwmnïau sy'n profi problemau llif arian o ganlyniad i'r pandemig a bydd yn darparu benthyciadau rhwng £ 5,000 a £ 250,000 ar gyfraddau llog ffafriol.

Mae’r cynllun yn fyw nawr, gyda gwybodaeth bellach ar tudalen Cynllun Benthyciadau Busnes Cofid-19 Cymru wefan Banc Datblygu Cymru.

£400m o Gefnogaeth Grant

£100m ar gyfer busnesau meicro a £300m ar gyfer BBaChau a busnesau mawr

Gellir dod o hyd i ragor o fanylion a meini prawf cymhwysedd ar y wefan ganlynol. Dylid cyfeirio ymholiadau mewn perthynas â'r grant at Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Busnes Cymru - Cymorth Ariannol a Grantiau

Bydd y broses ymgeisio ar gyfer y Gronfa Gwydnwch Economaidd yn agor Ddydd Gwener 17 Ebrill trwy wefan Busnes Cymru. Rhagwelir y bydd galw mawr iawn am y grant hwn ac rydym yn annog pob busnes i gasglu'r holl wybodaeth ofynnol wrth baratoi ar gyfer pan fydd ceisiadau'n agor.

Ewch trwy Gwiriwr Cymhwysedd Busnes Cymru i gadarnhau eich bod yn gymwys i wneud cais, a chwrdd â'r holl feini prawf. Ar waelod y meini prawf cymhwysedd fe welwch y botymau i ddechrau'r broses ymgeisio.

Mae canllawiau a chymorth newydd yn cael eu cyhoeddi yng ngoleuni newidiadau diweddar i’r cyfyngiadau a’r gorchmynion i gau darpariaethau llety gwyliau, gan fanylu ar rai eithriadau penodol.

Mae’r cyfyngiadau sydd wedi dod i rym yn sgil y coronafeirws wedi ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sy'n darparu safleoedd a llety gwyliau yng Ngheredigion gau eu safleoedd, neu roi'r gorau i ddarparu eu gwasanaethau yn ystod yr argyfwng hwn, a hynny’n amodol ar rai eithriadau. Mae'r mathau hyn o lety gwyliau yn cynnwys safleoedd gwersylla, gwestai, llety gwely a brecwast, fflatiau gwyliau, hosteli a thai preswyl.

Mae eithriad i'r gofyniad i gau yn cynnwys pan nad oedd unigolyn, a oedd yn aros mewn llety o’r fath pan ddaeth y gofynion i rym, yn gallu dychwelyd i'w brif breswylfa, neu’n defnyddio'r llety dan sylw fel ei brif breswylfa ar y pryd. Dylai busnesau sicrhau bod yr eithriadau’n cael eu rhoi ar waith mewn modd priodol ac, os bydd amheuaeth, dylent ofyn am gyngor gan Dîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion. Nid yw'r eithriad penodol hwn yn berthnasol i safleoedd gwyliau a gwersylla.

Oddi ar 24 Mawrth 2020, mae’n ofynnol i bobl sy'n gyfrifol am safleoedd gwyliau a gwersylla wneud eu gorau glas i fynnu bod unrhyw unigolyn sy'n aros ar eu safle yn gadael. Bydd yr ymdrechion hynny’n cynnwys cymryd camau cadarnhaol i ofyn i bobl adael y safle. Os na fydd y busnes yn teimlo bod yna reswm credadwy a chymhellol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i bobl barhau ar y safle, yna dylai ofyn iddynt adael, neu ofyn am gyngor gan Dîm Diogelu'r Cyhoedd Cyngor Sir Ceredigion.

