Mae ein cyfnod addasu (y trydydd cyfnod) yn cynnwys cynllunio tymor canolig a hirdymor, sy'n dangos gweledigaeth glir y gall pob un person, busnes a gwasanaeth ei deall a chytuno arni, er mwyn sicrhau ein bod yn delio â COVID-19 mewn modd rheoledig a strwythuredig.

Mae wedi ehangu ar yr arferion gwaith rhagorol a welwyd yn y ddau gyfnod blaenorol, sef:

  • Cyfnod 1 - Bod yn barod – Cau pob gwasanaeth nad yw’n wasanaeth hanfodol
  • Cyfnod 2 - Gweithredu – Darparu gwasanaethau dan amodau’r cyfyngiadau symud

Mae’r trydydd cyfnod yn pennu strategaethau tymor canolig a hirdymor sy’n nodi arferion gwaith newydd gan sicrhau y cydymffurfir â gweledigaeth a gwerthoedd craidd y Cyngor; dylai unrhyw newidiadau fod yn unol â pholisïau a fframweithiau’r Cyngor sy’n parhau i fod ar waith er mwyn bodloni dyletswyddau statudol.

Y tair elfen yw:

Cyfyngu + Ynysu + Dileu

Ceredigion (achosion o’r pandemig COVID-19) Cyfnod 3: Addasu a chydnerthedd hirdymor

Llywodraeth Cymru: Llacio’r cyfyngiadau ar ein cymdeithas a’n heconomi: dal i drafod

Cam 3 – Cynllun y ffordd ymlaen i Geredigion

Mae'r Cyngor wedi llunio Cynllun y Ffordd Ymlaen i Geredigion sy'n rhoi trosolwg o'r gwasanaethau a ddarperir yn wyneb newidiadau i'r canllawiau cyfredol a nifer yr achosion o'r coronafeirws yn y sir.

Mae'r Cynllun yn cael ei adolygu'n rheolaidd a gellir dod o hyd iddo yma: 

Cynllun y Ffordd Ymlaen i Geredigion.