Mae rhwydwaith llwybrau cyhoeddus Ceredigion a thiroedd eraill yn asedau pwysig. Yn ogystal â sicrhau cyfleoedd i hamddena, maent hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran datblygu twristiaeth a hybu ffyrdd iach o fyw.

Mae'r Fforwm Mynediad Lleol Ceredigion yn helpu i sicrhau bod cyfleoedd am fynediad i'r arfordir a chefn gwlad yn cael eu hystyried yn llawn.

Corff gwirfoddol yw'r fforwm gyda hyd at 22 o aelodau. Cânt eu penodi ar ôl hysbysebu am aelodau ac maent yn cynrychioli perchnogion a rheolwyr tir, defnyddwyr tir a'r rhai hynny â diddordebau eraill. Mae'r Fforwm yn rhoi cyngor i'r awdurdod lleol yngl?n â materion sy'n ymwneud â mynediad a hamdden.

Yn ôl Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 rhaid i fforwm gynnwys aelodau sy'n cynrychioli'r canlynol:

  • y bobl sy'n defnyddio tir mynediad a llwybrau cyhoeddus lleol
  • perchnogion a deiliaid tir mynediad a thir sydd â llwybrau cyhoeddus
  • buddiannau eraill sy'n berthnasol i'r ardal

Gwybodaeth Bellach

Cyfarfodydd i ddod:

25/04/24 -  Penmorfa, Aberaeron 19:00

Gall aelodau o’r cyhoedd fod yn bresennol fel arsylwyr; i gadarnhau eich presenoldeb e-bostiwch clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.

Cofnodion - Fforwm Mynediad Lleol

I weld cofnodion cyfarfodydd y fforwm cysylltwch ag clic@ceredigion.gov.uk neu ffoniwch 01545 570881.

Adroddiadau Blynyddol

Adroddiad Blynyddol 2016 - 2017

Adnoddau Eraill

Rheoliadau FfML

Ffurflen Hawlio Milltiroedd

Sefydlu

Swyddogaeth a Dyletswyddau

Adroddiadau Flynyddol