Efallai y byddwch am gadw’r eiddo a’i osod i denantiaid. Mae’n werth cofio bod cryn dipyn o waith ynghlwm wrth fod yn landlord a rheoli tŷ. Byddwch yn gyfrifol am gynnal a chadw’r tŷ a bydd angen i chi drefnu gwahanol bethau, fel archwiliad diogelwch nwy blynyddol. Cewch hyd i ragor o wybodaeth ar ein tudalennau am landlordiaid. Rhaid i landlordiaid pob eiddo yng Nghymru bellach fod yn gofrestredig â Rhentu Doeth Cymru. Mae nifer o gyfreithiau a rheoliadau i’w hystyried.

Dod yn landlord

Mae sawl ffordd o osod eich eiddo. Gallech osod hysbyseb mewn papur newydd lleol neu ffenestr siop leol a rheoli’r eiddo eich hunan.

Gall fod yn syniad da ymuno ag un o’r sefydliadau ar gyfer landlordiaid. Gall roi cyngor a chymorth i chi a chewch wybodaeth reolaidd a fydd yn cynnwys yr holl newyddion. Gall hefyd ddarparu hyfforddiant a gostyngiadau ar bris nwyddau a gwasanaethau.

Rhaid i landlord sy’n gwneud y gwaith rheoli ei hunan gofrestru â Rhentu Doeth Cymru a chael ei drwyddedu ganddynt.

Asiantau Gosod / Rheoli Tai

Efallai y byddai’n well gennych gael rhywun arall i reoli’r eiddo ar eich rhan. Mae nifer o asiantau gosod tai ar gael yng Ngheredigion. Yn gyfnewid am ffi, byddant yn cael hyd i denantiaid, yn casglu rhent, yn ymdrin ag ymholiadau ac yn trefnu i gynnal a chadw’r eiddo. I gael mwy o wybodaeth am y gwasanaethau a ddarperir ganddynt a’r ffioedd a godir ganddynt, cysylltwch â’r asiantau rheoli tai.

Cynlluniau Prydlesu’r Sector Preifat

Gall fod modd i chi osod eich eiddo o dan un o gynlluniau prydlesu’r sector preifat. Gallech ganiatáu i sefydliad sy’n bartner, fel Cymdeithas Dai Leol neu Asiantaeth Gosod Tai, gymryd eich eiddo ar brydles am nifer benodol o flynyddoedd (mwy na 5 mlynedd fel rheol). Yn gyfnewid am hyn, bydd y Gymdeithas neu’r Asiantaeth yn gweithredu fel asiant rheoli. Bydd yn cael hyd i denantiaid, yn casglu’r rhent, yn ymdrin ag ochr weinyddol ac ochr gyfreithiol y cytundebau tenantiaeth, yn ymdrin ag ymholiadau gan denantiaid ac yn trefnu i atgyweirio ac i gynnal yr eiddo.

Mae argaeledd y cynlluniau hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar leoliad a chyflwr yr eiddo. Bydd pob cynllun yn cael ei ystyried yn unigol. Os oes gennych ddiddordeb mewn prydlesu’ch eiddo i Gymdeithas Dai neu i Asiantaeth Gosod Tai, y ffordd orau o fynd o’i chwmpas yw cysylltu â thîm tai Cyngor Sir Ceredigion. Bydd modd iddo gymryd manylion yr eiddo ac ymchwilio ymhellach i’r mater.

Ymhlith manteision yr opsiwn hwn mae incwm rhent rheolaidd a sicr am gyfnod penodol a phrydlesi hirach, ynghyd â sicrwydd y bydd yr eiddo’n cael ei reoli’n effeithiol a’i ddychwelyd i chi mewn cyflwr da. Os oes angen gwneud rhywfaint o waith ar yr eiddo cyn ei osod i denantiaid, gall fod modd ariannu hynny fel rhan o’r trefniant neu efallai y gallwch chi gael benthyciad di-log.

Trwyddedu

Os byddwch yn gosod eich eiddo i fwy na dau berson sy’n perthyn i wahanol aelwydydd (er enghraifft, os oes tri pherson sengl yn byw yn yr eiddo fel ffrindiau, neu os oes pâr ac un ffrind arall yn byw yno), gall fod angen trwyddedu’r eiddo o dan drefn drwyddedu’r Cyngor. Os felly, bydd rhaid i’r eiddo gydymffurfio â’r safonau amwynder, ffitrwydd a thân. Bydd rhaid i ddeiliad y drwydded a rheolwr yr eiddo fod yn unigolion addas a phriodol hefyd. Bydd y Cyngor yn ymchwilio i sicrhau bod yr holl ofynion hyn yn cael eu bodloni cyn rhoi trwydded. I gael mwy o wybodaeth am y drefn drwyddedu, ewch i’r tudalennau am Dai Amlfeddiannaeth.

Amodau byw

Dylai unrhyw un sy’n penderfynu gosod ei eiddo ar rent sicrhau ei fod yn lân, yn sych ac yn ddiogel. Dylai fod yno gyflenwad trydan a dylech drefnu i’r system ddŵr a’r system gwres canolog gael eu harchwilio i sicrhau eu bod yn ddiogel. Gall peiriannau nwy diffygiol ladd. Felly, mae’r landlord yn ysgwyddo cyfrifoldeb cyfreithiol dros gynnal a chadw peiriannau o’r fath a sicrhau bod archwiliad diogelwch yn cael ei gynnal bob blwyddyn. Dylai fod yno gegin o safon resymol, gyda chyfleusterau diogel i storio ac i baratoi bwyd. Os oes problemau o ran cyfleusterau gwael pan fyddwch yn gosod yr eiddo, mae’r rhain yn debygol o waethygu.

Mae ar bob Cyngor ddyletswydd i sicrhau nad yw preswylwyr yn byw mewn llety sy’n is na’r safon. Bydd y Cyngor yn defnyddio’r System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai o dan Ddeddf Tai 2004 i gyflawni asesiad risg mewn unrhyw eiddo lle y gall fod risg. Yn aml, y tenantiaid fydd yn rhoi gwybod i’r Cyngor am broblemau mewn eiddo.

Fel arfer, bydd y swyddogion yn dod ar draws risgiau iechyd a diogelwch fel lleithder a llwydni, oerfel, risgiau baglu a chwympo, a risgiau tân. Fel landlord, byddwch chi’n gyfrifol am leihau effaith unrhyw risg. Ar ôl i’r swyddogion bennu’r risg, bydd y Cyngor yn cydweithio â chi i sicrhau eich bod yn bodloni’r safonau gofynnol. Os na fyddwch yn cydweithredu, gall y Cyngor ddefnyddio’i bwerau o dan Ddeddf Tai 2004 i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni.

I gael mwy o wybodaeth am y safonau disgwyliedig ac am y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai, ewch i’r tudalen Y System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai.