Skip to main content

Ceredigion County Council website

Ceredigion county council logo

Derbyniadau Ysgol

Dyddiadau Terfynol ar gyfer Derbyniadau

Gellir cael gwybodaeth gyffredinol am Ysgolion Ceredigion yn y ddarllen y Llawlyfr Gwybodaeth i Rieni. Argymhellir eich bod yn darllen hwn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynglŷn â llefydd mewn ysgolion. Atgoffir chi hefyd y bydd Ceredigion ond yn darparu cludiant yn rhad ac am ddim i blant o oedran ysgol statudol ar y sail ganlynol:

  • Disgyblion Oedran Cynradd ( o 5 oed) - 2 filltir neu fwy o'r Ysgol fwyaf addas agosaf
  • Disgyblion Oedran Uwchradd - 3 milltir neu fwy o'r Ysgol fwyaf addas agosaf

Gellir gweld manylion llawn ar dudalennau Cludiant i'r Ysgol / Coleg.

Derbyniadau 2026/2027
Math o Ddarpariaeth Dyddiad Cau Danfon Penderfyniad
Meithrin 15fed Ionawr 2026 16eg Ebrill 2026
Cynradd/Derbyn 15fed Ionawr 2026 16eg Ebrill 2026
Uwchradd 31ain Hydref 2025 2il Mawrth 2026

Cais am le Mewn Ysgol

Yng Ngheredigion gall plentyn wneud cais am ysgol gynradd ar ddechrau'r tymor yn dilyn ei 4ydd pen-blwydd. Fodd bynnag, gall rhieni ohirio'r derbyn nes bydd eu plentyn o oedran Ysgol gorfodol (hy eu 5ed pen-blwydd) OND bydd rhieni'n dal i orfod gwneud cais am le yn yr Ysgol ar yr un adeg â cheisiadau na ohiriwyd. Os ydych yn ansicr cysylltwch â'r Swyddog Derbyniadau.

Os oes dosbarth meithrin ar gael yn yr ysgol, gall plant ymuno â'r ysgol ar ddechrau'r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn 3 oed, ar sail ran amser.

Bydd plant yn dechrau eu haddysg uwchradd yn y mis Medi ar ôl eu pen-blwydd yn 11 oed.

Derbyn i Ysgol Gynradd / Sector Gynradd Ysgol 3-16 a 3-19

Math o Ddarpariaeth Oedran Ddyddiad y mae'n rhaid cyrraedd yr oed priodol Tymor ar gyfer derbyn
Meithrin 3 31ain Rhagfyr 2026
31ain Mawrth 2027
31ain Awst 2027
Gwanwyn 2027
Haf 2027
Hydref 2027
Cynradd/Derbyn 4 31ain Rhagfyr 2026
31ain Mawrth 2027
31ain Awst 2027
Gwanwyn 2027
Haf 2027
Hydref 2027

Ymuno ag Ysgol Uwchradd / Sector Uwchradd Ysgol 3-16 a 3-19

Math o Ddarpariaeth Oed Ddyddiad y mae'n rhaid cyrraedd yr oed priodol Dyddiad Cau Danfon Penderfyniad Tymor ar gyfer Dderbyn
Uwchradd 11 31ain Awst 2026 31ain Hydref 2025 2il Mawrth 2026 Medi 2026

Bydd angen cyflwyno’r ceisiadau erbyn y dyddiadau a nodir uchod, neu bydd eich cais yn cael ei drin fel cais hwyr a rhoddir blaenoriaeth i’r rhai hynny a gyrhaeddodd mewn pryd.

Trosglwyddo i Ysgol Arall

Os ydych am drosglwyddo eich plentyn i ysgol arall neu os ydych wedi symud, yna gellir cwblhau cais heb ystyried y dyddiadau uchod.

Noder: Bydd yn rhaid i Rieni wneud cais am le ym mha bynnag ysgol(ion) yr hoffent eu plentyn fynd iddi. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol. Fodd bynnag, dim ond oedolyn sydd â chyfrifoldeb rhiant ar gyfer y disgybl dan sylw ac sydd â chytundeb pob person arall sydd â chyfrifoldeb rhiant all wneud hynny.

Gellir gwneud cais ar-lein:

Cais am le Mewn Ysgol