O brynu eiddo gwag, gall fod yn gyfle gwych i ailddatblygu eiddo i’w osod ar rent neu’i werthu am elw.

Yn amlach na pheidio, bydd angen gwneud rhywfaint o waith er mwyn defnyddio eiddo gwag eto. Felly, mae’n bwysig sicrhau bod gennych ddigon o arian i dalu am waith o’r fath cyn prynu’r eiddo.

Talu costau prynu ac adnewyddu eiddo gwag

Bydd angen i chi dalu costau prynu’r tŷ gwag a’r costau adnewyddu. Bydd angen digon o arian arnoch i dalu blaendal ac i dalu am y tŷ drwy ddarparu’r cyfalaf neu gael morgais, yn union fel pe baech yn prynu unrhyw fath arall o dŷ.

Gall fod yn anodd cael hyd i forgais i adnewyddu tŷ gwag. Y broblem yw nad oes i eiddo sydd wedi mynd â’i ben iddo fawr ddim gwerth hyd nes iddo gael ei adnewyddu. Os oes angen i chi gael benthyg arian i brynu’r eiddo a’i adnewyddu, byddwch yn gofyn am fwy na gwerth yr eiddo yn ei gyflwr gwael. O safbwynt y benthyciwr, mae hon yn risg uchel. Os na fyddwch yn ad-dalu’r benthyciad, ni fydd gwerth yr eiddo’n ddigon uchel i’r benthyciwr gael ei arian yn ôl os bydd rhaid iddo adfeddiannu’r eiddo.

Ar ôl i chi brynu’r eiddo, mae’n bosib y byddwch yn gymwys i wneud cais am Fenthyciad Eiddo Gwag o dan y Cynllun Troi Tai’n Gartrefi. Benthyciad di-log yw hwn o hyd at £25,000 ar gyfer gwaith sydd angen ei wneud i adfer yr eiddo. Bydd angen i’r benthyciad gael ei warantu yn erbyn yr eiddo, yn union fel morgais. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar y tudalennau Cymorth Ariannol.

Ble i gael hyd i eiddo gwag?

Asiantau gwerthu tai

Dylech alw i weld eich asiantau gwerthu tai lleol i gychwyn. Efallai na fydd ganddynt luniau o dai gwag yn ffenestr y siop, ond nid yw hyn o reidrwydd yn golygu nad oes unrhyw dai gwag ar werth ganddynt. Holwch ac efallai y cewch chi wybod eu bod yn ceisio gwerthu tŷ gwag ers cryn amser. O gofio nad yw’r tŷ wedi gwerthu’n gyflym, efallai y cewch ostyngiad da.

Tai arwerthu

Mae catalogau arwerthu hefyd yn lle da i gael hyd i dai gwag. Os ydych am brynu tŷ mewn arwerthiant, cofiwch y pwyntiau a ganlyn:

  • Eich lle chi yw cael gafael ar fanylion am yr eiddo cyn diwrnod yr arwerthiant
  • Mae angen i chi sicrhau bod yr holl drefniadau ariannol wedi’u gwneud cyn yr arwerthiant, fel trefnu morgais
  • Os bydd eich bid yn llwyddiannus, rhaid i chi gwblhau’r broses brynu o fewn nifer benodol o ddyddiau, mis fel arfer

Cadwch lygad am eiddo gwag

Os oes gennych syniad go lew o’r ardal ddaearyddol lle yr hoffech brynu cartref, gallech fynd am dro o amgylch yr ardal i weld pa dai sydd ar gael yno. Mae’r hyn y byddwch yn ei weld pan fyddwch yn cerdded yn anhygoel; mae un neu ddau dŷ sy’n edrych fel pe baen nhw’n cael eu hesgeuluso ar bron i bob stryd. Gall rhai ohonyn nhw fod yn wag a gallai potensial ambell i adeilad masnachol neu adeilad amaethyddol gwag eich ysbrydoli hefyd.

Cael hyd i’r perchennog

Gallech roi nodyn ar ddrws yr eiddo gwag i ddweud eich bod yn awyddus i gysylltu â’r perchennog. Gallech fynd i siarad â chymdogion, grwpiau cymunedol a siopwyr lleol. Efallai y byddant yn adnabod y perchennog.

Gallech gysylltu ag adran gynllunio ac adran rheoli adeiladu eich cyngor lleol. Os ydyn nhw wedi ymdrin â cheisiadau cynllunio gan y perchennog, efallai y bydd modd iddyn nhw eich helpu. Gallent eich helpu hefyd i gael hyd i unrhyw geisiadau cynllunio cyfredol a gyflwynwyd gan y perchennog.

Os yw’r eiddo mewn ardal wledig, gallech gysylltu â’r cyngor plwyf lleol. Efallai y bydd modd i glerc y cyngor plwyf eich helpu.

Gallech gysylltu â’r Grŵp Gwarchod Cymdogaeth lleol – efallai y bydd ganddo rywfaint o wybodaeth am yr eiddo. I gael manylion y Grŵp Gwarchod Cymdogaeth agosaf, cysylltwch â swyddfa leol yr heddlu.

Gallech chwilio cofnodion y Gofrestrfa Tir sy’n cadw gwybodaeth am bawb sy’n berchen ar dir cofrestredig. Mae hon yn ffordd ddefnyddiol o gael hyd i enw’r perchennog. Yn aml, bydd y cyfeiriad yr un fath â chyfeiriad yr eiddo gwag.

Fel arfer, bydd unrhyw eiddo wedi’i gofrestru â’r Gofrestrfa Tir. Am ffi fechan, gallwch gael cipolwg ar y gofrestr i weld pwy yw’r perchennog: www.landregistry.gov.uk (Saesneg yn unig).

Os nad yw’r tir wedi’i gofrestru, ni fydd gan y Gofrestrfa Tir unrhyw wybodaeth, ond gallech chwilio’r Gofrestr Pridiannau Tir. Bydd yn rhoi manylion y perchennog os oes unrhyw bridiant yn erbyn yr eiddo (er enghraifft, ail forgais) neu os oes papurau methdalu wedi’u cyflwyno.

Os yw perchennog tŷ gwag wedi marw ac os yw’r ewyllys yn destun dadl, neu os nad yw’r etifeddion wedi dod ymlaen, gall tynged yr eiddo fod yn ansicr hyd nes bod modd pennu pwy yw’r perchennog newydd. Yn ystod cyfnod o’r fath, bydd yn aneglur pwy sy’n gyfrifol amdano.

Os cewch hyd i’r perchennog, gallwch gysylltu ag ef i weld a yw’n barod i werthu’r tŷ. Cofiwch y gall perchnogion fod yn gyndyn o werthu’u heiddo gwag am lu o resymau.

Noder na all y Cyngor ddarparu rhestr o eiddo gwag yn yr ardal.