Efallai y bydd Cyngor Sir Ceredigion yn gofyn i fusnesau ddarparu llety i weithwyr allweddol, ac i ddibenion penodol eraill. Os gofynnir i fusnes ddarparu llety y tu hwnt i'r eithriadau uchod, yna mae’n rhaid iddo sicrhau ei fod yn cael tystysgrif eithrio gan Gyngor Sir Ceredigion yn manylu ar y diben y gall aros ar agor, ynghyd ag i ba raddau y gall wneud hynny. Gall busnesau wneud cais am dystysgrif eithrio trwy anfon cais dros e-bost at dîm Diogelu'r Cyhoedd: publicprotection@ceredigion.gov.uk, neu trwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Cwsmeriaid Clic Ceredigion ar 01545 570881.

Anogir unrhyw fusnes sy'n darparu llety i weithwyr allweddol ar hyn o bryd, ac nad yw'r Awdurdod wedi gofyn eto iddo aros ar agor i’r diben hwnnw, gysylltu â’r Tîm Diogelu'r Cyhoedd i gael cyngor pellach ar unwaith.

Er eglurder, oni bai bod Gweinidogion Cymru neu Awdurdod Lleol Ceredigion wedi gofyn yn benodol i fusnesau yng Ngheredigion aros ar agor, rhaid iddynt barhau AR GAU. Bydd unigolion a fydd yn gyfrifol am gynnal busnesau (gan gynnwys perchnogion a rheolwyr) yn destun camau gorfodi os na fyddant yn cydymffurfio â'r cyfyngiadau. Mae'r opsiynau posibl yn cynnwys erlyn, a allai arwain at ddirwyon diderfyn wrth gael eu heuogfarnu.

Mae'r gorchmynion cau yn berthnasol i fusnesau sy'n cynnig llety gwyliau yn unig, ac nid ydynt yn effeithio ar gartrefi a llety preifat.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar tudalen Callawiau i awdurdodau lleol ar lety gwyliau: coronafeirws y Lywodraeth Cymru.

Bydd busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd â gwerth trethadwy o £ 500,000 neu lai yn derbyn rhyddhad ardrethi busnes o 100% am y flwyddyn ariannol 2020/21.

Ardrethi Annomestig Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru 2020-21

Sut i wneud cais: Nid oes angen i chi wneud unrhyw beth i gael mynediad at hyn. Bydd swyddogion Cyngor Sir Ceredigion yn prosesu hyn yn awtomatig cyn gynted ag y gallant yn uniongyrchol gyda busnesau cymwys.

Cynllun Benthyciad Ymyrraeth Busnes

Mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi (Saesneg yn unig) Cynllun Benthyciad Ymyrraeth Busnes Coronafeirws dros dro i ddarparu cyllid i fusnesau Cymru yn ystod yr achosion o Covid-19 (cefnogi busnesau i gael mynediad at fenthyca banc a gorddrafftiau). Bydd y llywodraeth yn rhoi gwarant o 80% i fenthycwyr ar bob benthyciad (yn amodol ar gap fesul benthyciwr ar hawliadau) i roi hyder pellach i fenthycwyr barhau i ddarparu cyllid i fusnesau bach a chanolig.

Bydd y cynllun yn cefnogi benthyciadau o werth hyd at £1.2 miliwn. I ddechrau, bydd y warant newydd hon yn cefnogi hyd at £1 biliwn o fenthyca ar ben y gefnogaeth gyfredol a gynigir trwy Fanc Busnes Prydain.

Bydd ar gael i fusnesau yng Nghymru trwy'r banciau a bydd yn gweithredu yn yr un ffordd yn union â'r Warant Cyllid Menter gyfredol ond ar delerau mwy deniadol i fusnesau a benthycwyr.

Mae rhagor o wybodaeth nawr ar gael ar wefan Banc Busnes Prydeinig (Saesneg yn unig).

Banc Datblygu Cymru

Yn ychwanegol i’r Cynllun Benthyciadau Busnes Covid-19 Cymru gwerth £100m uchod, mae gan Banc Datblygu Cymru arian benthyciad ac ecwiti ar gael ar unwaith i fusnesau Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda Banc Datblygu Cymru i ystyried cefnogaeth ychwanegol i helpu busnesau trwy'r effaith Covid-19.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Banc Datblygu Cymru neu ffoniwch 0800 587 4140.

