28,188 acres (11,407 hectar) o dir comin yng Ngheredigion.

Tir comin

Fel arfer nid yw tir comin wedi'i drin gymaint â'r tir amaethyddol o'i amgylch ac mae'n creu adnodd pwysig ar gyfer cadwraeth natur, hamdden ac amaeth.

Nodweddion tir comin yw'r mathau canlynol o gynefinoedd:

  • Glaswelltir asidaidd sych heb ei wella
  • Glaswelltir asidaidd sydd wedi'i wella'n rhannol
  • Glaswelltir corsiog asidaidd
  • Rhedyn
  • Gorgors
  • Gweundir
  • Glaswelltir wedi'i wella

Hawliau Tir Comin

Mae Tir Comin fel rheol yn dir sydd mewn perchnogaeth breifat ac sydd â hawliau tir comin arno sy'n deillio o'r system deiliadaeth tir maenorol, cyn cyfnod Senedd y Deyrnas Gyfunol. Diffinnir hawl tir comin fel hawl rhywun i ddefnyddio cynnyrch tir rhywun arall ar y cyd â pherchennog y pridd. Cyfeirir at y rhai sydd â hawl yn aml fel Cominwyr neu Borwyr.

Mae hawliau tir comin fel rheol yn cynnwys:

  • Pori defaid, gwartheg a/neu geffylau (porfa)
  • Torri a/neu reoli rhedyn (hawl casglu cynnyd)
  • Casglu coed (hawl casglu cynnyd)
  • Mawn/tywyrch (hawl torri mawn)
  • Pysgod (hawl pysgota)
  • Moch (mesobrau)

Caiff trafod rheolaeth amaethyddol tir comin o ddydd i ddydd ei drafod, fel rheol, gan Gymdeithas Cominwyr neu Borwyr, lle bydd un yn bodoli.

Mynediad Cyhoeddus i Dir Comin Cofrestredig

Yng Ngheredigion ceir 120 uned gofrestredig o Dir Comin sy'n eiddo i amryw berchnogion gan gynnwys Ystâd y Goron, Perchnogion Tir Preifat a Chynghorau Tref a Chymuned, yn ogystal â 39 comin nas gwyddys pwy sy'n berchen arnynt. Mewn achosion felly, diogelir y comin dan Adran 9 Deddf Tir Comin 1965. Mae'r adran honno o'r Ddeddf yn pennu y dylai unrhyw Awdurdod Lleol sydd â chomin yn ei ardal nad oes neb yn berchen arno gymryd camau i atal ymyrraeth anghyfreithlon, fel y gallai unrhyw berchennog o'r tir ei wneud.

Ym mis Mai 2005, estynnodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 hawl mynediad cyhoeddus ar droed i'r holl dir comin sydd wedi'i gofrestru. Am y wybodaeth ddiweddaraf a mapiau'n nodi lle gallwch fynd a beth y gallwch ei wneud ar dir mynediad, yn cynnwys manylion unrhyw gyfyngiadau lleol neu dir sydd wedi'i gau, ewch i'r tudalennau mynediad ar wefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru.

Mae Lawnt Tref neu Bentref fel arfer yn ddarn o dir o fewn anheddiad a ddiffiniwyd, a ddefnyddir gan y trigolion lleol ar gyfer chwaraeon a hamdden cyfreithlon.

Gall y gweithgareddau hyn gynnwys gemau anffurfiol neu rai wedi'u trefnu, picnics a ffeiriau pentref. Mae hawliau tir comin hefyd ar rai o'r lawntiau.

Ceir 18 lawnt tref neu bentref yng Ngheredigion. Fe'u cofrestrwyd dan Ddeddf Cofrestru Tir Comin 1965, a wnaeth yn bosibl i gofrestru tri chategori o dir fel lawnt tref neu bentref:

  • Tir a neilltuwyd dan Ddeddf Seneddol ar gyfer 'ymarfer corff a hamdden'
  • Tir lle mae hawl i'r trigolion fwynhau chwaraeon a hamdden cyfreithlon
  • Tir a ddefnyddiwyd gan y trigolion ar gyfer chwaraeon a hamdden 'fel hawl' am 'ddim llai nag ugain mlynedd'

O dan y Deddf Tir Comin 1965, gorfodir y Gyngor cadw Cofrestr Tir Comin a Lawntiau Trefol a Pentrefol. Rhoir cyfeirnod unigryw i bob un Comin a Lawnt cofrestredig yn y Sir.

