Amcan y cynllun 'Tai Cymunedol' yw cefnogi pobl trwy greu llwybr at berchentyaeth cartrefi gyda chynllun rhannu ecwiti.
Benthyciadau sydd i’w cael:
Eiddo i fyw ynddo – Hyd at 20% o'r pris prynu yn amodol ar uchafswm pris o £300,000
Eiddo Gwag - Hyd at 40% o’r pris prynu yn amodol ar uchafswm pris o £300,000
Buddion Allweddol:
Blaendal - Prynu eiddo gydag isafswm blaendal o 5% o’ch arian eich hun.
Benthyciad Di-log - heb unrhyw ad-daliadau misol *yn amodol ar amodau.
Cynyddu cyfran eich ecwiti - Cyfle i'r perchnogion 'gamu fyny' i berchnogaeth cyfranddaliadau uwch o'r eiddo drwy brynu blociau o 5% o gyfran ecwiti'r Cyngor dros amser fel y mae eu hamgylchiadau'n caniatáu.
Eiddo Gwag – Gellir defnyddio'r cynllun cyfranddaliadau ecwiti ochr yn ochr â'r grant i adnewyddu tai gwag i gartrefi (benthyciad gwella cartrefi) wrth drosglwyddo’r eiddo i lawn ddefnydd – Benthyciadau Gwella Cartrefi - Cyngor Sir Ceredigion
Pwyntiau pwysig i'w hystyried cyn derbyn y benthyciad cyfranddaliadau ecwiti.
Ad-daliadau Morgais – Bydd taliadau morgais misol arferol yn ddyledus i unrhyw ddarparwr morgais ar gyfer unrhyw forgeisi a gymerir mewn perthynas â'r pryniant. Bydd taliadau misol yn is gan fod angen llai o forgais oherwydd cyfran ecwiti'r Cyngor.
Morgais – Rhaid i unrhyw forgais a gymerir mewn perthynas â'r pryniant eiddo fod ar sail ad-dalu. Ni chaniateir morgeisi llog yn unig.
Ad-dalu Benthyciad y Cyngor - swm y benthyciad sydd i'w ad-dalu i'r Cyngor fydd y swm arian a fenthycwyd NEU ganran gyfatebol gwerth yr eiddo ar adeg ei ad-dalu, pa un bynnag sydd uchaf. Er enghraifft, os mai'r pris y gytunwyd arno ar gyfer yr eiddo yn £250,000 a'ch bod yn benthyg £50,000 gan y Cyngor, ac ar adeg ad-dalu'r benthyciad, mae gwerth eich eiddo 20% yn fwy na phan wnaethoch ei brynu. Bydd yr ad-daliad i’r Cyngor yn £60,000.
Bydd angen ad-dalu'r benthyciad erbyn diwedd cyfnod y morgais neu o fewn 25 mlynedd, pa un bynnag sydd gynharaf.
Bydd gan y Cyngor gyfran yn eich eiddo hyd nes y bydd y benthyciad yn cael ei ad-dalu.
Tai Fforddiadwy yw un o brif flaenoriaethau’r Strategaeth Gorfforaethol, y Cynllun Llesiant, y Strategaeth Dai a’r Cynllun Datblygu Lleol yng Ngheredigion ac mae’r Cyngor yn defnyddio adnoddau sylweddol i greu a rheoli tai fforddiadwy.
Cymeradwyodd y Cabinet y cynllun ar 6 Mehefin 2023 ac mae modd gweld y manylion drwy fynd at:
(Pecyn Cyhoeddus) Agenda Dogfen i/ar gyfer Cabinet, 06/06/2023 10:00
Cysylltwch
Allech chi gysylltu â ni ar y ffyrdd canlynol:
Ein Ffurflen Cyswllt Ar-lein
Post:
Gwasanaethau Tai
Canolfan Rheidol
Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3UE
Ffôn:
01545 572105