Mae'r Hysbysiad hwn yn eich hysbysu o Dydd Gwener 26 Mai 2023, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio'r "Prawf o Bwriadoldeb".

Hysbysiad i bobl sydd yn gofyn i'r cyngor am gymorth pan yn ddigartref neu sydd dan fygythiad i fod yn ddigartref.

Ddaeth deddfwriaeth Tai newydd i rym ar Ddydd Llun 27ain o Ebrill 2015. Mae hyn yn newid y gyfraith yn sylweddol sut mae Awdurdodau Tai lleol yn delio â phobl ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Mae'r newid sylweddol yn ymwneud â phobl yr ystyria'r Awdurdod Lleol, wedi archwilio'r ffeithiau, iddynt wneud eu hunain yn ddigartref yn fwriadol. Mae Cyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd yn asesu'r bwriad a byddant yn parhau i wneud hynny ar gyfer pob grŵp cleientiaid a nodir isod.

O Dydd Gwener 26 Mai 2023, bydd Cyngor Sir Ceredigion yn defnyddio'r "Prawf O Bwriadoldeb" ar gyfer y grwpiau cleientiaid canlynol:

  • Menyw feichiog neu berson y mae'n preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddi breswylio gydag ef
  • Person y mae plentyn dibynnol yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sy'n hyglwyf o ganlyniad i reswm arbennig (er enghraifft: henaint, salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd corfforol neu feddyliol), neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sy'n ddigartref neu o dan fygythiad o ddigartrefedd o ganlyniad i argyfwng megis llifogydd, tân neu drychineb arall, neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sy'n 16 neu'n 17 oed
  • Person sy'n ddigartref o ganlyniad i wynebu camdriniaeth ddomestig neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio'r sawl sy'n cam-drin) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo'r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, sy'n wynebu perygl arbennig o gamfanteisio rhywiol neu ariannol, neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef (ac eithrio camfanteisiwr neu gamfanteisiwr posibl) neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sydd wedi cyrraedd 18 oed, pan fo'r person yn gwneud cais i awdurdod tai lleol am lety neu gymorth i gadw neu gael gafael ar lety, ond nid 21 oed, a oedd yn derbyn gofal, yn cael ei letya neu'n cael ei faethu ar unrhyw bryd pan oedd o dan 18 oed
  • Person sydd wedi gwasanaethu yn lluoedd arfog rheolaidd y Goron sydd wedi bod yn ddigartref ers gadael y lluoedd hynny, neu y mae person sy'n dod o fewn is-baragraff (i) yn preswylio gydag ef neu y gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sydd â chysylltiad lleol ag ardal yr awdurdod tai lleol ac sy'n hyglwyf o ganlyniad i un o'r rhesymau canlynol –
    • Bod wedi bwrw dedfryd o garchar o fewn ystyr adran 76 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol (Dedfrydu) 2000
    • Bod wedi ei remandio mewn carchar neu ei draddodi i garchar gan orchymyn llys
    • Bod wedi ei remandio i lety cadw ieuenctid o dan adran 91(4) o Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, neu berson y mae person o'r fath gellid disgwyl yn rhesymol iddo breswylio gydag ef
  • Person sy’n ddigartref ac ar y stryd (o fewn ystyr adran 71(2)), neu (ii)y gellid disgwyl yn rhesymol i berson sy’n dod o fewn is-baragraff (i) breswylio gydag ef

Os am wybodaeth bellach ynglyn a'r hysbysiad hwn, gofynnwch am siarad a'r swyddog opsiynau.

Cysylltwch a Rhif Ffon 01970 633396 neu e-bostiwch housingoptionsteam@ceredigion.gov.uk.

