Cered yw’r enw ar Fenter Iaith Ceredigion ac fel rhan o Adran Ysgolion a Diwylliant Cyngor Sir Ceredigion rydym yn darparu gweithgareddau, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad er mwyn cynnal a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol hyfyw yng Ngheredigion.

Ers ein sefydlu yn 1999, mae swyddogion Cered wedi llwyddo i ddatblygu ystod eang iawn o brosiectau, digwyddiadau a gweithgareddau sydd wedi ceisio hybu a hyrwyddo’r Gymraeg fel iaith fyw yng Ngheredigion.

Tra fod mwyafrif Mentrau Iaith Cymru yn Fentrau Iaith annibynnol, mae Cered yn un o dair Menter Iaith sydd yn cael ei redeg gan awdurdod lleol. Golyga hyn fod staff Cered yn rhan ganolog o waith cynllunio ieithyddol Cyngor Sir Ceredigion gan gydweithio’n agos gyda swyddogion ar draws yr awdurdod.

Gwefan Cered: www.cered.cymru