Mae ysgolion hybu iechyd yn datblygu ledled Ewrop.

Sefydlwyd y Rhwydwaith Ewropeaidd o Ysgolion Hybu Iechyd (RhEYHI) yn ffurfiol ym 1992 yn rhan o gydweithrediad rhwng Cyfundrefn Iechyd y Byd (CIB), y Comisiwn Ewropeaidd (CE) a Chyngor Ewrop (CE). Fe'i sefydlwyd i gychwyn gr?p o ysgolion model ym mhob gwlad a fyddai'n dangos effaith hybu iechyd ar amgylchfyd yr ysgol ac wedyn yn lledaenu eu profiad.

Yn sgil bod Cymru'n cymryd rhan yn RhEYHI, tynnodd Gwell Iechyd Gwell Cymru (1998) sylw at yr angen i ddatblygu Rhwydwaith Cymreig o Ysgolion Iach.

Mireiniwyd hyn yn rhwydwaith o gynlluniau lleol, Cynlluniau Ysgolion Iach - Rhwydwaith Cymru (CYIRhC), a'i restru'n un o'r gweithrediadau yn Hybu Iechyd a Lles: Gweithredu'r Strategaeth Hybu Iechyd Genedlaethol (2001).

Mae Cynllun Ysgolion Iach Ceredigion ar waith er Rhagfyr 2000. Mae ysgolion wedi cael eu recriwtio fesul cam, ac 83% o aelodau'n cymryd rhan ar hyn o bryd. Bwriedir cynnig y cyfle i bob ysgol ymuno â'r cynllun erbyn 2010. Rheolir y cynllun gan dîm iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Lleol Ceredigion, cynhelir cysylltiadau agos ag addysg drwy'r cydgysylltydd a staff ymgynghorol sy'n eistedd ar grwp llywio'r cynllun. Partneriaeth amlasiantaethol yw'r grwp llywio, â chynrychiolaeth gan amrywiaeth o gyrff a chanddynt ddiddordeb mewn iechyd a lles. Mae'r grwp yn bod er mwyn cynghori a chefnogi'r cydgysylltwyr wrth weithredu'r cynllun ar lefel leol.

Diffiniwyd ysgol sy'n hybu iechyd gan CYIRhC fel un sy'n gwneud ati i hybu ac amddiffyn lles corfforol, meddyliol a chymdeithasol ei chymuned drwy weithrediad cadarnhaol a moddion megis polisi, cynllunio strategol a datblygiad staff o ran ei chwricwlwm, ei hethos, ei hamgylchedd ffisegol a'i pherthnasau â'r gymuned.

Ond efallai y bydd rhai o'r diffiniadau canlynol yn eich helpu i ddeall y cysyniad hefyd.

Mae ysgol hybu iechyd...

  • yn ysgol hapus

Mae ysgol hybu iechyd...

  • yn gymuned ofalgar a chanddi ots am iechyd ei holl aelodau, yn ddisgyblion, yn athrawon, yn staff nad ydynt yn dysgu a phawb sy'n ymwneud â hi

Mae ysgol hybu iechyd...

  • yn annog plant i gydnabod beth y maen nhw'n neud yn cyfri - yr ydym gyd yn effeithio bywydau eraill

Mae ysgol hybu iechyd...

  • yn cydnabod nad rhywbeth a ddysgir yn yr ystafell ddosbarth yn unig yw addysg iechyd, ond rhywbeth a gefnogir ac a atgyfnerthir ym mywyd beunyddiol yr ysgol a'r gymuned leol

Mae ysgol hybu iechyd...

  • yn darparu'r holl wybodaeth sydd ar ddisgyblion ei hangen ynghylch maeth, ymarfer corff, perthnasau, rhyw, ysmygu, cyffuriau ac alcohol ac yn eu hannog i gymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd eu hunain

Mae Cynllun Ysgolion Iach Ceredigion wedi mabwysiadu deuddeg nod, fel ag a nodwyd gan CYIRhC.

  1. Gwneud ati i hybu hunan-barch pob aelod o gymuned yr ysgol
  2. Gwneud ati i ddatblygu perthnasau da ym mywyd beunyddiol yr ysgol
  3. Diffinio, datblygu a chyfathrebu ethos cadarnhaol a agwerthoedd cymdeithasol priodol o fewn cymuned yr ysgol
  4. Sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn cael y cyfle i fanteisio ar heriadau addysgol cyffrous
  5. Achub pob cyfle i wella amgylchfyd yr ysgol
  6. Datblygu cysylltiadau da a gweithgareddau ar y cyd rhwng yr ysgol, y cartref a'r gymuned
  7. Annog yr holl staff i gyflawni eu swyddogaeth o hybu iechyd, drwy ddatblygiad a hyfforddiant staff
  8. Datblygu cwricwlwm addysg iechyd cydlynol a'i roi ar waith
  9. Sefydlu perthnasau da gydag ysgolion cysylltiedig i sicrhau trosglwyddiad llyfn, yn gymdeithasol a hefyd mewn perthynas â rhaglen addysg iechyd ddatblygiadol
  10. Datblygu'r ysgol yn weithle hybu iechyd ag ymroddiad i iechyd a lles y staff i gyd
  11. Datblygu swyddogaeth gyflenwol holl bolisïau'r ysgol mewn perthynas â'r cwricwlwm addysg iechyd, fel y bo'r cwricwlwm yn adlewyrchu cynnwys y polisi a'r polisi'n atgyfnerthu'r cwricwlwm
  12. Datblygu partneriaethau ag asiantaethau ac unigolion priodol, gan gynnwys gwasanaeth iechyd yr ysgol, er mwyn cael cyngor a chefnogaeth weithredol i addsyg iechyd a hybu iechyd yn yr ysgol