Mae’r Strategaeth Dai yn amlinellu’r weledigaeth ar gyfer y 5 mlynedd nesaf:

“Bydd digon o lety addas a chynaliadwy ar gael i fodloni anghenion trigolion y sir yn awr ac yn y dyfodol.”

Diben y Strategaeth Dai Leol yw amlinellu gweledigaeth glir ar gyfer tai yn y sir a phennu blaenoriaethau allweddol sy’n nodi ac yn ymateb i’r heriau sydd o’n blaenau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf (2023-2028).

Mae'r Strategaeth yn cydnabod rôl bwysig tai a’r modd y mae’n effeithio ar iechyd a lles unigolion, teuluoedd, a'r gymuned ehangach. Bydd y Strategaeth hefyd yn parhau i fod yn ystyriol o'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru. Mae’n bwysig ein bod ni’n deall ac yn ystyried gofynion cenedlaethau’r dyfodol, eu hanghenion a’r dewisiadau y maent yn eu gwneud gan ystyried sut y gallwn ni ddarparu ar eu cyfer. Mae angen tai arnom y gellir eu haddasu ac sy’n addas i bobl ar wahanol adegau yn eu bywydau Bydd hyn yn cyfrannu’n fawr at sicrhau bod pobl Ceredigion yn iachach a bydd yn gwneud gwell defnydd o’r tai sydd eisoes ar gael. Bydd hefyd yn codi safonau ac yn gwella amodau byw pobl.