Gohirio taliadau Treth ar Werth (TAW) a Treth Incwm

Bydd taliadau Treth ar Werth (TAW) yn cael eu gohirio am 3 mis. Os ydych chi'n hunangyflogedig, bydd taliadau Treth Incwm sy'n ddyledus ym mis Gorffennaf 2020 o dan y system Hunanasesu yn cael eu gohirio tan Ionawr 2021.

Bydd y gohirio yn berthnasol o 20 Mawrth tan ddiwedd mis Mehefin. Mae hwn yn gynnig awtomatig heb unrhyw geisiadau yn ofynnol. Ni fydd angen i fusnesau wneud taliad TAW yn ystod y cyfnod hwn. Rhoddir trethdalwyr tan ddiwedd y flwyddyn dreth 2020-21 i dalu unrhyw rwymedigaethau sydd wedi cronni yn ystod y cyfnod gohirio. Bydd y llywodraeth yn talu ad-daliadau ac ad-daliadau TAW fel arfer.

Bydd taliadau Treth Incwm sy'n ddyledus ym mis Gorffennaf 2020 o dan y system Hunanasesu yn cael eu gohirio tan Ionawr 2021.

Bydd taliadau Hunanasesiad Treth Incwm sy'n ddyledus ar 31 Gorffennaf 2020 yn cael eu gohirio tan 31 Ionawr 2021. Cynnig awtomatig yw hwn heb fod angen unrhyw geisiadau. Ni chodir unrhyw gosbau na llog am dalu'n hwyr yn y cyfnod gohirio.

CThEM (HMRC) Amser i Dalu

Mae Cyllid a Thollau ei Mawrhydi (HMRC) hefyd wedi cynyddu eu cynnig Amser i Dalu (Saesneg yn unig) i bob cwmni ac unigolyn sydd mewn trallod ariannol dros dro o ganlyniad i Covid-19 ac sydd â rhwymedigaethau treth heb eu talu. Gallwch gysylltu â llinell gymorth benodol Covid-19 Cyllid a Thollau EM i gael cymorth a chyngor ymarferol. Gellir cyrraedd hyn trwy ffonio 0800 0159 559

Tâl Salwch Statudol (SSP)

Bydd Llywodraeth y DU yn caniatáu i bob busnes a chyflogwr bach a chanolig y DU hawlio Tâl Salwch Statudol (SSP) a dalwyd am absenoldeb salwch oherwydd COVID-19. Bydd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun fel a ganlyn:

  • bydd yr ad-daliad hwn yn cynnwys hyd at 2 wythnos ’SSP i bob gweithiwr cymwys sydd wedi bod i ffwrdd o’r gwaith oherwydd COVID-19.
  • bydd cyflogwyr â llai na 250 o weithwyr yn gymwys - bydd maint cyflogwr yn cael ei bennu yn ôl nifer y bobl yr oeddent wedi'u cyflogi ar 28 Chwefror 2020.
  • bydd cyflogwyr yn gallu adennill gwariant ar gyfer unrhyw weithiwr sydd wedi hawlio SSP (yn unol â'r meini prawf cymhwysedd newydd) o ganlyniad i COVID-19.
  • dylai cyflogwyr gadw cofnodion o absenoldebau staff a thaliadau SSP, ond ni fydd angen i weithwyr ddarparu nodyn ffitrwydd meddyg teulu. Os oes angen tystiolaeth gan gyflogwr, gall y rhai sydd â symptomau Coronafeirws gael nodyn ynysu gan GIG 111 ar-lein a gall y rhai sy'n byw gyda rhywun sydd â symptomau gael nodyn o wefan y GIG.
  • bydd cyfnod cymwys y cynllun yn cychwyn y diwrnod ar ôl i'r rheoliadau ar estyn SSP i'r rhai sy'n aros gartref ddod i rym.
  • bydd y llywodraeth yn gweithio gyda chyflogwyr dros y misoedd nesaf i sefydlu'r mecanwaith ad-dalu ar gyfer cyflogwyr cyn gynted â phosibl.