Atal digartrefedd yw ein blaenoriaeth a gallwn gynnig cymorth pa beth bynnag yw'r rheswm:

  • Gofynnwyd i chi adael gan deulu neu ffrindiau
  • Derbyniwyd rhybudd gan eich landlord
  • Ôl-ddyledion rhent
  • Adfeddiannau Morgais
  • Unrhyw reswm arall sydd yn bygwth digartrefedd

Amgylchiadau

Gofynnwyd i chi adael gan deulu neu ffrindiau:

  • Byddaf yn trefnu ymweliad â'ch cartref teuluol neu gartref eich ffrindiau er mwyn trafod y rheswm/rhesymau pam y gofynnwyd i'r person a fygythir gan ddigartrefedd i adael. Ceisiwch ddod o hyd i gyfaddawdau a lleihau unrhyw broblemau
  • Trafod ymestyn yr amser y caniateir i'r person aros ac o fewn yr amser hwnnw dod o hyd i lety arall

Os oes gan y person angen sydd yn flaenoriaeth, ac mai dim ond cyfnod ailfeddwl sydd ei angen, bydd y Cyngor yn cynnig llety dros dro tra bod y sefyllfa/anghydfod yn cael ei ddatrys.

Yn y dyfodol gobeithiwn gynnig gwasanaeth cyfryngu a gynigir i'r ddau ymgeisydd a'u rhieni.

Rhybudd a dderbyniwyd oddi wrth landlord

Byddaf yn ceisio siarad gyda landlord yr ymgeisydd a darganfod pam y cafodd rhybudd ei roi a pham y gofynnwyd i chi adael. Gall ei bod yn bosibl datrys unrhyw anawsterau a chaniatáu i'r tenant aros yn yr eiddo.

  • Rhoi cyngor yngl?n â dilysrwydd y rhybudd
  • Siarad gyda'r Adran Budd-dal Tai os oes oedi gyda gwneud taliad

Ôl-ddyledion Rhent

Cynghori ymgeiswyr pa ddyledion bynnag sydd ganddynt i ffynonellau eraill, dylid ystyried unrhyw anawsterau gyda thalu rhent fel blaenoriaeth.

Byddaf yn cysylltu ag asiantwyr gosod/landlordiaid ar ran yr ymgeisydd er mwyn trefnu cynllun talu y cytunwyd arno er mwyn talu'r ôl-ddyledion.

Os oes gan yr ymgeisydd angen sydd yn flaenoriaeth gall y Cyngor ystyried rhoi cymorth ariannol i dalu'r ôl-ddyledion rhent, yn ddibynnol ar y swm a'r amgylchiadau a pham fod gan yr ymgeisydd cymaint o ôl-ddyledion rhent. Math o fenthyciad fydd hyn a bydd yn rhaid i'r ymgeisydd dalu yn ôl ar raddfa y cytunwyd arni. Cynigir hyn ar yr amod y bydd y landlord yn caniatáu i'r tenant aros yn yr eiddo am o leiaf chwe mis.

Siarad gyda'r Adran Budd-dal Tai yngl?n â chais yr ymgeisydd a chefnogi cais am daliad tai dewisiol.

Cyfeirir at y Ganolfan Cyngor ar Bopeth lle bydd cynghorwyr arbenigol yn rhoi cyngor perthnasol ar ddyledion ac yn trafod gyda benthycwyr.

Ôl-ddyledion Morgais

Cyngor yn ymwneud â bygwth digartrefedd oherwydd ôl-ddyledion morgais. Cyfeirir at yr asiantaethau perthnasol a fydd yn medru rhoi cyngor arbenigol.

Rhoddir taflenni a chyngor i'r ymgeisydd.

Cynghorir yr ymgeisydd fod taliadau morgais yn ddyled sydd yn cael blaenoriaeth a bod yn rhaid ei thalu.

Datrys Problemau Yn Ymwneud  Thai

  • Nodi'r ateb gorau ar gyfer yr ymgeisydd
  • Cadw'r denantiaeth
  • Parhau i fyw gyda theulu neu ffrindiau
  • Cyfeirio at Gymdeithas Gofal Ceredigion fel y gall yr ymgeisydd gael mynediad i'r cynllun bondiau os ydynt yn gymwys
  • Sicrhewch fod gan yr ymgeisydd Ffurflen Gais am Eiddo ar gyfer Cofrestr Tai Cyffredin Ceredigion
  • Cynllun Sanctuary Scheme (datblygiad posibl)
  • Cwblhau ffurflenni cais am dai ar gyfer Cymdeithasau Tai
  • Gwneud cais am daliadau Tai Dewisol
  • Dod o hyd i lety arall

Post:

Tim Digartrefedd a Opsiwn Tai
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE

Ffôn:

01970 633396