Cynhelir y mapiau a Gofrestrau bapur yn ein swyddfeydd ym Mhenmorfa, Aberaeron. Mae’n bosib eu weld nhw am ddim trwy trefnu apwyntiad cynllaw. Mae oriau swyddfa ni yw 9.00 am i 5.00 pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener. Darperir gopiau o’r gofrestr a fapiau papur am gost, a danllinellir isod.

Dylid pwysleisio tra fod yr Awdurdod Cofrestru Tir Comin yn gallu darparu gyngor am drefnau sydd yn perthyn i’r Gofrestr, ni ellir ddarparu gyngor cyfreithlon. Dylid ceisio cyngor cyfreithlon gyda chyfreithwr.

Ffioedd ar gyfer copiau o’r Gofrestr bapur a fapiau

Copiau o’r Gofrestr neu fapiau (Tir, Perchnogaeth a Hawliau) - £31.25
Pob un cofnod ychwanegol (Tir, Perchnogaeth a Hawliau) - £1.25

Cysylltwch:

Enw: Eifion Jones
Ebost: eifion.jones@ceredigion.gov.uk
Ffôn: 01545 572315

Deddf Tir Comin 2006 - Ceisiadau i 'Gywiro'

Yn ôl Llywodraeth Cymru bydd y cyhoedd o'r 5ed o Fai 2017, ymlaen yn gallu gwneud ceisiadau i newid Cofrestr Tir Comin Cymru, os credant ei bod yn anghywir ac mae ganddynt dystiolaeth o hynny.

Mae'r Rheoliadau'n esbonio'r mathau o geisiadau y mae modd eu gwneud a sut maen nhw'n cael eu prosesu a sut mae penderfynu yn eu cylch.

Bydd ffioedd yn daladwy am rai mathau o geisiadau 'cywiro'. Ar gyfer y rheiny, rhaid i'r ymgeiswyr dalu holl gostau'r broses, gan gynnwys yr amser y bydd y Cyngor yn ei dreulio ar y canlynol:

  1. Sicrhau bod y ceisiadau wedi eu 'gwneud yn ddilys', gyda'r dystiolaeth angenrheidiol yn gefn iddynt; cynghori'r ymgeiswyr ynglŷn â'r camau nesaf ac / neu unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd ei angen
  2. Hysbysebu ac anfon hysbysiadau ffurfiol o'r cais, gan gynnwys paratoi dogfennau a sicrhau eu bod ar gael i'r cyhoedd fwrw golwg drostynt
  3. Gosod hysbysiadau ar y safle, ar gyfer y rhan fwyaf o geisiadau (ond nid pob un)
    Cysylltu â'r ymgeisydd a'r gwrthwynebwyr os oes gwrthwynebiadau, er mwyn ennyn sylwadau a'u rhannu
  4. Penderfynu ynghylch y cais
  5. Hysbysu'r ymgeisydd ac eraill ynglŷn â chanlyniad y cais

Mae cost asesu'r ceisiadau fel mae oherwydd bod angen gwneud gwaith cyfreithiol ac arbenigol ym maes Cofrestru Tir Comin. Fel rheol, mae cais yn costio o leiaf £1350 i'w wneud.

Caiff penderfyniadau ynglŷn â cheisiadau unigol eu gwneud naill ai gan yn y Cyngor, fel yr Awdurdod Cofrestru Tir Comin, neu gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae hynny'n dibynnu a oes gwrthwynebiad i'r cais, natur y gwrthwynebiad a pha fath o gais ydyw. Cofiwch:

  • Os bydd y Cyngor yn penderfynu ynghylch y cais, efallai y bydd angen rhoi cyfle i'r gwrthwynebwyr ac eraill gael dweud eu dweud. Efallai y bydd angen cynnal gwrandawiad neu ymchwiliad cyhoeddus; mae ymchwiliad cyhoeddus gydag arolygydd annibynnol yn costio o leiaf £2000
  • Fe wnaiff yr Arolygiaeth Gynllunio godi tâl ar yr ymgeisydd, os bydd yn rhaid cyfeirio'r cais atynt. Fe wnân nhw roi gwybod i'r ymgeisydd ynglŷn â'u ffioedd nhw ar ôl i'r cais gael ei gyfeirio atynt

Yr ydym yn disgwyl cael rhagor o wybodaeth a ffurflenni cais gan Lywodraeth Cymru cyn bo hir.

Fis Mai 2005, rhoddodd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 hawliau mynediad i bawb i'r holl dir comin cofrestredig yn cerdded. I gael mwy o wybodaeth gweler y dudalen Mynediad i Gefn Gwlad a Thir Comin.

Ffurflen Gais - CA10

Ffurflen Gais - CA13

Canllaw i Rheoliadau Deddf Tiroedd Comin 2006 (Cymru) 2017 - Canllawiau i Ymgeiswyr