Mae cynllun ad-daliad yn cael ei ddatblygu. Darperir manylion pellach maes o law unwaith y bydd y cyfreithloni wedi mynd heibio.

Cronfa Leddfu Menter Prince’s Trust a Natwest

Bydd y Gronfa Leddfu Menter £5m yn cynnig grantiau i bobl oed 18-30 ar draws y DU sydd yn hunan-gyflogedig a/neu rhedeg eu busnesau eu hunain. Mewn cyfuniad a’r grantiau ariannol, bydd y gefnogaeth yn cynnig cymorth un i un i unrhywun sydd ei angen ac efallai yn poeni am eu dyfodol.

Gellir cael rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio ar wefan Prince's Trust (Saesneg yn unig).

Ar gyfer busnesau yn y sector bwyd a diod, mae cymorth penodol ar gael:

Arloesi Bwyd Cymru

I gydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector o ganlyniad i Coronafeirws ac yn ystod yr hyn sydd fel arfer yn amser prysur, mae'r Gweinidog wedi cadarnhau y bydd gan ffermwyr fis ychwanegol i gyflwyno eu Ffurflen Gais Sengl (SAF), gyda'r dyddiad cau bellach wedi'i ymestyn i 15 Mehefin 2020.

Dylech hysbysu Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid RPW (0300 062 5004) ar unwaith os na allwch gael mynediad at fand eang neu gyfrifiadur priodol i gyflwyno'r SAF ar-lein erbyn y dyddiad cau.

Ceir rhagor o fanylion ar tudalen Mesurau brys yn cael eu cyhoeddi i gefnogi ffermwyr yn ystod yr argyfwng COVID-19 y Llywodraeth Cymru.

Cymorth newydd gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru fel grant i dargedu busnesau pysgota sy’n berchen ar longau, i sicrhau eu bod yn gallu talu costau yn ystod yr adeg anodd hon.Bydd y grant newydd hwn yn helpu i dalu’r costau penodol sy’n gysylltiedig â bod yn berchen ar long pysgota a bydd yn seiliedig ar faint y llong.

Cyfrifwyd y grant ar sail maint llong, gyda mwyafswm o £10,000 i sicrhau synergedd gyda’r Gronfa Cadernid Economaidd. Bydd pob busnes bwyd môr gweithredol sydd â llongau trwyddedig yng Nghymru ac sy’n cofnodi gwerthiannau o £10,000 neu fwy yn 2019 yn gallu manteisio ar y grant, a bydd budd-daliad sengl yn cael ei ddarparu i bob pysgotwr cymwys.

Mae mwy o wybodaeth ar y Grant Pysgodfeydd yn y canllaw ar wefan Llywodareth Cymru.

Dyddiad cau am geisiadau yw 31 Mai 2020. Os oes gennych unrhyw ymholiadau gallwch gysylltu â’r tîm trwy e-bost: MarineEvidanceandTech@llyw.cymru

Cronfa Ddycnwch Celfyddydau

Gan weithio gyda Chyngor y Celfyddydau, bydd y gronfa hon yn cefnogi artistiaid a sefydliadau celfyddydol sydd fwyaf anghenus ac yn lleiaf tebygol o elwa o raglenni cymorth eraill. Bydd cyhoeddiadau pellach yn cael eu gwneud ynghylch sut y bydd y gronfa yn cael ei ddosbarthu.

Ceir rhagor o fanylion ar wefan Cyngor Celfyddydau Cymru.

Cronfa Gwydnwch Chwaraeon

Defnyddir hwn i gefnogi clybiau chwaraeon a rhwydweithiau partner sy'n chwarae rhan mor hanfodol wrth sicrhau bod y genedl yn gallu parhau i fod yn egnïol a mwynhau'r holl fuddion iechyd a lles a ddaw yn sgil chwaraeon. Chwaraeon Cymru fydd yn arwain y gronfa.

Ceir rhagor o fanylion ar wefan Chwaraeon Cymru.

Cronfa Cymru Greadigol

Bydd y gronfa hon yn darparu cefnogaeth i leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad ymateb i bwysau ar unwaith (hyd at £ 25K y busnes), a chefnogaeth ychwanegol i'r sector teledu a chyhoeddi er mwyn caniatáu iddi ystyried cyfleoedd yn y dyfodol.

Ceir rhagor o fanylion ar wefan Dyma Gymru.

Cronfa Ddiwylliannol Gydnerth

Bydd y gronfa'n cynorthwyo amgueddfeydd, casgliadau, gwasanaethau cadwraeth, archifau a chymunedol a llyfrgelloedd cyhoeddus i ymateb i bwysau tymor byr a chamau gweithredu adfer ar sail cais am grant.

Ceir rhagor o fanylion ar wefan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru.

Cronfa Adnoddau Llyfrgell Ddigidol

Bydd yr arian yn galluogi llyfrgelloedd cyhoeddus i ddarparu adnoddau digidol ychwanegol i'r cyhoedd ac yn rhoi adnoddau pobl i ddarllen ac ymgysylltu â tra hunan-ynysu.

Ceir rhagor o fanylion ar wefan Ffederasiwn Amgueddfeydd Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dwy ffrwd ariannu newydd sydd ar gael i elusennau, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar sut i ymgeisio ar tudalen Covid-19: dwy gronfa newydd yn cael eu cyhoeddi i gefnogi mudiadau gwirfoddol wefan CgGC.

C: Beth am unrhyw gyngor neu gefnogaeth ymarferol ar beth ddylen i wneud?

A: Mae’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhagofalon a pharatoadau y dylech eu gwneud ar tudalen Canllawiau ar COVID-19 i gyflogwyr a busnesau Llywodraeth Cymru.

C: Beth am gostau Tâl Salwch?

A: Mae'r Llywodraeth yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael, mae mwy o wybodaeth ar tudalen Cefnogaeth ariannol i fusnesau yn ystod coronafeirws (COVID-19) (Saesneg yn unig) nhw.

C: Beth am ofal plant i fy staff?

A: Mae'r Llywodraeth wedi cyhoeddi rhestr o weithwyr allweddol sy'n gymwys i gael cymorth ychwanegol ar tudalen Gweithwyr beirniadol sy'n gallu cyrchu ysgolion neu leoliadau addysgol (Saesneg yn unig) nhw. Mae’r wybodaeth lleol ar gyfer Ceredigion ar gael ar tudalen Darpariaeth Gofal Plant ar gyfer Staff Gwasanaethau rheng flaen Ceredigion.

C: Beth am yr hunan-gyflogedig?

A: Mae disgwyl i Lywodraeth y DU wneud cyhoeddiadau pellach yn fuan.

C: Beth am y Sector Wirfoddol?

A: Gwybodaeth a chefnogaeth drwy benthyciadau ar frys ar gael ar wefan CgGC.

C: Beth os na fedraf gyflwyno fy nghyfrifon mewn amser gyda Companies House?

A: Mae erthygl i gefnogi ar gael ar tudalen Coronafeirws: os nad ydy eich cwmni’n gallu ffeilio cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau ar amser ar wefan Busnes Cymru.

C: Oes cyngor ac arweiniad i gyflogai (mynd i’r gwaith, tal salwch, rhent, colli swydd neu’r hunan-gyflogedig)?

A: Oes, ar tudalen Canllawiau a chefnogaeth i weithwyr yn ystod coronafirws (COVID-19) (Saesneg yn unig) wefan y Llywodraeth.

C: Pa fusnesau sydd yn gorfod cau?

A: Mae rhestr ar gael o tudalen Cau rhai busnesau a lleoliadau (Saesneg yn unig) wefan y Llywodraeth.